 |
|
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
|
Hoffem ofyn i chi ddweud eich dweud ar yr awgrymiadau polisi sy’n deillio o bedair elfen benodol o ddeddfwriaeth parthed y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (2021), a fydd, gyda'i gilydd, yn sefydlu'r ffordd rydyn ni’n ymdrin ag asesu a phrosesau eraill sy’n cefnogi cynnydd y dysgwr yn y Cwricwlwm i Gymru.
Fe fydd y cyfnod ymgynghori ar agor rhwng dydd Llun 6 Medi a dydd Sul 31 Hydref.
Datganiad Ysgrifenedig
Mae Llywodraeth Cymru wedi contractio ‘The Learning Partnership Ltd’ i asesu anghenion dysgu proffesiynol y sector nas cynhelir yn barod ar gyfer Cwricwlwm i Gymru a'i weithredu statudol ym mis Medi 2022.
Yr arolwg hwn yw'r cam cyntaf o ran asesu a dadansoddi anghenion y sector i greu cynllun cyflawni dysgu proffesiynol. Fel gweithiwr proffesiynol gwerthfawr o fewn y sector, hoffem glywed eich barn i helpu i lunio'r gwaith hwn. I gwblhau'r arolwg, cliciwch ar y ddolen
Os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i'r ddolen, copïwch hi i far cyfeiriad eich porwr.
Bydd yr arolwg yn cau ar 24 Medi.
Heddiw, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i helpu mwy o bobl ifanc i gael cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a lles emosiynol drwy ddulliau gwaith ieuenctid.
Datganiad Ysgrifenedig: Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
Adroddiad gan Steve Morris yn cyflwyno casgliadau ac argymhellion yr 'Adolygiad Cyflym o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol'.
Os ydych yn defnyddio asiantaethau i ddiwallu eich anghenion cyflenwi, dylech ddefnyddio'r rhai sydd wedi ymrwymo i'r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a'n hegwyddorion Gwaith Teg ehangach.
Rydyn ni angen eich help chi i ddod o hyd i enillwyr nesaf Gwobrau Dewi Sant – gwobrau cenedlaethol Cymru.
Dyma’ch cyfle chi i gydnabod y bobl arbennig sy’n gwneud Cymru’n wych! Eleni, mae categori newydd – Gwobr Dewi Sant Pencampwr yr Amgylchedd.
Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2022 yn cau ar 21ain Hydref.
Mae ein galwad gyfredol am gymeradwyaeth ar agor ac yn cau ar 1 Hydref 2021
Mae’r alwad agored hon ar gyfer datblygu arweinyddiaeth yn ystod unrhyw gam gyrfa, er enghraifft arweinwyr canol, uwch arweinwyr a phenaethiaid profiadol mewn Ysgolion, Ôl-16 a Gwaith Ieuenctid. Gall hefyd gynnwys unrhyw agwedd ar ddatblygu arweinyddiaeth fel lles, Dylunio Cwricwlwm, ADY, ymholi a hyfforddi.
Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth? Mae’r blog hwn a’r recordiad o’r weminar yn amlygu rhai o’r cryfderau sy’n dod i’r amlwg a’r rhwystrau canfyddedig a welwyd mewn rhai ysgolion wrth baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.
Ym mis Mehefin 2021, gofynnodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i Estyn adolygu’r diwylliant a’r prosesau mewn ysgolion uwchradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd annibynnol i ddiogelu a chefnogi pobl ifanc.
Ymgynghoriad yn cau: 22 Hydref 2021
Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi y bydd safleoedd gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn elwa o gael rhyddhad ardrethi annomestig 100% am dair blynedd arall.
Datganiad Ysgrifenedig
Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar gyfer penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr ysgolion. Mae’n ystyried rôl allweddol chwarae plant wrth hybu iechyd meddwl positif ac mae’n trafod ffyrdd y gall ysgolion hyrwyddo chwarae wrth i ni barhau i helpu plant i ddelio â’r ansicrwydd maent wedi ei wynebu.
Darganfyddwch pam y dylai penaethiaid ac ymarferwyr deimlo'n hyderus yn archwilio dulliau addysgeg seiliedig ar chwarae sy'n cyd-fynd â'r negeseuon yng Nghwricwlwm Cymru.
Gall athrawon lawrlwytho’r holl adnoddau am ddim, am darddiad cig coch, coginio a bwyta'n iach, oddi ar y wefan newydd sef hwbcigcoch.cymru/ sy’n cynnwys cyflwyniadau a thaflenni gwaith parod, fideos a ryseitiau apelgar i’w defnyddio’n y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, 3 a 4.
Cyfle i wireddu potensial Minecraft: Education Edition yn eich ystafell ddosbarth.
Cyfle i ddysgu drwy chwarae gyda’r gemau geiriau hwyliog. Mae’r gemau yma’n ddelfrydol ar gyfer cyflwyno’r iaith Gymraeg a Saesneg yn gynnar ac mewn modd hamddenol. O baru geiriau a lluniau’n chwareus i wella sgiliau a gallu ym maes llythrennedd i allu creu eich stori ddoniol eich hun, mae’r ap cyffrous hwn yn berffaith ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2.
Ymgyrch yw Miri Mes i dynnu sylw at bwysigrwydd casglu hadau ac i helpu i dyfu mwy o goed o hadau a gesglir yn lleol. Dyma fideo byr yn esbonio stori Miri Mes a pham mae angen mes.
Bydd ymgyrch Miri Mes 2021 yn lansio ar 13 Medi a bydd gan y lleoliadau tan 18 Hydref 2021 i gofrestru, casglu ac archebu slot i ddelifro eu mes i CNC. Cofrestrwch yma i gymryd rhan.
Mae United Purpose yn chwilio am unigolyn neu sefydliad i ddatblygu tri adnodd addysgol fel rhan o'n prosiect ymateb brys i COVID-19 yng Ngorllewin Affrica, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Am fwy o fanylion, cliciwch y ddolen
|