 |
|
(Saesneg yn unig, bydd cyfieithiad i ddilyn)
|
 |
|
Sut bydd ysgolion yn gweithio yn ystod pandemig y coronafeirws, gan gynnwys arholiadau ac asesiadau.
|
Yn dilyn y sefyllfa gyfredol am COVID-19, ni fydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl derbyn unrhyw gasgliadau data statudol sydd wedi’u hamserlenni i’w casglu cyn gwyliau haf ysgolion ond sydd heb ddechrau eto. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Casgliad data Presenoldeb: Cynradd 2020;
- Casgliad data Presenoldeb: Uwchradd 2020;
- Casgliad Data Cenedlaethol (CDC) 2020; a
- Casgliad data Profion Cenedlaethol Cymru (PCC) 2020 (gan nad yw’r profion yn cymryd lle bellach).
Rydym wedi penderfynu canslo’r casgliadau uchod er mwyn lleddfu unrhyw straen a phwysau di-angen ar ysgolion ac awdurdodau lleol yn ymwneud â rhain ac i ganolbwyntio ar faterion llawer mwy pwysig ar hyn o bryd, megis cynorthwyo disgyblion sy’n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol yn ystod yr amgylchiadau eithriadol yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â’r uchod, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni ar IMS@llyw.cymru.
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i sicrhau bod pob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn cael mynediad llawn at Hwb fel y gall ysgolion ddefnyddio’r offer dysgu o bell sydd ar gael, megis Microsoft 365, G Suite for Education, Just2easy a Minecraft: EE.
Paratoi ar gyfer dysgu o bell gan ddefnyddio Microsoft Teams drwy Hwb fel rhith amgylchedd dysgu.
Mae llinell gymorth ar-lein ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod yr argyfwng COVID-19.
Mae modd dysgu o bell gan ddefnyddio amrywiol adnoddau Hwb, sydd ar gael i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Bydd hyn yn caniatáu i athrawon a dysgwyr sydd â dyfeisiau addas wedi'u cysylltu â'r rhyngrwyd barhau â gweithgareddau ystafell ddosbarth y tu allan i'r ysgol, yn ôl y gofyn.
Gwybodaeth a cymorth Hwb
Am unrhyw ymholiadau yn ymwneud â Hwb
E-bost: hwb@llyw.cymru
Ffôn: 03000 252525
Canolfan gymorth: https://hwb.llyw.cymru/canolfan-cymorth
|