Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

11 Tachwedd 2021


dark

© Dafydd Wyn Morgan/Menter Mynyddoedd Cambria


Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Y Senedd yn cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG; NODYN ATGOFFA - Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo; A yw eich busnes mewn ardal sy'n cael ei chydnabod fel ardal awyr dywyll?; Sgiliau a recriwtio; Beth ydych chi'nei feddwl o dwristiaeth gynaliadwy?; Swyddogaeth coed a phren yn economi y DU; Rhowch wybod i CThEM ac ad-dalu grant Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig


Y Senedd yn cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG

Mae Aelodau'r Senedd wedi cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG i gynnwys sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru.

Yn dilyn y bleidlais bydd angen pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o ddydd Llun 15 Tachwedd ymlaen.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Cael eich pàs COVID y GIG.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


NODYN ATGOFFA - Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG. 


A yw eich busnes mewn ardal sy'n cael ei chydnabod fel ardal awyr dywyll?

Mae gan Gymru rai o'r llefydd gorau yn y byd ar gyfer syllu ar y sêr ac mae'n brofiad y gall pobl o bob oed ei fwynhau.  Oherwydd hyn, rydym wedi ychwanegu tag hidlo 'awyr dywyll'; sy'n golygu, os yw eich busnes yn cefnogi ardal a gydnabyddir yn swyddogol fel ardal awyr dywyll, y gallwch arddangos hyn drwy eich rhestru ar croesocymru.com. Mewngofnodwch i’r offeryn rhestru cynnyrch, sgroliwch i lawr i'r pennawd 'Tagiau Croeso Cymru' a thiciwch y blwch 'awyr dywyll' yna byddwn yn edrych ar y busnesau sydd wedi'u tagio er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r ardaloedd a'r gweithgarwch Awyr Dywyll.

Gallwch ddiweddaru eich rhestrau Digwyddiadau Ymwelwyr, Masnach Teithio a Busnes ar yr un pryd.


Sgiliau a recriwtio

Mae Busnes Cymru yn cefnogi'r ymgyrch recriwtio / gyrfaoedd Twristiaeth a Lletygarwch drwy hyrwyddo #theexperiencemakers. 

Gweld yr eitem a'i rhannu drwy eich sianeli: Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes lletygarwch a thwristiaeth?


Beth ydych chi'nei feddwl o dwristiaeth gynaliadwy?

Mae Archwilio Cymru am glywed gan fusnesau twristiaeth ym Mharciau Cenedlaethol Cymru a'r cyffiniau ynglŷn â’r her o reoli twristiaeth gynaliadwy. Mae ein Parciau Cenedlaethol yn enghreifftiau sy'n bwysig yn rhyngwladol o sut y gellir diogelu tirweddau gweithio. Mae'r cysyniad o dirwedd warchodedig – ardal warchodedig lle mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddi – o bwysigrwydd cynyddol mewn termau cadwraeth byd-eang.

Cewch wybod mwy yn ein bwletin blaenorol a cliciwch yma I agor yr arolwg.

Drwy dreulio ychydig funudau'n rhannu eich barn gallwch helpu i siapio dyfodol twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru.


Swyddogaeth coed a phren yn economi y DU

Cymerwch ran mewn arolwg o’r diwydiant cyfan a rhowch eich barn ar rôl coed a phren yn economi'r DU

Os ydych chi’n gweithio mewn coetiroedd neu goedwigoedd yng Nghymru neu os ydych chi’n dibynnu arnynt fel rhan o'ch busnes, gallwch chi helpu i wneud cyfraniad holl bwysig i'ch diwydiant drwy gymryd rhan yn yr arolwg cyflym 15 munud hwn, fel bod rôl gynyddol bwysig coed a phren i economi'r DU yn cael ei chydnabod.

Cymerwch ran yn yr arolwg: GB Forestry - Company Survey cliciwch yma am ragor o wybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru / Ydych chi’n gweithio mewn coedwigoedd neu goetiroedd yng Nghymru? Rydyn ni eisiau clywed gennych chi


Rhowch wybod i CThEM ac ad-dalu grant Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig

Mae CThEM yn ysgrifennu at unigolion sydd wedi derbyn grantiau o dan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig ond heb gwblhau’r ffurflen dreth hunanasesu yn llawn ar gyfer 2019/20 eto. Mae’r llythyr yn rhoi manylion y camau sydd angen i hawlwyr eu cymryd.

I fod yn gymwys am grant o dan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS), roedd yn rhaid i unigolion fod yn masnachu yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth yn 2019/20. Roedd gofyn iddynt gwblhau ffurflen dreth hunanasesu treth incwm ar gyfer y flwyddyn honno, a ddylai fod wedi’i chyflwyno erbyn 31 Ionawr 2021.

Nawr, mae CThEM yn ysgrifennu at y rhai hynny a wnaeth gais am un o’r tri grant SEISS cyntaf (a gynhaliwyd rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ionawr 2021), ond nad ydynt wedi cyflwyno ffurflen 2019/20 neu lle nad oedd eu ffurflen yn cynnwys incwm o hunangyflogaeth neu bartneriaeth.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram