Cylchlythyr Gwlad 25 Chwefror 2021

25 Chwefror 2021

 
 
 
 
 
 

Newyddion

SAF

SAF 2021 - canllaw a help ychwanegol

Bydd 'Llyfryn Rheolau Cais Sengl 2021' a 'Llyfryn Ar-lein Sut i Lenwi Ffurflen Cais Sengl (SAF) ar gael i chi.

Bydd aelodau o dim Cysylltwyr Fferm ar gael i’ch helpu gydag unrhyw agwedd ar y SAF neu bynciau eraill.

Os oes gennych gwestiynau ynglyn a’r SAF, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyswllt i Gwsmeriaid gan ddefnyddio’ch cyfrif RPW Ar-lein neu ffoniwch 0300 062 5004.

Bydd amserau agor y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn cael eu hestyn yn ystod cyfnod y SAF fel a ganlyn:

  • 1 Mawrth tan 30 Ebrill 2021 (heb gynnwys Gwyliau’r Banc)
    Llun – Gwener: 09:00 tan 16:00

  • 4 Mai tan 21 Mai 2021
    Llun - Gwener: 09:00 tan 17:00

Fel arall, ysgrifennwch aton ni gan ddefnyddio tudalen ‘Negeseuon’ eich cyfrif RPW Ar-lein.

SAF

Cymorth Digidol SAF 2021

Oherwydd Covid-19, mae ein Swyddfeydd Rhanbarthol ar gau i’r cyhoedd. Am hynny, ni fyddwn yn gallu cynnal sesiynau ‘Cymorth Digidol’ eleni.

Dogfen

Taliadau BPS 2021

Caiff taliadau’r BPS 2021 eu talu mewn punnoedd sterling.

Cyn belled â bod hawliad cymwys a’r holl ddogfennau ategol yn ein cyrraedd, byddwn yn rhagdalu 70% o werth tebygol eich hawliad BPS 2021 o 15 Hydref 2021.  Ni fydd angen ichi wneud cais ar wahân am y rhagdaliad hwn.

Bydd y taliadau sy’n weddill o BPS 2021 yn cael eu talu o 15 Rhagfyr 2021.

Cyfrifiadur

Trosglwyddo Hawliau BPS 2021 bellach ar agor

Gall ffermwyr drosglwyddo’u Hawliau BPS trwy eu gwerthu, eu lesio neu drwy ewyllys. Agorodd cyfnod trosglwyddo 2021 ar 4 Ionawr 2021.

Bydd ffurflenni Trosglwyddo Hawliau ar gael ichi eu llenwi ar-lein ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Gall gwerth yr hawliau a ddangosir ar eich cyfrif newid. Rhaid ichi roi gwybod inni cyn canol nos 15 Mai 2021 am unrhyw hawliau sydd wedi’u trosglwyddo er mwyn ichi allu hawlio ar yr hawliau a gewch yn 2021.

Crop

Trawsgydymffurfio – 2021

Mae’r rhan fwyaf o reolau ynghylch Trawsgydymffurfio yn parhau’n berthnasol a heb eu newid ers 2020. Mae rhai taflenni ffeithiau wedi’u diwygio ar gyfer 2021 fodd bynnag. Y rheswm am hyn yw newidiadau mewn gofynion ac arferion da, ac egluro rhywfaint o’r geiriad. Mae newidiadau hefyd i’r Safonau Dilysadwy ynghylch Trawsgydymffurfio ar gyfer 2021 mewn perthynas â dosbarthu achosion o dorri Amodau Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAEC) a Gofynion Rheoli Statudol.

Dylech wirio ac adolygu rheoliadau ynghylch Trawsgydymffurfio yn rheolaidd.

Fferm

Grant Busnes Fferm

Bydd yr 8fed cyfnod mynegi diddordeb ar gyfer y Grant Busnes Fferm yn agor ar 1 Mawrth 2021 ac yn cau ar 9 Ebrill 2021. Bydd ffurflenni ar-lein ar gael i chi eu llenwi gan ddefnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein.

Fferm

Grantiau Bach Glastir

Grantiau Bach Glastir (Dŵr 2020): Rhaid cwblhau a hawlio pob Prosiect Gwaith Cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2021. Rhaid cyflwyno hawliadau drwy RPW Ar-lein a chynnwys yr holl ffotograffau â geotag 'cyn' ac 'ar ôl'.

Cefngwlad

Y wybodaeth ddiweddaraf am Reoli Tir yn Gynaliadwy

Rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad Papur Gwyn sy'n nodi'r cynlluniau ar gyfer cam nesaf y polisi amaethyddol yng Nghymru. Mae'r papur yn gosod y cefndir ar gyfer Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a fydd yn cael ei gyflwyno yn nhymor nesaf y Senedd. Mae’n cymryd rhai o’r syniadau a gyflwynwyd gennym yn “Ffermio Cynaliadwy a'n Tir” ac yn adeiladu arnynt, yn dilyn yr ymatebion a gawsom.
Rydym yn croesawu eich barn ar hyn ac yn eich annog i ymateb i'r ymgynghoriad.

Ieir

Rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch Parth Atal Ffliw Adar

Gan fod y risg o Ffliw Adar wedi’i chynyddu, Rydym wedi cynhyrchu Rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch Parth Atal Ffliw Adar.

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cadarnhau Ffliw Adar H5N8 mewn ffesantod ar Ynys Môn. Ar 20 Chwefror, wnaeth y Parth Gwarchod cael ei diddymu a wnaeth yr ardal tu fewn y Barth dod yn rhan o’r Parth Gwyliadwriaeth 10km.

Anogir aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am adar dŵr gwyllt (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu wylanod marw, neu bump neu fwy o adar gwyllt marw o rywogaethau eraill yn yr un lleoliad, drwy ffonio llinell gymorth Defra ar 03459 335577.

Afon

Cyhoeddi rheoliadau newydd i fynd i’r afael â llygredd amaethyddol yng Nghymru

Ar 27 Ionawr cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, reoliadau newydd i fynd i’r afael â lefelau annerbyniol parhaus llygredd amaethyddol yng Nghymru. Daw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 i rym ar 1 Ebrill 2021 gan gynnwys cyfnodau pontio i gyflwyno rhai mesuriadau yn raddol hyd at 1 Awst 2024.
Mae'r Rheoliadau'n sefydlu safonau sylfaenol yng Nghymru, sy'n gyffelyb i'r rhai yng ngweddill y DU ac Ewrop ac maent yn gymesur, gan ganolbwyntio ar y ffermydd hynny lle mae'r risg amgylcheddol yn deillio o reoli slyri gwael ar ei uchaf.

Fferm

Deall cymhellion ffermydd bach a bach iawn

Gwahoddir detholiad ar hap o ffermydd bach ledled Cymru i gymryd rhan mewn arolwg ffôn yn ystod Chwefror a Mawrth. Pwrpas yr ymchwil yw deall y cymhellion a'r prosesau gwneud penderfyniadau yn y ffermydd hyn.

Os bydd ein contractwyr penodedig Wavehill yn cysylltu â chi, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn cwblhau'r arolwg. Er mwyn amddiffyn eich preifatrwydd, bydd yr holl ddata a ddychwelir i Llywodraeth Cymru yn cael ei agregu, felly ni ellir adnabod gwybodaeth o'ch fferm. Cysylltwch â environmentalevidence@gov.wales os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r gwaith hwn.

Moch

Canllawiau newydd ar gyfer Ceidwaid Moch Cymru

Mae fersiwn ddiwygiedig newydd o’r Canllawiau ar gyfer Ceidwaid Moch bellach ar-lein. Os ydych yn cadw moch neu os byddwch yn cadw moch yn y dyfodol, ymgyfarwyddwch â’r gofynion cyfreithiol.

Ceffyl

Dyddiad cau gosod microsglodion ceffylau

Mae'r dyddiad cau ar gyfer gosod microsglodyn ar eich ceffylau bellach wedi mynd heibio. Os nad ydych eto wedi gosod mircoglodyn ceffyl, merlen neu asyn, mae angen i chi wneud hyn ar frys.

Gwnewch apwyntiad gyda'ch milfeddyg. Os oes angen i chi drafod hyn gyda ni, cysylltwch â ni ar

EquineIDceffylau@gov.wales

EID Cymru

Stocrestr Flynyddol Defaid a Geifr 2021

 Os nad ydych wedi cwblhau eich stocrestr, mae angen ichi wneud hynny ar frys. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i nodi nifer y defaid a geifr sydd gennych ar bob daliad ar 1 Ionawr 2021.

Gallwch wneud hyn ar-lein ar www.eidcymru.org neu dychwelwch y ffurflen wedi’i chwblhau i EIDCymru, Aberystwyth.

Tractor

Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar gyfer Defnyddio Plaladdwyr yn Gynaliadwy

Dweud eich dweud ar y ‘Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Defnyddio Plaladdwyr yn Gynaliadwy’.
Mae Defra, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn holi barn ar y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Defnyddio Plaladdwyr yn Gynaliadwy. Y nod yw lleihau risgiau ac effaith plaladdwyr i iechyd dynol a’r amgylchedd. Ac ar yr un pryd sicrhau fod plâu a ymwrthedd plaladdwyr yn cael eu rheoli’n effeithiol.

Baner

Ymadael â’r UE: adnoddau 

Gan fod Cyfnod Pontio’r DU bellach wedi dod i ben, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiweddaru canllawiau ar gyfer busnesau sy’n masnachu â’r UE, a chyda Gogledd Iwerddon. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y modd y gall eich busnes addasu i’r rheolau masnachu newydd ar gael ar wefan Paratoi Cymru, a hefyd ar Porth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru. Cofiwch hefyd ymweld â gwefan https://www.gov.uk/transition sydd bellach yn cynnwys y gwiriwr Brexit a fydd yn rhoi rhestr wedi’i bersonoli o gamau gweithredu ar eich cyfer chi, eich busnes a’ch teulu.

WRN

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru (UGRGC)

Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:

  • gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
  • ymwneud â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a'r cynlluniau y mae'n eu hariannu.
Tractor

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.

Llinellau Cymorth

FarmWell Cymru

 Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.

Wefan: https://farmwell.cymru/

Cronfa Addington

Ffoniwch: 1926 620135

Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/

Sefydliad DPJ 

Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799

Ebost: contact@thedpjfoundation.com

Wefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/ 

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch: 03000 111 999 

Wefan: https://fcn.org.uk/?lang=cy 

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch: 0808 281 9490

E-bost: help@rabi.org.uk

Wefan: https://rabi.org.uk/

Tir Dewi

Ffoniwch: 0800 121 47 22

Wefan: https://www.tirdewi.co.uk/cy/home-welsh/

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/ffermio-a-chefn-gwlad

Dilynwch ar Twitter:

@LlCAmgylchFferm

@LIC_Pysgodfeydd