Sefydlu cynllun cofrestru neu drwyddedu statudol ar gyfer gweithredwyr llety gwyliau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Strategic Research & Insight (SRI), asiantaeth ymchwil annibynnol yng Nghaerdydd, i gyfweld â rhanddeiliaid er mwyn edrych ar y posibilrwydd o sefydlu cynllun cofrestru neu drwyddedu statudol ar gyfer gweithredwyr llety gwyliau yng Nghymru.
Bydd SRI yn siarad â rhanddeiliaid yn Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a chymdeithasau masnach yng Nghymru, yn ogystal ag ymchwilio i arferion gorau mewn gwledydd eraill er mwyn ystyried:
- A fyddai datblygu cynllun cofrestru neu gynllun trwyddedu yn briodol yng Nghymru
- Yr opsiynau ar gyfer sut y byddai cynllun o’r fath yn cael ei weithredu a'i ddarparu ar lefel genedlaethol a/neu leol
- Yr adnoddau y byddai eu hangen ar gyfer pob un o'r opsiynau gorau
- Sut y byddai cynllun o’r fath yn cefnogi meysydd polisi eraill Llywodraeth Cymru megis tai a threthiant
- A ddylai cynllun gael ei gyfuno neu fod yn gydnaws â chynllun graddio presennol Croeso Cymru neu a ddylai ddilyn model Rhentu Doeth Cymru
Gallai’r cynllun esgor ar fanteision sylweddol, gan gynnwys chwarae teg i weithredwyr llety proffesiynol ac amatur, a goruchwyliaeth well o lawer o'r sector er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau ym maes twristiaeth, tai, iechyd yr amgylchedd a threthiant. Rydym yn cydnabod hefyd fod safbwyntiau ac ystyriaethau ehangach y mae angen eu hystyried.
Gan na fydd modd i SRI siarad â phob busnes yn ystod y gwaith hwn, gofynnir ichi gyflwyno unrhyw sylwadau sydd gennych drwy eich corff cynrychioliadol; bydd y rhain yn helpu i lywio’r penderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno cynllun ai peidio, ac os penderfynir o blaid hynny, sut i wneud hynny.
Os nad oes modd ichi gysylltu â'ch corff cynrychioliadol, anfonwch eich sylwadau drwy’r e-bost at anthony@strategic-research.co.uk .
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
|
|
|
|
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|