eCylchlythyr Dysg: 8 Medi 2021 • Rhifyn 261

8 Medi 2021 • Rhifyn 261

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

WG logo

Datganiad Ysgrifenedig: Brechiad COVID-19 – cyngor y Cyd-bwyllgor ar Frechu ag Imiwneiddio (JCVI) ar gynnig brechiad pellach i unigolion sy’n ddifrifol imiwnoataliedig

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Education - Primary classroom

Dogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (Cymru) 2021

Datganiad Ysgrifenedig: Codiad Cyflog Athrawon 2021

Education - Criw Mentrus

Digwyddiad Cyswllt Athrawon Y Criw Mentrus Syniadau Mawr Cymru

Dydd Llun 27 Medi 2021 4.00pm - 5.15pm

Ymunwch â ni ar gyfer yr ail Ddigwyddiad Cyswllt Athrawon Y Criw Mentrus sy'n canolbwyntio ar Fenter Gymunedol. Rhannwch syniadau a phrofiadau newydd gydag athrawon ac entrepreneuriaid eraill - archebwch eich lle yn gynnar i osgoi cael eich siomi os gwelwch yn dda. E-bostiwch helo@YCriwMentrus.com gydag unrhyw gwestiynau. 

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Trefniadau asesu newydd ar gyfer Cwricwlwm i Gymru – cyfle i ddweud eich dweud yn ein hymgynghoriad!

Hoffem ofyn i chi ddweud eich dweud ar yr awgrymiadau polisi sy’n deillio o bedair elfen benodol o ddeddfwriaeth parthed y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (2021), a fydd, gyda'i gilydd, yn sefydlu'r ffordd rydyn ni’n ymdrin ag asesu a phrosesau eraill sy’n cefnogi cynnydd y dysgwr yn y Cwricwlwm i Gymru. 

Fe fydd y cyfnod ymgynghori ar agor rhwng dydd Llun 6 Medi a dydd Sul 31 Hydref. 

Datganiad Ysgrifenedig

Anghenion dysgu proffesiynol lleoliadau nas cynhelir

Mae Llywodraeth Cymru wedi contractio ‘The Learning Partnership Ltd’ i asesu anghenion dysgu proffesiynol y sector nas cynhelir yn barod ar gyfer Cwricwlwm i Gymru a'i weithredu statudol ym mis Medi 2022.

Yr arolwg hwn yw'r cam cyntaf o ran asesu a dadansoddi anghenion y sector i greu cynllun cyflawni dysgu proffesiynol. Fel gweithiwr proffesiynol gwerthfawr o fewn y sector, hoffem glywed eich barn i helpu i lunio'r gwaith hwn. I gwblhau'r arolwg, cliciwch ar y ddolen

Os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i'r ddolen, copïwch hi i far cyfeiriad eich porwr.

Bydd yr arolwg yn cau ar 24 Medi.

Cyhoeddi cefnogaeth ychwanegol i iechyd meddwl ieuenctid

Heddiw, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i helpu mwy o bobl ifanc i gael cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a lles emosiynol drwy ddulliau gwaith ieuenctid.

Datganiad Ysgrifenedig: Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

Adolygiad cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Adroddiad gan Steve Morris yn cyflwyno casgliadau ac argymhellion yr 'Adolygiad Cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol'.

Fframwaith Asiantaeth Cyflenwi'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

Os ydych yn defnyddio asiantaethau i ddiwallu eich anghenion cyflenwi, dylech ddefnyddio'r rhai sydd wedi ymrwymo i'r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a'n hegwyddorion Gwaith Teg ehangach.

Enwebwch ar gyfer Gwobrau Dewi Sant

Rydyn ni angen eich help chi i ddod o hyd i enillwyr nesaf Gwobrau Dewi Sant – gwobrau cenedlaethol Cymru.

Dyma’ch cyfle chi i gydnabod y bobl arbennig sy’n gwneud Cymru’n wych! Eleni, mae categori newydd – Gwobr Dewi Sant Pencampwr yr Amgylchedd.

Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2022 yn cau ar 21ain Hydref.

AGAA: Cymeradwyaeth

Mae ein galwad gyfredol am gymeradwyaeth ar agor ac yn cau ar 1 Hydref 2021 

Mae’r alwad agored hon ar gyfer datblygu arweinyddiaeth yn ystod unrhyw gam gyrfa, er enghraifft arweinwyr canol, uwch arweinwyr a phenaethiaid profiadol mewn Ysgolion, Ôl-16 a Gwaith Ieuenctid. Gall hefyd gynnwys unrhyw agwedd ar ddatblygu arweinyddiaeth fel lles, Dylunio Cwricwlwm, ADY, ymholi a hyfforddi.

Estyn: Adeiladu ar gryfderau a dileu rhwystrau – paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru

Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth? Mae’r blog hwn a’r recordiad o’r weminar yn amlygu rhai o’r cryfderau sy’n dod i’r amlwg a’r rhwystrau canfyddedig a welwyd mewn rhai ysgolion wrth baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Diweddariad ar yr adolygiad i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg

Ym mis Mehefin 2021, gofynnodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i Estyn adolygu’r diwylliant a’r prosesau mewn ysgolion uwchradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd annibynnol i ddiogelu a chefnogi pobl ifanc. 

YMGYNGHORIADAU

Cynllun gweithredu LHDTC+

Ymgynghoriad yn cau: 22 Hydref 2021

GOFAL PLANT, CHWARAE A'R BLYNYDDOEDD CYNNAR

Ymestyn rhyddhad ardrethi i ddarparwyr gofal plant hyd at 2025

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi y bydd safleoedd gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn elwa o gael rhyddhad ardrethi annomestig 100% am dair blynedd arall.

Datganiad Ysgrifenedig

Chwarae Cymru: Ffocws ar chwarae: cefnogi hawl plant i chwarae mewn ysgolion

Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar gyfer penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr ysgolion. Mae’n ystyried rôl allweddol chwarae plant wrth hybu iechyd meddwl positif ac mae’n trafod ffyrdd y gall ysgolion hyrwyddo chwarae wrth i ni barhau i helpu plant i ddelio â’r ansicrwydd maent wedi ei wynebu.

Sicrhau gweledigaeth glir a rennir ar gyfer dysgu seiliedig ar chwarae i  bob dysgwr

Darganfyddwch pam y dylai penaethiaid ac ymarferwyr deimlo'n hyderus yn archwilio dulliau addysgeg seiliedig ar chwarae sy'n cyd-fynd â'r negeseuon yng Nghwricwlwm Cymru. 

HWB AC ADNODDAU ERAILL

Hybu Cig Cymru

Gall athrawon lawrlwytho’r holl adnoddau am ddim, am darddiad cig coch, coginio a bwyta'n iach, oddi ar y wefan newydd sef hwbcigcoch.cymru/ sy’n cynnwys cyflwyniadau a thaflenni gwaith parod, fideos a ryseitiau apelgar i’w defnyddio’n y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, 3 a 4.

Minecraft: Education Edition - cofrestrwch nawr ar gyfer cwrs hyfforddi hydref 2021

Cyfle i wireddu potensial Minecraft: Education Edition yn eich ystafell ddosbarth.

Gemau Geiriau Rily’r Ddraig

Cyfle i ddysgu drwy chwarae gyda’r gemau geiriau hwyliog. Mae’r gemau yma’n ddelfrydol ar gyfer cyflwyno’r iaith Gymraeg a Saesneg yn gynnar ac mewn modd hamddenol. O baru geiriau a lluniau’n chwareus i wella sgiliau a gallu ym maes llythrennedd i allu creu eich stori ddoniol eich hun, mae’r ap cyffrous hwn yn berffaith ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2.

newyddion arall

Cyfoeth Naturiol Cymru: Mae Miri Mes wedi cyrraedd!

Ymgyrch yw Miri Mes i dynnu sylw at bwysigrwydd casglu hadau ac i helpu i dyfu mwy o goed o hadau a gesglir yn lleol.  Dyma fideo byr yn esbonio stori Miri Mes a pham mae angen mes.

Bydd ymgyrch Miri Mes 2021 yn lansio ar 13 Medi a bydd gan y lleoliadau tan 18 Hydref 2021 i gofrestru, casglu ac archebu slot i ddelifro eu mes i CNC.  Cofrestrwch yma i gymryd rhan. 

United Purpose: Galw am ddatblygwyr adnoddau addysgol (Saesneg yn unig) 

Mae United Purpose yn chwilio am unigolyn neu sefydliad i ddatblygu tri adnodd addysgol fel rhan o'n prosiect ymateb brys i COVID-19 yng Ngorllewin Affrica, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Am fwy o fanylion, cliciwch y ddolen

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl

Blog Cwricwlwm i Gymru

Diwygio’r cwricwlwm

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru