Newyddlen Cynllun Dynodiad Daearyddol Newydd y DU 1 Ionawr 2021 Bwyd a Diod

23 Tachwedd 2020

 
 

Newyddlen Cynllun Dynodiad Daearyddol Newydd y DU 1 Ionawr 2021 Bwyd a Diod

Pan fydd y DU yn gadael yr UE ar 1 Ionawr 2021 bydd Cynllun Dynodiad Daearyddol Newydd y DU yn dod i rym a fydd yn disodli Cynllun yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Dynodiadau Daearyddol yn ffurf ar ddiogelu eiddo deallusol a ddefnyddir i adnabod cynhyrchion y mae eu hansawdd ac enw da wedi'u cysylltu â'r man y'u cynhyrchwyd neu'r dull a ddefnyddiwyd i'w cynhyrchu.

Bydd gan Gynllun Dynodiad Daearyddol y DU dri logo newydd yn dibynnu ar ddynodiadau gwahanol. Bydd y logos hyn yn rhoi hyder i ddefnyddwyr a masnachwyr, bod ein cynhyrchion Dynodiad Daearyddol y DU wedi'u cysylltu'n swyddogol â tharddiad a bydd y logos newydd yn gwarantu eu dilysrwydd.

Logos Dynodiad Daearyddol Newydd y DU

 

Logos UK GI

Defnydd o'r logo

O 1 Ionawr 2024, bydd y defnydd o logo Dynodiad Daearyddol perthnasol wrth werthu

  • yn y DU yn orfodol ar gyfer bwyd-amaeth
  • ac yn opsiynol ar gyfer gwinoedd/gwirodydd

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cynllun newydd ar wefan Defra

https://www.gov.uk/government/news/new-rules-and-logos-to-protect-british-food-and-drink 

Manteision o gael statws Dynodiad Daearyddol

  • Marc ansawdd annibynnol a gydnabyddir yn fyd-eang
  • Diogelwch cyfreithiol yn erbyn efelychiad, camddefnydd a thwyll
  • Darparu Pwynt Gwerthu Unigryw (USP) ac arf marchnata

Ar hyn o bryd mae gan Gymru 16 o Ddynodiadau Daearyddol, yn amrywio o Gaws Caerffili Traddodiadol i Halen Môn a Chig Oen Cymreig.  Bydd yr holl gynhyrchion o fewn ein 'teulu o Ddynodiadau Daearyddol Cymreig' yn parhau i gael eu diogelu'n gyfreithiol dan Gynllun Dynodiad Daearyddol newydd y DU. Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran adnabod cynnyrch eiconig. Mae 10 o'r 12 cynnyrch diwethaf i gyflawni statws Dynodiad Daearyddol yn y DU wedi dod o Gymru. 

Cynhyrchwyr UK GI

Teitl y llun Cregyn Gleision Conwy PDO

Yn y ddolen isod, mae Gweinidog Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Lesley Griffiths, yn dathlu a chlodfori ein 'teulu o Ddynodiadau Daearyddol Cymreig' ar hyn o bryd ac yn annog ceisiadau newydd ar gyfer statws Dynodiad Daearyddol y DU o bob categori Bwyd a Diod yng Nghymru. Bydd statws Dynodiad Daearyddol y DU hefyd yn 'gam ymlaen' i unrhyw gynnyrch o Gymru sydd â Dynodiad Daearyddol sy'n dymuno ymgeisio am statws Dynodiad Daearyddol yr UE.

https://twitter.com/WGEnviroAgri/status/1319269246858264580

Cymorth ar gael

Mae rhagor o arweiniad a chymorth ar gael i gynhyrchwyr Cymreig. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phob ymholiad yn ymwneud â Dynodiadau Daearyddol cysylltwch â ni ar UKGI.Cymru@llyw.cymru

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilyn ar-lein: @BwydaDiodCymru