Cylchlythyr Gwlad 27 Mai 2021

27 Mai 2021

 
 
 
 
 
 

Newyddion

logo twitter

Lansio Sianel Twitter Materion Gwledig newydd Llywodraeth Cymru

Mae sianel Twitter swyddogol newydd gan Lywodraeth Cymru ar Faterion Gwledig wedi cael ei lansio o ganlyniad i'r ad-drefnu cabinet diweddaraf. Dilynwch y sianel newydd @LICCefnGwlad am y newyddion a'r diweddariadau diweddaraf ar Faterion Gwledig.

Lesley Griffiths

Lesley Griffiths wedi’i phenodi yn Weinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a Threfnydd

Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a Threfnydd, Lesley Griffiths, sydd newydd ei phenodi, wedi recordio neges fideo arbennig i ffermwyr, pysgotwyr a phawb sy'n byw mewn cymunedau gwledig ledled Cymru.

Fferm

Grant Busnes i Ffermydd  – Gorchuddio Iardiau

Mae cyfnod datgan diddordeb yn ail rownd y Grant Busnes i Ffermydd – Gorchuddio Iardiau wedi agor a bydd yn cau ar 25 Mehefin 2021. Mae ffurflenni ar-lein ar gael ichi eu llenwi ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

Fferm

Grantiau Bach Glastir

Mae’r cyfnod datgan diddordeb y Grantiau Bach Glastir - Tirwedd a Phryfed Peillio wedi agor a bydd yn cau ar y 25 Fehefin 2021. Mae ffurflenni ar-lein ar gael ichi eu llenwi ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

coetir

Adfer Coetir Glastir - Cyfnod Ymgeisio 9

Agorodd y cyfnod datgan diddordeb ar gyfer 9fed cyfnod ymgeisio cynllun Glastir - Adfer Coetir ar 18 Mai 2021 a bydd yn dod i ben ar 25 Mehefin 2021.

glan afon

Trawsgydymffurfio 2021

Yn sgil cyhoeddi Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 sy’n ymdrin â llygredd amaethyddol yng Nghymru, mae rheolau Trwasgydymffurfio wedi’I diweddaru.

Cafodd Taflen Ffeithiau Gofynion Rheoli Statudol (SMR) 1 - Diogelu Dŵr a rhannau perthnasol y Safonau Dilysu Trawsgydymffurfio eu newid i adlewyrchu’r gofynion newydd.

Ieir

Parth Atal Ffliw Adar

Bydd y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ), sydd wedi bod ar waith ers 11 Tachwedd 2020, yn cael ei ddirymu.

Mae'r penderfyniad yn deillio o asesiad risg o'r tebygolrwydd y bydd ffliw adar yn ymledu. Roedd hyn yn dangos llai o risg. O’r 15 mai 2021 nid yw AIPZ ar waith ledled Cymru. Caniateir i gynulliadau adar ailddechrau hefyd o 15 Mai. Fodd bynnag, rhaid sefydlu bioddiogelwch cadarn.

Moch

Canllawiau newydd ar gyfer Ceidwaid Moch Cymru

Mae fersiwn ddiwygiedig newydd o’r Canllawiau ar gyfer Ceidwaid Moch bellach ar-lein. Os ydych yn cadw moch neu os byddwch yn cadw moch yn y dyfodol, ymgyfarwyddwch â’r gofynion cyfreithiol.

Baner

Ymadael â’r UE: adnoddau

Gan fod Cyfnod Pontio’r DU bellach wedi dod i ben, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiweddaru canllawiau ar gyfer busnesau sy’n masnachu â’r UE, a chyda Gogledd Iwerddon. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y modd y gall eich busnes addasu i’r rheolau masnachu newydd ar gael ar wefan Paratoi Cymru, a hefyd ar Porth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru. Cofiwch hefyd ymweld â gwefan https://www.gov.uk/transition sydd bellach yn cynnwys y gwiriwr Brexit a fydd yn rhoi rhestr wedi’i bersonoli o gamau gweithredu ar eich cyfer chi, eich busnes a’ch teulu.

WRN

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru (UGRGC)

Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:

  • gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
  • ymwneud â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a'r cynlluniau y mae'n eu hariannu.
Tractor

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.

Llinellau Cymorth

FarmWell Cymru

 Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.

Wefan: https://farmwell.cymru/

Cronfa Addington

Ffoniwch: 1926 620135

Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/

Sefydliad DPJ 

Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799

Ebost: contact@thedpjfoundation.com

Wefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/ 

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch: 03000 111 999 

Wefan: https://fcn.org.uk/?lang=cy 

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch: 0808 281 9490

E-bost: help@rabi.org.uk

Wefan: https://rabi.org.uk/

Tir Dewi

Ffoniwch: 0800 121 47 22

Wefan: https://www.tirdewi.co.uk/cy/home-welsh/

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/ffermio-a-chefn-gwlad

Dilynwch ar Twitter:

@LlCAmgylchFferm

@LIC_Pysgodfeydd