|
Bydd y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ), sydd wedi bod ar waith ers 11 Tachwedd 2020, yn cael ei ddirymu.
Mae'r penderfyniad yn deillio o asesiad risg o'r tebygolrwydd y bydd ffliw adar yn ymledu. Roedd hyn yn dangos llai o risg. O’r 15 mai 2021 nid yw AIPZ ar waith ledled Cymru. Caniateir i gynulliadau adar ailddechrau hefyd o 15 Mai. Fodd bynnag, rhaid sefydlu bioddiogelwch cadarn.
|