Amrywiolion newydd o’r coronafeirws a theithio – Cwestiynau Cyffredin
Ar 26 Mai cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ar amrywiolion newydd y coronafeirws. Wrth baratoi ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a gwyliau’r haf, mae Llywodraeth Cymru yn annog unrhyw un sy'n bwriadu dod i Gymru am wyliau byr o ardal â chyfraddau uwch o’r coronafeirws, i brofi eu hunain ddwywaith yr wythnos, gan ddefnyddio'r profion llif unffordd am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio. Dywedodd hefyd y dylai teithwyr ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda hwy i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau – mae hwn yn gam ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru.
CWESTIYNAU CYFFREDIN
- Oes modd i ymwelwyr o ardal yn y DU sydd â nifer fawr o achosion o’r coronafeirws deithio i Gymru ac aros mewn llety i ymwelwyr?
Nid ydym yn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn y DU ar hyn o bryd.
Mae canllawiau Llywodraeth y DU ar gyfer pobl mewn ardaloedd lle mae'r amrywiolyn newydd yn cylchredeg yn cynghori pobl i gyfyngu ar unrhyw deithio allan o'r ardal. Mae cyngor Llywodraeth Cymru yn annog pobl o'r ardaloedd hyn i ailystyried cyn teithio i Gymru ar hyn o bryd.
- Ble mae'r ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion yn y DU?
Mae Llywodraeth y DU yn diweddaru eu cyngor yn rheolaidd ac wedi rhoi manylion am ardaloedd lle mae'r amrywiolyn COVID-19 yn lledaenu ar hyn o bryd a chanllawiau ar wahanol faterion, gan gynnwys teithio, i breswylwyr yn yr ardaloedd hynny.
- A allaf dderbyn archebion gan ymwelwyr o ardaloedd sydd â nifer fawr o achosion o’r coronafeirws?
Rydym yn annog busnesau twristiaeth yng Nghymru i ddangos cydymdeimlad tuag at bobl o'r ardaloedd hynny sydd am aildrefnu archebion. I bobl sy'n teithio o'r ardaloedd dan sylw, efallai y bydd darparwyr llety am annog ymwelwyr i gasglu a chymryd y profion sydd ar gael iddynt am ddim yn Lloegr cyn teithio ac i ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau.
Gallwch hefyd rhoi gwybodaeth iddynt am fannau casglu lleol lle gallant gael gafael ar becynnau profion ar ôl cyrraedd i Gymru, neu archebu ar-lein - Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau.
Mae'r penderfyniad ar dderbyn archebion i’w wneud yn ôl disgresiwn y busnes ei hun. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn y DU ar hyn o bryd ac mae Llywodraeth y DU yn gofyn i bobl sy'n byw mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion i gyfyngu ar deithiau allan o'r ardal, fel yr amlinellir yng nghanllawiau Llywodraeth y DU. Fel darparwr llety, dylech fonitro'r cyngor hwn yn rheolaidd ac os cyflwynir cyfyngiadau cyfreithiol, ni ddylai darparwyr llety ddarparu ar gyfer pobl sy'n torri'r gyfraith yn fwriadol.
- A allaf ofyn am dystiolaeth o brawf Covid negyddol cyn i'r ymwelwyr gyrraedd?
Nid oes gofyniad cyfreithiol i ymwelwyr ddarparu tystiolaeth o brawf Covid negyddol. Byddem yn annog pob busnes i ofyn i'w darpar westeion sy’n dod o ardaloedd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws brofi eu hunain ddwywaith yr wythnos, gan ddefnyddio profion llif unffordd Covid-19, sy’n rhad ac am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negyddol ac sydd heb unrhyw un o symptomau’r coronafeirws ddylai deithio.
Dim ond ar gyfer pobl nad oes ganddynt symptomau’r coronafeirws y mae’r profion llif unffordd yn addas. Os bydd ymwelydd yn dangos symptomau’r coronafeirws, rhaid iddo ddilyn y canllawiau a dychwelyd adref a threfnu prawf PCR ar unwaith.
- A allaf wrthod archeb os bydd fy narpar westeion yn gwrthod cymryd prawf cyn teithio?
Rydym yn annog pob darparwr llety i ystyried sut maent yn ymdrin â gwesteion sy’n dod o ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion.
Efallai y bydd darparwyr llety am gysylltu â phob ymwelydd sydd eisoes wedi archebu lle gyda nhw, i’w hatgoffa o'r cyngor o ran peidio â theithio yn fwy nag sydd angen, ac i roi cyfle iddynt ganslo neu ohirio.
Argymhellir bod darparwyr llety yn ystyried eu dull gweithredu. Argymhellir hefyd eu bod yn caniatáu i unigolion drafod eu hamgylchiadau penodol cyn gwneud penderfyniad terfynol i’w gwrthod.
- Sut mae ymwelwyr yn cael gafael ar brofion llif unffordd yng Nghymru?
Yng Nghymru, mae profion llif unffordd ar gael i'r rhai sy'n ymweld â Chymru o fannau eraill. Gall ymwelwyr gasglu pecynnau profion llif unffordd o fannau casglu ledled Cymru neu archebu ar-lein - Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau
- Pa gyngor ydw i'n ei roi i westai sy'n dangos symptomau’r coronafeirws tra bydd yn fy llety?
Rhaid i westeion sy'n dangos symptomau ddychwelyd adref ar unwaith, ynghyd ag aelodau eraill eu grŵp, dilyn y canllawiau hunanynysu a chael prawf PCR. Dim ond i'r rhai nad ydynt yn dangos symptomau y mae profion llif unffordd ar gael. Mae'r camau i'w dilyn wedi'u cynnwys yn y canllaw hwn ar beth mae angen i chi ei wneud os ydych yn mynd yn sâl â COVID-19 pan fyddwch chi ar eich gwyliau
- Pa gyngor ydw i'n ei roi i westai sy'n profi'n bositif gyda phrawf llif unffordd tra bydd yn fy llety?
Rhaid i westai sy'n profi'n bositif gyda phrawf llif unffordd ddychwelyd adref ar unwaith, ynghyd ag aelodau eraill ei grŵp, dilyn y canllawiau hunanynysu a threfnu i gael prawf PCR o fewn 24 awr. Rhaid iddo ddefnyddio’r ffordd fwyaf uniongyrchol i gyrraedd yno, ac ni ddylai ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
- Beth os bydd pobl yn gwrthod cymryd prawf llif unffordd?
Mater i’r busnes ei hun yw penderfynu p'un a yw’n caniatáu i westai aros. Os oes gan westeion symptomau’r coronafeirws, mae'n hanfodol eu bod yn dychwelyd adref ac yn cael profion PCR cyn gynted â phosibl. Mae'r camau i'w dilyn wedi'u cynnwys yn y canllaw hwn ar beth mae angen i chi ei wneud os ydych yn mynd yn sâl â COVID-19 pan fyddwch chi ar eich gwyliau.
Lefel rhybudd 2 - Cwestiynau Cyffredin
Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws i’w gweld ar Llyw.Cymru. Mae'r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson, edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|