Cylchlythyr Gwlad 26 Awst 2021

26 Awst 2021

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION

Gwair

Cynllun y taliad Sylfaenol Trosglwyddo hawliau

Mae ffurflenni Trosglwyddo Hawliau am 2022 ar gael ichi ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid ichi roi gwybod inni cyn canol nos 15 Mai 2022 am unrhyw hawliau sydd wedi’u trosglwyddo er mwyn ichi allu hawlio ar yr hawliau a gewch yn 2022.

Fferm

Cynhyddu gwerth Hawliau BPS

Ar ôl i’r gofyniad Gwyrddu gael ei ddileu o BPS o 2021 ymlaen, mae'r gyllideb ar gyfer Gwyrddu wedi cael ei symud i’r gyllideb hawliau BPS. Rydym wedi cynyddu gwerth yr hawliau mewn ymateb i’r newid hwn yn y gyllideb.
Mae'r newid yn ngwerth yr hawliau i'w weld bellach ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

Amaethyddiaeth

Y Bil Amaethyddiaeth

Yn dilyn ein Papur Gwyn y llynedd, byddwn yn cyflwyno Bil Amaethyddiaeth ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon i greu system newydd o gymorth fferm a fydd yn manteisio i’r eithaf ar bŵer diogelu natur drwy ffermio. Bydd hyn yn gwobrwyo ffermwyr sy'n cymryd camau i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, gan eu cefnogi i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Byddwn yn disodli'r pwerau am gyfnod penodol yn Neddf Amaethyddiaeth y DU 2020, a gymerwyd gennym i ddarparu parhad a sefydlogrwydd yr oedd mawr eu hangen ar ein ffermwyr wrth inni adael yr UE. Y Bil yw’r cam cyntaf yn ein rhaglen diwygio amaethyddol, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid a ffermwyr ar ein cynigion hirdymor.

Coed

Y Grant Buddsoddi Mewn Coetir (TWIG)

Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn rhan o’r rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru. Bydd yn darparu cymorth ariannol i helpu pobl i:

  • greu coetiroedd newydd
  • gwneud gwelliannau i goetiroedd presennol

sy'n bodloni safonau'r Goedwig Genedlaethol. Gellir cyplysu'r grant â mathau eraill o gyllid. Bydd hyn yn creu coetiroedd amlbwrpas o ansawdd uchel. Agorodd y ffenestr ar gyfer gwneud cais ar 14 Gorffennaf a bydd yn cau ar 27 Awst.

Gillian Williams

Mae gwneud y mwyaf o werth cnu Cymreig yn ail fusnes proffidiol i ffermwr defaid a chrefftwr craff

Mae Gillian Williams yn gwybod popeth am ddefaid. Mae gwneud arian o ddefaid yn dod yn naturiol i’r ffermwr defaid a gafodd ei geni ar Ynysoedd Falkland ond sydd bellach yn byw ar y fferm deuluol ger Tywyn. Ond wrth geisio rhoi’r holl brofiad ar waith a ffermio defaid yng Nghymru, roedd Gillian yn teimlo bod ganddi lawer mwy i ddysgu. Mae hi’n ddiolchgar i raglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio am ei chyflwyno i syniadau newydd.

Gwobrau Dewi Sant

Gwobrau Dewi Sant 2022

Rydyn ni angen eich help chi i ddod o hyd i enillwyr nesaf Gwobrau Dewi Sant – gwobrau cenedlaethol Cymru.  Dyma’ch cyfle chi i gydnabod y bobl arbennig sy’n gwneud Cymru’n wych!

Eleni, mae categori newydd – Gwobr Dewi Sant Pencampwr yr Amgylchedd.  Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 21 Hydref.

 

coal

Rheoleiddio Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith ar drefn arfaethedig newydd ar gyfer sicrhau diogelwch tomenni glo yng Nghymru yw dydd Gwener 10 Medi. Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd sylwadau ar gynigion a fydd yn helpu i ddatblygu trefn statudol newydd ar gyfer mwy na 2,000 o domenni glo segur yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o’r tomenni hyn ar dir preifat, gan gynnwys ffermdir.

wrnsu

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru (UGRGC)

Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:

  • gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
  • ymwneud â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a'r cynlluniau y mae'n eu hariannu.
FLS

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.

Llinellau Cymorth

FarmWell Cymru

Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.

Wefan: https://farmwell.cymru/

Cronfa Addington

Ffoniwch: 1926 620135

Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/

Sefydliad DPJ 

Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799

Ebost: contact@thedpjfoundation.com

Wefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/ 

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch: 03000 111 999 

Wefan: https://fcn.org.uk/?lang=cy 

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch: 0808 281 9490

E-bost: help@rabi.org.uk

Wefan: https://rabi.org.uk/

Tir Dewi

Ffoniwch: 0800 121 47 22

Wefan: https://www.tirdewi.co.uk/cy/home-welsh/

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/ffermio-a-chefn-gwlad

Dilynwch ar Twitter:

@LlCCefnGwlad

@LIC_Pysgodfeydd