Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN: Datganiad Ysgrifenedig: Newidiadau i reolau teithio rhyngwladol – trefniadau profi; Cyllideb Hydref 2021; Beth ydych chi'nei feddwl o dwristiaeth gynaliadwy?; Cymru'n cynnal Marchnad Teithio Golff Ryngwladol o fri; Cynllun Ailyswirio Digwyddiadau Byw y DU; Cymru – Cyrchfan Bwyd. Gweithdai rhithwir ym mis Tachwedd; Adeiladu dyfodol hyderus i ddefnyddwyr ceir trydan; COP Cymru – llywio ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd
Datganiad Ysgrifenedig: Newidiadau i reolau teithio rhyngwladol – trefniadau profi
Yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yng ngweddill y DU, rwy’n cadarnhau heddiw (22 Hydref) y bydd pob teithiwr sydd wedi'i frechu'n llawn sy'n cyrraedd Cymru yn gallu cymryd prawf llif unffordd yn hytrach na'r gofyniad presennol i gymryd prawf PCR.
Daw'r newidiadau i rym yng Nghymru ddydd Sul, 31 Hydref.
O ddydd Sul 31 Hydref ymlaen bydd pob oedolyn yng Nghymru sydd wedi cwblhau eu cwrs dau ddos o'r brechlyn COVID-19 a'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc dan 18 oed, sydd wedi teithio o wledydd nad ydynt ar y rhestr goch, yn gallu cymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod 2, neu cyn hynny, ar ôl iddynt gyrraedd y DU.
Os bydd pobl yn cael canlyniad prawf llif unffordd positif ar ôl iddynt ddychwelyd o deithio dramor, bydd gofyn iddynt hunanynysu am 10 diwrnod a chymryd prawf PCR dilynol.
Bydd y dewis ar gael o hyd i bobl drefnu a chymryd prawf PCR fel y prawf gofynnol ar ddiwrnod 2, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r newidiadau hyn yn Lloegr ddydd Sul 24 Hydref.
Darllen yn llawn ar Llyw.Cymru.
Cyllideb Hydref 2021
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Chyllideb ar gyfer yr Hydref 2021.Dyma rai pwyntiau pwysig:
- fis Ebrill 2022 bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o £8.91 yr awr i £9.50
- bydd y doll tanwydd yn parhau wedi rhewi am 12fed flwyddyn
- toriad 5% i dreth ar gwrw a seidr drafft wedi’i weini o gynwysyddion dros 40 litr
- bydd hediadau rhwng meysydd awyr yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn destun cyfradd is newydd o Dreth Teithwyr Awyr o Ebrill 2023
- £121 miliwn o Gronfa Codi’r Gwastad ar gyfer 10 prosiect yng Nghymru gan gynnwys adfywio Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ac ailddatblygu Canolfan Gelfyddydau Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Yr Adolygiad o Wariant yn gadael "bylchau yn y cyllid" i Gymru | LLYW.CYMRU a Datganiad Ysgrifenedig gan Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adolygiad o Wariant a Chyllideb Hydref 2021 Llywodraeth y DU (28 Hydref 2021).
Beth ydych chi'nei feddwl o dwristiaeth gynaliadwy?
Mae Archwilio Cymru am glywed gan fusnesau twristiaeth ym Mharciau Cenedlaethol Cymru a'r cyffiniau ynglŷn â’r her o reoli twristiaeth gynaliadwy.
Mae ein Parciau Cenedlaethol yn enghreifftiau sy'n bwysig yn rhyngwladol o sut y gellir diogelu tirweddau gweithio. Mae'r cysyniad o dirwedd warchodedig – ardal warchodedig lle mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddi – o bwysigrwydd cynyddol mewn termau cadwraeth byd-eang.
Cewch wybod mwy yn ein bwletin blaenorol a cliciwch yma I agor yr arolwg.
Drwy dreulio ychydig funudau'n rhannu eich barn gallwch helpu i siapio dyfodol twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru.
Cymru'n cynnal Marchnad Teithio Golff Ryngwladol o fri
Yr wythnos ddiwethaf Cymru oedd y wlad gyntaf erioed yn y DU i gynnal y Farchnad Teithio Golff Ryngwladol (IGTM), a drefnir gan RX Exhibitions. Y prif ddigwyddiad oedd yr arddangosfa masnach teithio 3 diwrnod yn ICC Cymru lle'r oedd gan Croeso Cymru a 13 o bartneriaid ar stondinau dros 450 o apwyntiadau ar eu stondinau gyda cwmnïau teithiau golff a'r cyfryngau, ochr yn ochr â chyrchfannau golff Ewropeaidd. Roedd y digwyddiad hefyd yn arddangos cyrsiau golff Cymru gan gynnwys Twenty Ten y Celtic Manor, Porthcawl Brenhinol, The Vale a St Pierre Marriott Hotel &Country Club, yn ogystal â digwyddiadau rhwydweithio strwythuredig lle'r oedd cynrychiolwyr yn profi bwyd, diod a diwylliant o Gymru wrth siarad â chysylltiadau a chynnal busnes.
Mae rhywfaint o adborth cychwynnol gan gynrychiolwyr wedi cynnwys: "Wedi bod yn dod i IGTM am 12 mlynedd, digwyddiad cyrchfan gorau (gyda'r nos) erioed"; "digwyddiad cau gorau erioed"; " mor falch bod Cymru wedi ei chynnal"; "llwyddiant mawr i Gymru"; "erioed wedi cael cymaint o gynnyrch o Gymru"; "Dyma’r ffordd berffaith i ddychwelyd i gyfarfod wyneb yn wyneb ar gyfer twristiaeth golff - digwyddiad gwych iawn – cofiadwy iawn".
Diolchwn i'n holl bartneriaid am gymryd rhan i wneud y digwyddiad dylanwadol hwn yn y calendr golff yn gymaint o lwyddiant. Mae adborth gan rai o'r partneriaid ar stondinau wedi cynnwys: "Digwyddiad gwych – gwelwch chi yn yr un nesaf"; "Wythnos werth chweil"; "Mae wedi bod yn wythnos mor gynhyrchiol a phleserus"; "Roedd y stondin yn wych"; "Diolch am gynnal digwyddiad gwych ac am gael y stondin orau yn yr IGTM".
Cynllun Ailyswirio Digwyddiadau Byw y DU
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ym mis Awst ei fod wedi creu partneriaeth gydag yswirwyr i ddarparu’r Cynllun Ailyswirio Digwyddiadau Byw. Mae’r cynllun wedi agor, a bydd yn rhedeg tan ddiwedd Medi 2022. Bydd yn gweld Llywodraeth y DU yn gweithredu fel ‘ailyswiriwr’ - gan gamu i’r adwy gyda gwarant i sicrhau y gall yswirwyr gynnig y cynhyrchion sydd eu hangen ar gwmnïau digwyddiadau.
Bydd y cynllun yn cefnogi digwyddiadau byw ledled y DU sydd ar gael i’r cyhoedd - fel gwyliau cerddoriaeth a digwyddiadau busnes. Bydd yn talu’r costau a geir pe bai digwyddiad yn gorfod cael ei ganslo oherwydd nad oes modd iddo gael ei gynnal yn gyfreithlon yn sgil cyfyngiadau Covid-19.
Darllenwch ar wefan Busnes Cymru a dod o hyd I fanylion llawn y cynllun ar Live Events Reinsurance Scheme - GOV.UK.
Cymru – Cyrchfan Bwyd. Gweithdai rhithwir ym mis Tachwedd
Mae Cymru. Cyrchfan Bwyd yn cynnig gweithdai rhithwir yn ystod mis Tachwedd – mae’r rhain wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer unrhyw fusnes sydd yn prynu, gweini ac yn gwerthu bwyd a diod o Gymru. Cewch wybod mwy ar Gweithdai a Dosbarthiadau Meistr Tachwedd 2021 – Sgiliau Bwyd Cymru
Os hoffech drafod gweithdai pellach sy'n benodol i'ch ardal neu weithgareddau, anfonwch ebost tȋm Cymru. Cyrchfan Bwyd.
Adeiladu dyfodol hyderus i ddefnyddwyr ceir trydan
Mae cynlluniau uchelgeisiol sy'n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn seilwaith ac yn gweithio gyda'r sector preifat i roi'r hyder i bobl yng Nghymru newid i gerbydau trydan wedi'u datgelu.
Gyda mwy na 1,000 o bwyntiau gwefru cyhoeddus eisoes ledled Cymru, un ar gyfer pob chwe cherbyd trydan batri, mae'r cynlluniau'n nodi sut y gallwn sicrhau bod nifer y pwyntiau gwefru yn parhau i dyfu i ateb y galw cynyddol wrth i ni roi’r gorau i ddefnyddio cerbydau tanwydd ffosil.
Mae'r Cynllun Gweithredu ar Wefru Cerbydau Trydan yn nodi hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r sector preifat, gyda'r nod o ddarparu pwyntiau gwefru ar bob 20 milltir o'r rhwydwaith cefnffyrdd strategol ledled Cymru erbyn 2025, gan roi sicrwydd pellach i yrwyr cerbydau trydan.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
COP Cymru – llywio ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd
Mae COP Cymru’n gyfres o ddigwyddiadau sy’n cynnig cyfle i bawb yng Nghymru gymryd rhan mewn trafodaethau pwysig ynghylch y newid yn yr hinsawdd.
Bydd yr holl ddigwyddiadau COP Cymru’n cael eu darlledu’n fyw ar y dudalen Cynnwys Byw. Gall cynrychiolwyr cofrestredig hefyd gael mynediad at gynnwys ‘ar alw’, gwybodaeth am ddigwyddiadau ymylol ac adnoddau eraill.
Darllen yn llawn ar wefan Busnes Cymru ac am ragor o wybodaeth ewch i COP CYMRU 2021
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|