Mae Ffurflen Gais Sengl (SAF) 2021 bellach ar gael ichi ei chwblhau ar RPW Ar-lein.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch SAF yw 17 Mai 2021 neu 11 Mehefin 2021 gyda chosb am ei chyflwyno’n hwyr. Bydd unrhyw SAF fydd yn ein cyrraedd ar ôl 11 Mehefin 2021 yn cael ei gwrthod.
SAF 2021 - canllaw a help ychwanegol
Bydd 'Llyfryn Rheolau Cais Sengl 2021' a 'Llyfryn Ar-lein Sut i Lenwi Ffurflen Cais Sengl (SAF) Sut i gwblhau Canllaw’ ar gael nawr.
Bydd aelodau o dim Cysylltwyr Fferm ar gael i’ch helpu gydag unrhyw agwedd ar y SAF neu bynciau eraill. Os oes gennych gwestiynau ynglyn a’r SAF, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyswllt i Gwsmeriaid gan ddefnyddio’ch cyfrif RPW Ar-lein neu ffoniwch 0300 062 5004. Bydd amserau agor y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn cael eu hestyn yn ystod cyfnod y SAF fel a ganlyn: 1 Mawrth tan 30 Ebrill 2021 (heb gynnwys Gwyliau’r Banc) Llun – Gwener: 09:00 tan 16:00 4 Mai tan 21 Mai 2021 Llun - Gwener: 09:00 tan 17:00 Fel arall, ysgrifennwch aton ni gan ddefnyddio tudalen ‘Negeseuon’ eich cyfrif RPW Ar-lein.
Cymorth Digidol SAF 2021 - Oherwydd Covid-19, mae ein Swyddfeydd Rhanbarthol ar gau i’r cyhoedd. Am hynny, ni fyddwn yn gallu cynnal sesiynau ‘Cymorth Digidol’ eleni.
|