Pan fydd y DU yn gadael yr UE ar 1 Ionawr 2021 bydd Cynllun Dynodiad Daearyddol Newydd y DU yn dod i rym a fydd yn disodli Cynllun yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Dynodiadau Daearyddol yn ffurf ar ddiogelu eiddo deallusol a ddefnyddir i adnabod cynhyrchion y mae eu hansawdd ac enw da wedi'u cysylltu â'r man y'u cynhyrchwyd neu'r dull a ddefnyddiwyd i'w cynhyrchu.
Bydd gan Gynllun Dynodiad Daearyddol y DU dri logo newydd yn dibynnu ar ddynodiadau gwahanol. Bydd y logos hyn yn rhoi hyder i ddefnyddwyr a masnachwyr, bod ein cynhyrchion Dynodiad Daearyddol y DU wedi'u cysylltu'n swyddogol â tharddiad a bydd y logos newydd yn gwarantu eu dilysrwydd.
Logos Dynodiad Daearyddol Newydd y DU
Defnydd o'r logo
O 1 Ionawr 2024, bydd y defnydd o logo Dynodiad Daearyddol perthnasol wrth werthu
- yn y DU yn orfodol ar gyfer bwyd-amaeth
- ac yn opsiynol ar gyfer gwinoedd/gwirodydd
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cynllun newydd ar wefan Defra
https://www.gov.uk/government/news/new-rules-and-logos-to-protect-british-food-and-drink
Manteision o gael statws Dynodiad Daearyddol
- Marc ansawdd annibynnol a gydnabyddir yn fyd-eang
- Diogelwch cyfreithiol yn erbyn efelychiad, camddefnydd a thwyll
- Darparu Pwynt Gwerthu Unigryw (USP) ac arf marchnata
Ar hyn o bryd mae gan Gymru 16 o Ddynodiadau Daearyddol, yn amrywio o Gaws Caerffili Traddodiadol i Halen Môn a Chig Oen Cymreig. Bydd yr holl gynhyrchion o fewn ein 'teulu o Ddynodiadau Daearyddol Cymreig' yn parhau i gael eu diogelu'n gyfreithiol dan Gynllun Dynodiad Daearyddol newydd y DU. Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran adnabod cynnyrch eiconig. Mae 10 o'r 12 cynnyrch diwethaf i gyflawni statws Dynodiad Daearyddol yn y DU wedi dod o Gymru.
Teitl y llun Cregyn Gleision Conwy PDO
Yn y ddolen isod, mae Gweinidog Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Lesley Griffiths, yn dathlu a chlodfori ein 'teulu o Ddynodiadau Daearyddol Cymreig' ar hyn o bryd ac yn annog ceisiadau newydd ar gyfer statws Dynodiad Daearyddol y DU o bob categori Bwyd a Diod yng Nghymru. Bydd statws Dynodiad Daearyddol y DU hefyd yn 'gam ymlaen' i unrhyw gynnyrch o Gymru sydd â Dynodiad Daearyddol sy'n dymuno ymgeisio am statws Dynodiad Daearyddol yr UE.
https://twitter.com/WGEnviroAgri/status/1319269246858264580
Cymorth ar gael
Mae rhagor o arweiniad a chymorth ar gael i gynhyrchwyr Cymreig. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phob ymholiad yn ymwneud â Dynodiadau Daearyddol cysylltwch â ni ar UKGI.Cymru@llyw.cymru
|