Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

11 Mehefin 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Y Prif Weinidog yn cadarnhau camau i symud yn raddol i lefel rhybudd 1; Cyfyngiadau o 7 Mehefin 2021; Canllawiau lliniarol i fusnesau lletygarwch yng Nghymru; Amrywiolion newydd o’r coronafeirws a theithio – Cwestiynau Cyffredin; Atgoffa: Olrhain cysylltiadau: cymorth ar gyfer gweithwyr a’r hunangyflogedig; Cadarnhau pumed grant SEISS; Sgiliau a recriwtio; Bwrdd Swyddi Colegau; Gweminarau Hyderus o ran Anabledd; Môn i beilota cynllun twristiaeth hygyrch; Gwneud eich busnes yn hygyrch; Gwobrau Busnesau Newydd Cymru: Cyhoeddi rhestr fer; Atgoffa: Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – Dyddiad cau 30 Mehefin; VisitBritain: Lansio Cronfa Cymorth Domestig ar gyfer Digwyddiadau i Fusnesau; Rhybudd am sgamiau i gwsmeriaid credydau treth; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Y Prif Weinidog yn cadarnhau camau i symud yn raddol i lefel rhybudd 1

Dydd Gwener 4 Mehefin, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored ac y gellir cynnal gweithgareddau awyr agored mawr o ddydd Llun 7 Mehefin ymlaen, wrth i Gymru symud i lefel rhybudd 1.

Bydd modd cynyddu maint aelwydydd estynedig i hyd at dair aelwyd, a bydd aelwyd arall sydd ag un oedolyn neu un oedolyn â chyfrifoldebau gofalu yn cael ymuno â’r aelwyd hefyd.

Byddwn yn symud yn raddol i lefel rhybudd 1, gan ailddechrau digwyddiadau awyr agored gyntaf. Bydd y Gweinidogion yn adolygu’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd eto, cyn 21 Mehefin, i benderfynu a all digwyddiadau o dan do ailddechrau.

Bydd gweithredu mewn dau gam fel hyn yn galluogi rhagor o bobl i gael eu brechu a chwblhau eu cwrs dau ddos – ar adeg pan fo pryderon cynyddol ynghylch lledaeniad amrywiolyn delta o’r feirws ar draws y Deyrnas Unedig.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cyfyngiadau o 7 Mehefin 2021

Mae’r Canllawiau diweddaraf ar gael ar Llyw.Cymru ac yn cynnwys:

  •  Crynodeb o'r hyn sy'n rhaid i chi ei wneud a'r hyn sydd ar agor.
  • Cyfyngiadau: cwestiynau cyffredin.
  • Ymgynnull gyda phobl eraill.
  • Cau busnesau: cyfyngiadau.

Canllawiau lliniarol i fusnesau lletygarwch yng Nghymru

Mae’r canllawiau lliniaru ar gyfer busnesau lletygarwch yng Nghymru yn cael eu diweddaru'n reolaidd. Mae’r manylion llawn ar gael ar Canllawiau UKHospitality Cymru.


Amrywiolion newydd o’r coronafeirws a theithio – Cwestiynau Cyffredin

Ar 26 Mai cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ar amrywiolion newydd y coronafeirws. Wrth baratoi ar gyfer gwyliau’r haf, mae Llywodraeth Cymru yn annog unrhyw un sy'n bwriadu dod i Gymru am wyliau byr o ardal â chyfraddau uwch o’r coronafeirws, i brofi eu hunain ddwywaith yr wythnos, gan ddefnyddio'r profion llif unffordd am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio. Dywedodd hefyd y dylai teithwyr ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda hwy i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau – mae hwn yn gam ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru.

Darllenwch yr amrywiolion newydd o coronafeirws a theithio Cwestiynau Cyffredin yn ein cylchlythyr a gyhoeddwyd ar 28 Mai 2021.

Ewch i Gov.UK am yr wybodaeth ddiweddaraf am rannau o Loegr sydd â lefelau uchel o’r amrywiolyn Delta.


Mae profion llif unffordd cyflym ar gael i bobl nad ydynt yn dioddef o symptomau coronafeirws ar gael o bwyntiau casglu lleol neu gellir eu archebu ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Llyw.Cymru - Cael profion COVID-19 llif unffordd cyflym os nad oes gennych symptomau.

Darllenwch mwy am gael arbrawf a’r rhan mae Profion Llif Unffordd a PCR yn chwarae.

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am achosion o amrywiolion sy'n peri pryder ar dudalen wyliadwriaeth y DU (wedi'i diweddaru'n wythnosol) a thrwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (wedi'i diweddaru ddwywaith yr wythnos – o dan y tab gwyliadwriaeth amrywiolion).


Atgoffa: Olrhain cysylltiadau - cymorth ar gyfer gweithwyr a’r hunangyflogedig

Rhaid i unrhyw un sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws, neu sydd wedi cael ei adnabod fel cyswllt agos ag achos cadarnhaol, hunanynysu am 10 diwrnod a dilyn cyngor gan wasanaeth Prawf, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Cynghorir y rhai sydd wedi'u hadnabod fel cyswllt agos i sefyll prawf ar ddiwrnod cyntaf eu cyfnod ynysu ac eto ar ddiwrnod 8. Hyd yn oed os ydynt yn profi'n negyddol, rhaid iddynt barhau i gwblhau'r cyfnod ynysu 10 diwrnod llawn. Pwrpas profi yw i helpu POD GIG Cymru i olrhain lledaeniad y feirws a nid i alluogi rhai sy’n hunanynysu i gael ei 'ryddhau' or cyfnod ynysu yn  gynnar. Ewch i Llyw.Cymru i gael rhagor o wybodaeth am broses POD GIG Cymru.

Gall dyletswydd fod ar gyflogwyr i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre lle gwneir gwaith. Un o’r mesurau rhesymol yw caniatáu a galluogi cyflogai i hunanynysu os yw wedi cael prawf positif neu os yw wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif. Felly, gall cyflogwyr fod yn cyflawni trosedd os nad ydynt yn cydymffurfio â’r mesur hwn.  Rhagor o wybodaeth am gymorth i weithwyr ar hunangyflogedig

Mae’r cynllun cymorth hunanynysu wedi’i greu ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac sy’n gorfod hunanynysu.  I gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.


Cadarnhau pumed grant SEISS

Mae CThEM wedi cadarnhau y bydd y pumed grant sydd ar gael o dan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS) ar agor i ymgeiswyr o ddiwedd mis Gorffennaf 2021. Bydd y grant ar gael ar gyfer y pum mis rhwng mis Mai a mis Medi 2021, bydd yn drethadwy a bydd yn cael ei dalu fel un rhandaliad. Bydd canllawiau ar gyfer hawlio’r grant ar gael erbyn diwedd mis Mehefin 2021.  I gael rhagor o wybodaeth ewch i GOV.UK


Sgiliau a recriwtio 

  • Mae Cyngor Bwrdeistref Conwy wedi creu ymgyrch recriwtio newydd ar gyfer y diwydiant twristiaeth a lletygarwch – Fy Ngyrfa yng Nghonwy. Bydd yr ymgyrch yn dangos sut beth ydi gweithio yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, ac yn defnyddio enghreifftiau go iawn gan bobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector.  Os yw eich busnes wedi'i leoli yn sir Conwy ewch i Fy Ngyrfa Conwy i gael rhagor o fanylion. 

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, neu os oes gennych unrhyw weithwyr a hoffai gael eu cynnwys mewn astudiaeth achos, e-bostiwch jasmin.koffler@conwy.gov.uk.  Os oes gennych unrhyw swyddi gwag yr hoffech gefnogaeth recriwtio, e-bostiwch y Swyddog Ymgysylltu: communitiesforwork@conwy.gov.uk.

  • Mae gan Goleg Cambria chwe safle ledled y Gogledd-ddwyrain sy’n cynnig cyrsiau.  Gall busnesau ddarganfod sut i hysbysebu swyddi gwag ar y Siop Swyddi ar lein.  Cewch wybodaeth hefyd am sut i gynnig profiad gwaith i fyfyrwyr.
  • Mae Coleg Sir Gâr sy’n cwmpasu ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn galluogi busnesau i hysbysebu swyddi ar draws pob campws.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Filipe Nunes, Filipe.Nunes@colegsirgar.ac.uk neu 07468 470 245.
  • Hysbysebu cyfleoedd ym Met Caerdydd - Gallwch hysbysebu swyddi’n uniongyrchol i fyfyrwyr ar safle swyddi mewnol Met Caerdydd, MetHub.  I hysbesbu swydd, bydd angen cofrestru a chreu cyfrif. Caiff eich cyfrif ei gymeradwyo mewn 2-3 diwrnod gwaith ac wedyn, cewch lwytho swyddi’n syth i’r safle.  Cofrestrwch gyda MetHub ar-lein.  Am ragor o help, cysylltwch â careers@cardiffmet.ac.uk.

Byddwn yn parhau i wirio a rhannu'r math hwn o wybodaeth, yn y cyfamser, cysylltwch â'ch coleg lleol i weld a allant helpu i hysbysebu eich swyddi gwag.


I gael rhagor o wybodaeth am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.


Gweminarau Hyderus o ran Anabledd

Bydd Rhwydweithiau UK Ability yn cynnal gweminarau 30 munud am ddim i gynnig gwybodaeth ymarferol a defnyddiol i gyflogwyr i’w cadw mewn cysylltiad agos â’r gymuned cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, fel bod cyflogwyr yn derbyn cymorth amserol a phriodol yn ystod ac ar ôl COVID-19 i’w helpu i ddenu, recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl yn y gwaith.

I wneud hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol, mae nifer o Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd wedi bod yn cydweithio ac wedi trefnu cyfres o weminarau cenedlaethol ymarferol yn trafod pynciau cyflogwyr amrywiol.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Môn i beilota cynllun twristiaeth hygyrch

Mae Môn wedi’i dewis gan PIWS, menter gymunedol, ar gyfer cynllun peilot sy’n anelu at osod Mynediad i Bawb wrth galon sector twristiaeth a hamdden yr ynys.

Gall busnesau twristiaeth a hamdden ymuno â’r cynllun peilot am ddim ar wefan PIWS https://www.piws.co.uk/cy/ a manteisio ar y canllawiau, hyfforddiant a’r gefnogaeth y mae PIWS yn ei gynnig i’w gwneud yn fwy hygyrch.  Ar y wefan hefyd mae astudiaethau achos o Sŵ Môr Môn, y Bull ym Miwmares, RibRide, Canolfan Hamdden Plas Arthur a thref Amlwch i ddangos sut y maen nhw’n talu sylw i anghenion ymwelwyr gyda phroblemau mynediad, gan gynnwys hefyd “Hyrwyddiadau Piws” ar gyfer 2021.


Gwneud eich busnes yn hygyrch

Ydych chi am estyn eich tymor, denu cwsmeriaid ffyddlon a chipio cyfran o farchnad gwerth £15.3 biliwn? Ewch i wefan VisitBritain i gael cyngor, arfau ac adnoddau i’ch helpu i allu sicrhau mynediad i bawb


Gwobrau Busnesau Newydd Cymru: Cyhoeddi rhestr fer

Bydd Gwobrau Busnesau Newydd Cymru yn cael eu cynnal 9 Medi 2021. Mae’r gwobrau’n dathlu llwyddiannau busnesau newydd ac yn cydnabod busnesau ar draws pob sector a phob rhan o Gymru.

Mae'r rhestr fer ar gyfer Gwobrau 2021 wedi'i chyhoeddi: llongyfarchiadau arbennig i'r rhai yn y categori Dechrau Busnes Twristiaeth a Hamdden.


Atgoffa : Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – Dyddiad cau 30 Mehefin

30 Mehefin 2021 yw’r dyddiad cau i ddinasyddion yr UE wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn y DU. Rydym yn annog y rheini sy’n byw yng Nghymru i fanteisio ar y cymorth am ddim sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i lenwi’u cais.

Mae’r Cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr UE, dinasyddion o Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw yn yr UE a dinasyddion o’r Swistir, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd sy’n gymwys, ddiogelu eu statws preswylio gan fod y DU bellach wedi ymadael â’r UE.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


VisitBritain: Lansio Cronfa Cymorth Domestig ar gyfer Digwyddiadau i Fusnesau

Mae VisitBritain wedi lansio Cronfa Cymorth Domestig newydd i ailddechrau digwyddiadau busnes yn y DU.  Mae’r gronfa ar gael i gyrff di-elw ac elusennau sy’n cynnal cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau yn y DU rhwng 21 Mehefin ac 17 Rhagfyr 2021.  Dim ond digwyddiadau ar gyfer 100 – 500 o bobl yn y DU sy’n gymwys.

Mae’r cymorth ariannol sydd ar gael yn dibynnu ar nifer y bobl fydd yn bresennol, gyda hyd at £15,000 ar gael fesul digwyddiad.  Am fanylion llawn, ewch i wefan VisitBritain.

Mae’r canllawiau ar ddigwyddiadau yng Nghymru ar wefan Cymru - Diogelu Cymru: creu digwyddiadau COVID-ddiogel.


Rhybudd am sgamiau i gwsmeriaid credydau treth

Mae CThEM wedi rhybuddio y dylai cwsmeriaid credydau treth fod yn wyliadwrus ac yn effro i’r posibilrwydd o sgamiau.  Gallai pobl sy’n adnewyddu eu credydau treth ac sydd wedi derbyn e-bost neu neges destun ffug ynghylch trethi neu fudd-daliadau gael eu twyllo i feddwl bod y neges wedi dod gan CThEM a rhannu eu manylion personol gyda throseddwyr, neu hyd yn oed drosglwyddo arian oherwydd honiad ffug o ordaliad.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram