Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

3 Mehefin 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN : Amrywiolion newydd o’r coronafeirws a theithio – Cwestiynau Cyffredin; Ymweliadau gan grwpiau/Coetsys a theithiau tywys; Perfformiadau byw; Nodyn atgoffa i fusnesau; Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd (ERF); Gallwch chi wneud hawliadau CJRS mis Mai nawr; Gohirio talu TAW – gwnewch gais ar-lein cyn 21 Mehefin 2021; Parhau i olrhain cysylltiadau yng Nghymru hyd fis Mawrth 2022; Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – Llai na 30 diwrnod i fynd; Helpwch i ledaenu negseuon ynghylch diogelwch drwy fod yn llysgennad diogelwch ar y dŵr lleol ar gyfer yr RNLI / Gwylwyr y Glannau; Gohirio talu TAW – gwnewch gais ar-lein cyn 21 Mehefin 2021; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Amrywiolion newydd o’r coronafeirws a theithio – Cwestiynau Cyffredin

Ar 26 Mai cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ar amrywiolion newydd y coronafeirws. Wrth baratoi ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a gwyliau’r haf, mae Llywodraeth Cymru yn annog unrhyw un sy'n bwriadu dod i Gymru am wyliau byr o ardal â chyfraddau uwch o’r coronafeirws, i brofi eu hunain ddwywaith yr wythnos, gan ddefnyddio'r profion llif unffordd am ddim, cyn iddynt deithio. Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio. Dywedodd hefyd y dylai teithwyr ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda hwy i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau – mae hwn yn gam ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru.

Darllenwch yr amrywiolion newydd o coronafeirws a theithio Cwestiynau Cyffredin yn ein cylchlythyr a gyhoeddwyd ar 28 Mai 2021.


Mae profion llif unffordd cyflym ar gael i bobl nad ydynt yn dioddef o symptomau coronafeirws ar gael o bwyntiau casglu lleol neu gellir eu archebu ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Llyw.Cymru.

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am achosion o amrywiolion sy'n peri pryder ar dudalen wyliadwriaeth y DU (wedi'i diweddaru'n wythnosol) a thrwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (wedi'i diweddaru ddwywaith yr wythnos – o dan y tab gwyliadwriaeth amrywiolion).

Darllenwch mwy am gael arbrawf a’r rhan mae Profion Llif Unffordd a PCR yn chwarae.


Ymweliadau gan grwpiau/Coetsys a theithiau tywys

Yn unol â’r rheoliadau a’r canllawiau yng Nghymru, mae ymweliadau dydd a thripiau grŵp a choetsys aml-ddydd yn gallu mynd yn eu blaen gan fod llety â gwasanaeth, lletygarwch dan do ac atyniadau dan do wedi ailagor o 17 Mai.  Mae’r Canllawiau ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer:

Gwasanaethau i deithwyr ar ffyrdd, ar reilffyrdd, ar dramffyrdd ac ar ddŵr (e.e. gweithredwyr coetsys, bysiau a chwmnïau teithiau, rheilffyrdd treftadaeth a theithiau cwch) - Mae’r rhain yn cael eu diffinio fel Gwasanaethau Trafnidiaeth Gyhoeddus o dan Reoliadau’r Coronafeirws - mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau ar drafnidiaeth gyhoeddus (diwedderiadau hyd at 12 Ebrill) ac mae’n rhaid i weithredwyr eu dilyn. 

Dylai busnesau twristiaeth a lletygarwch ddarllen adran 7 y Canllawiau ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch (yn benodol, ymweliadau grŵp a gweithgareddau wedi’u trefnu) o ran faint o bobl sy’n cael ymgynnull mewn mannau penodol (gan gynnwys ystyriaethau ynghylch cymysgu aelwydydd a gweithgareddau wedi’u trefnu).


Perfformiadau byw

Mae'r canllawiau ar berfformiadau byw wedi'u diweddaru ac maent  ar gael yng Nghanllawiau UKHospitality Cymru.


Nodyn atgoffa i fusnesau:

Wrth i chi ailagor, sicrhewch eich bod yn ymwybodol ac yn dilyn Canllawiau UKHospitality Cymru yn ogystal a chanllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch. (Gwyliwch y ffilm fer hon i'ch helpu  i ymgyfarwyddo ar canllawiau).

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.

Y meysydd allweddol y mae angen i fusnesau barhau i ganolbwyntio arnynt yw:

  • Awyru

Dylai pob busnes lletygarwch gymryd camau i gynyddu awyru yn eu hadeiladau.  Mae hwn yn gam mor bwysig y gallwch chi, fel busnes lletygarwch, ei gymryd i leihau'r risg o ledaenu’r coronafeirws yn eich tafarn, bar, caffi, neu fwyty.

Mae awyru da yn lleihau faint o feirws sydd yn yr awyr. Mae'n helpu i leihau'r risg o drosglwyddo drwy aerosol pan fydd rhywun yn anadlu gronynnau bach yn yr awyr ar ôl i berson sydd â'r feirws fod yn yr un ardal gaeedig.

Meddyliwch pa fesurau ychwanegol y gallwch chi eu cyflwyno i wella llif aer drwy agor ffenestri a chadw drysau mewnol ar agor (ond nid drysau tân) lle bynnag y bo modd.

  • Cadw cofnodion

Yng Nghymru, mae'n orfodol i fusnesau lletygarwch - gan gynnwys tafarndai, bariau, caffis a bwytai - gasglu manylion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr i gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol ac mae'n hanfodol i gefnogi’r broses olrhain cysylltiadau os bydd achos o'r clefyd.

Mae hyn yn golygu, os ydych yn rhedeg busnes lletygarwch, bod yn rhaid i chi gyflwyno system electronig neu bapur a fydd yn cofnodi enw, manylion cyswllt ac amser cyrraedd pob cwsmer (ac eithrio plant).

Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol ac mae'n hanfodol i gefnogi olrhain cysylltiadau os bydd achosion newydd. Nid yw gofyn i gwsmeriaid ddefnyddio Ap y GIG yn ddigon ac nid yw'n eithrio busnes rhag casglu'r wybodaeth hon.

  • Mwgwd Gwyneb

Rhaid i staff sy'n gweithio ym mhob man dan do ac yn yr awyr agored sy'n agored i'r cyhoedd wisgo mygydau (oni bai bod ganddynt esgus rhesymol). Mae hyn yn golygu rhaid i'r mygydau gael eu gwisgo gan staff sy'n gweini bwyd a diod i gwsmeriaid a phan fydd staff yn symud o amgylch y safle. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol mewn mannau dan do a rhaid i fygydau hefyd gael eu gwisgo gan staff sy'n gwasanaethu cwsmeriaid y tu allan.  Rhaid i'ch cwsmeriaid hefyd wisgo mygydau wyneb pan nad ydynt yn eistedd i fwyta neu yfed wrth eu bwrdd dyranedig.

Mae rhestrau gwirio ar gael sy'n amlinellu'r mesurau allweddol ar gyfer Cadw Cofnodion, ynghyd â Chadw Pellter Cymdeithasol a Hylendid, y dylech eu rhoi ar waith i gadw eich staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn ddiogel. 

Gallwch hefyd ddefnyddio'r Cerdyn Gweithredu Busnes sy'n rhoi gwybodaeth i chi am sut i gadw COVID-19 allan o'ch safle, pa gamau i'w cymryd pan fydd gweithiwr neu gwsmer yn profi'n bositif a sut y gallwch leihau lledaeniad COVID-19 yn eich busnes. Mae’r wybodaeth hyn hefyd wedi'i rannu fel canllawiau i swyddogion gorfodi gyda thimau Iechyd yr Amgylchedd a Thimau Rheoli Digwyddiadau mewn Awdurdodau Lleol i'w defnyddio wrth iddynt ymweld â busnesau lletygarwch.  


Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) COVID-19

Mae ceisiadau am Gronfa Cadernid Economaidd COVID-19 ar gyfer cymorth busnes rhwng Mai 2021 a Mehefin 2021 bellach ar agor a byddant yn cau am 5pm ar 7 Mehefin 2021.  Gofynnir i fusnesau cymwys sydd â throsiant o lai na £85,000 wneud cais drwy eu hawdurdod lleol.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Gallwch chi wneud hawliadau CJRS mis Mai nawr

Mae hawliadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar agor ar gyfer cyfnodau tâl ym mis Mai 2021.  Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad ar gyfer mis Mai 2021 erbyn 14 Mehefin 2021.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Gohirio talu TAW – gwnewch gais ar-lein cyn 21 Mehefin 2021

Mae’r cynllun taliadau newydd ar gyfer y cynllun gohirio talu TAW bellach ar agor i fusnesau a ohiriodd talu TAW rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020 ac a oedd yn methu talu’n llawn erbyn 31 Mawrth 2021.

Os ydych chi’n gwneud cais i wasgaru’ch taliadau rhwng 20 Mai a 21 Mehefin, gallwch dalu mewn wyth rhandaliad.  21 Mehefin yw’r dyddiad cau i chi allu ymuno â’r cynllun hwn.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Parhau i olrhain cysylltiadau yng Nghymru hyd fis Mawrth 2022

Bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu llwyddiannus Cymru, sydd wedi helpu i leihau lledaeniad coronafeirws yn parhau tan y flwyddyn nesaf, diolch i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.  Bydd £32m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i ymestyn y gwasanaeth olrhain cysylltiadau hyd fis Mawrth 2022.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos, bron i flwyddyn ar ôl lansio’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru, bod swyddogion olrhain cysylltiadau wedi cyrraedd 99.7% o’r achosion positif a oedd yn gymwys am gyswllt dilynol.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.

Mae yn ofyniad cyfreithlon i adeiladau lletygarwch i gefnogi TTP drwy Cadw Cofnodion o Weithwyr, Cwsmeriaid ac Ymwelwyr.


Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – Llai na 30 diwrnod i fynd

Mae llai na 30 diwrnod ar ôl i ddinasyddion yr UE wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn y DU ac rydym yn annog y rheini sy’n byw yng Nghymru i fanteisio ar y cymorth am ddim sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i lenwi’u cais.

Mae’r Cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr UE, dinasyddion o Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw yn yr UE a dinasyddion o’r Swistir, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd sy’n gymwys, ddiogelu eu statws preswylio gan fod y DU bellach wedi ymadael â’r UE.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r Cynllun hwn yw 30 Mehefin 2021.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Helpwch i ledaenu negseuon ynghylch diogelwch drwy fod yn llysgennad diogelwch ar y dŵr lleol ar gyfer yr RNLI / Gwylwyr y Glannau

Wrth i fwy a mwy o bobl barhau i ymweld â’r arfordir gall busnesau ar yr arfordir chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r RNLI – drwy fod yn llysgenhadon diogelwch ar y dŵr. Mae'r RNLI ynghyd â Gwylwyr y Glannau EM yn cynnal ymgyrch #ParchwchYDŵr  ar gyfer y tymor ymdrochi a gall busnesau ddod yn llysgenhadon drwy wneud eu hunain yn gyfarwydd â'r negeseuon allweddol a chymryd camau fel y rhai canlynol:

  • Atgoffa eich hun pa draethau sydd ag achubwyr bywyd yr haf hwn drwy ddarllen y rhestr lawn.
  • Rhybuddio ynghylch peryglon ar draethau lleol, ac yn arbennig os oes llanw terfol  a allai olygu na all pobl gyrraedd y lan.
  • Hysbysu pobl ynghylch y gwahanol faneri lliw sydd ar draethau a’u hystyr.
  • Darparu gwybodaeth am amseroedd y llanw a phryd y bydd gwyntoedd uchel a all fod yn beryglus iawn os ydych yn defnyddio eitemau sydd wedi’u llenwi ag aer.    
  • Atgoffa pobl y dylent ARNOFIO I FYW os byddant yn syrthio i’r dŵr yn anfwriadol.

Gall unrhyw un gefnogi’r ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth, o ddarparwyr llety i fanwerthwyr a lleoliadau lletygarwch ac mae’r RNLI wedi llunio adnoddau defnyddiol iawn ar gyfer busnesau gan gynnwys posteri i’w lawrlwytho a hefyd graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol er mwyn helpu i rannu negeseuon. 

Mae gwybodaeth am Y deg traeth gorau sydd ag achubwyr bywyd gan yr RNLI ar gael ar  wefan Croeso.Cymru.


Cyfraddau a throthwyon cyflogwyr 2021 i 2022

Manylion y cyfraddau a'r trothwyon pan fyddwch yn gweithredu eich cyflogres neu'n darparu treuliau a buddion i'ch cyflogeion.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram