Yr ardal Datblygu Lleol dan sylw y mis hwn yw Powys.
Arwain yw enw Rhaglen LEADER 2014-2020 ar gyfer Powys. Mae'r fenter yn gweithio gyda phrosiectau a fydd yn creu cymunedau lleol bywiog, grymus a chysylltiedig, gan ddarparu atebion cynaliadwy ac arloesol i faterion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol presennol ac yn y dyfodol, er mwyn gwella cyfoeth economaidd y sir. Prosiectau Lleol – ar hyn o bryd mae 52 o brosiectau ym Mhowys, sy'n rhychwantu themâu LEADER, sef -
- Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol
- Hwyluso datblygu cyn-fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr
- Ystyried ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol
- Ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol
- Manteisio ar dechnoleg ddigidol
Mae detholiad o Astudiaethau Achos sy'n cwmpasu themâu megis Digidol, y Gymuned, Bwyd a Diod a'r Amgylchedd ar dudalennau Astudiaethau Achos y Rhwydwaith Datblygu Gwledigdudalennau Astudiaethau Achos y Rhwydwaith Datblygu Gwledig
|