Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN: Y Pethau Pwysig yn cyflwyno profiadau cofiadwy; Sefydlu cynllun cofrestru neu drwyddedu statudol ar gyfer gweithredwyr llety gwyliau yng Nghymru; Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch; Dyddiadau newydd ar gyfer gweminarau i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i fynd yn ddigidol; Adolygiad o’r sector teithio, twristiaeth, hamdden, lletygarwch ac arlwyo: Holiaduron Ar-lein – estyn y dyddiad cau; Ydych chi'n ailagor eich busnes, neu'n bwriadu gwneud hynny cyn bo hir?
Y Pethau Pwysig yn cyflwyno profiadau cofiadwy
Mae'r haf prysur i Economi Ymwelwyr Cymru wedi dangos pwysigrwydd hanfodol seilwaith twristiaeth o ran darparu profiad o safon i ymwelwyr.
Er mwyn helpu sefydliadau i gynllunio ymlaen ar gyfer y blynyddoedd i ddod, mae Y Pethau Pwysig yn gronfa newydd ledled Cymru sy'n cefnogi sefydliadau cyhoeddus, y trydydd sector a sefydliadau dielw i gyflawni gwelliannau sylfaenol i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach.
Mae 26 o brosiectau wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am gyllid ar gyfer y gronfa £2.4 miliwn ar gyfer 2021 i 2022.
Darllenwch fwy yn Llyw.Cymru.
Sefydlu cynllun cofrestru neu drwyddedu statudol ar gyfer gweithredwyr llety gwyliau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Strategic Research & Insight (SRI), asiantaeth ymchwil annibynnol yng Nghaerdydd, i gyfweld â rhanddeiliaid er mwyn edrych ar y posibilrwydd o sefydlu cynllun cofrestru neu drwyddedu statudol ar gyfer gweithredwyr llety gwyliau yng Nghymru.
Bydd SRI yn siarad â rhanddeiliaid yn Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a chymdeithasau masnach yng Nghymru, yn ogystal ag ymchwilio i arferion gorau mewn gwledydd eraill er mwyn ystyried:
- A fyddai datblygu cynllun cofrestru neu gynllun trwyddedu yn briodol yng Nghymru
- Yr opsiynau ar gyfer sut y byddai cynllun o’r fath yn cael ei weithredu a'i ddarparu ar lefel genedlaethol a/neu leol
- Yr adnoddau y byddai eu hangen ar gyfer pob un o'r opsiynau gorau
- Sut y byddai cynllun o’r fath yn cefnogi meysydd polisi eraill Llywodraeth Cymru megis tai a threthiant
- A ddylai cynllun gael ei gyfuno neu fod yn gydnaws â chynllun graddio presennol Croeso Cymru neu a ddylai ddilyn model Rhentu Doeth Cymru.
Dysgwch fwy yn ein bwletin diwethaf.
Sgiliau a Recriwtio
I gael gwybodaeth am gymorth gyda sgiliau a recriwtio ar gyfer lletygarwch a digwyddiadau Twristiaeth, gan gynnwys yr ymgyrch recriwtio, ewch i'n tudalennau Sgiliau a Recriwtio.
Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch
Mae arian ar gael i helpu gweithwyr o fewn busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i fynd ar gyrsiau hyfforddi sy’n berthnasol i’r sector. Cynigir cyrsiau ar-lein a rhai wyneb yn wyneb.
Mae Llywodraeth Cymru’n gallu cynnig hyd at £25,000, gan gyfrannu at 50% o gost yr hyfforddiant.
Cewch ddewis unrhyw gwmni hyfforddi cyn belled â’i fod wedi’i achredu. Rhaid bod yr hyfforddiant hefyd wedi’i achredu, at safon gydnabyddedig y diwydiant.
Dyma’r math o hyfforddiant sy’n dod o dan y rhaglen hon:
- Gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Covid, gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch
- Hyfforddiant arbenigol e.e. coginio proffesiynol, bwyd a diodydd, cadw tŷ, hyfforddwr awyr agored/rhaffau uchel
- Arwain a Rheoli
- Gwasanaethu Cwsmeriaid
- Sgiliau TGCh a Digidol
- Twristiaeth Gynaliadwy
I gael gwybod a yw’ch busnes yn gymwys ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sgiliau Hyblyg
Dyddiadau newydd ar gyfer gweminarau i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i fynd yn ddigidol
Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi ychwanegu dyddiadau newydd at eu cyfres gweminarau Twristiaeth a Lletygarwch.
Bydd Cyflymu Cymru i Fusnesau yn dangos i chi sut i osod eich busnes ar wahân ar-lein, ymgysylltu â chwsmeriaid newydd, manteisio ar adolygiadau, yn ogystal â defnyddio offer digidol megis platfformau archebu ar-lein i redeg eich busnes yn llwyddiannus.
- 10 Tachwedd 2021 (1pm – 3pm) - Rhan 1 : Y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y maes twristiaeth a lletygarwch
- 11 Tachwedd 2021 (2pm – 4pm) - Rhan 2 : rhedeg eich busnes twristiaeth a lletygarwch ar-lein
Cofrestrwch ar gyfer y gweminarau yma a darganfod mwy am gefnogaeth un i un am ddim.
Adolygiad o’r sector teithio, twristiaeth, hamdden, lletygarwch ac arlwyo: Holiaduron Ar-lein – estyn y dyddiad cau
Mae Cymwysterau Cymru eisiau clywed eich barn chi am y cymwysterau, a’r system gymwysterau yn y sector teithio, twristiaeth, lletygarwch ac arlwyo.
Rydym yn annog cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu i gymryd rhan trwy lenwi’r holiadur ar-lein: mae’r dyddiad cau wedi’i estyn i 22 Hydref 2021.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur, cysylltwch â
teithioatwristiaeth@cymwysteraucymru.org
Ydych chi'n ailagor eich busnes, neu'n bwriadu gwneud hynny cyn bo hir?
Os ydych chi'n dod â'ch gweithwyr cyflogedig yn ôl yn rhan-amser, gallwch hawlio ffyrlo yn hyblyg ar eu cyfer o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS).
Mae ceisiadau ar gyfer mis Awst bellach wedi cau; os oes angen i chi wneud newid am na wnaethoch chi hawlio digon, gallwch wneud hyn tan 28 Medi 2021.
Gallwch barhau i wneud cais ar gyfer mis Medi tan 14 Hydref 2021.
Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|