20 Mawrth 2020 - Rhifyn arbennig: 02

20 Mawrth 2020 • Rhifyn arbennig 02

FSM

Prydau ysgol am ddim: Canllawiau coronafeirws ar gyfer ysgolion

(Saesneg yn unig, bydd cyfieithiad i ddilyn)

QW

Cymwysterau Cymru: Cyhoeddi graddau ar gyfer cymwysterau haf 2020

 

cbac

CBAC: Cyhoeddi graddau ar gyfer cymwysterau haf 2020

FAQ

Cwestiynau cyffredin i ysgolion

Sut bydd ysgolion yn gweithio yn ystod pandemig y coronafeirws, gan gynnwys arholiadau ac asesiadau.

Casgliadau Data Statudol

Yn dilyn y sefyllfa gyfredol am COVID-19, ni fydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl derbyn unrhyw gasgliadau data statudol sydd wedi’u hamserlenni i’w casglu cyn gwyliau haf ysgolion ond sydd heb ddechrau eto.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Casgliad data Presenoldeb: Cynradd 2020;
  • Casgliad data Presenoldeb: Uwchradd 2020;
  • Casgliad Data Cenedlaethol (CDC) 2020; a
  • Casgliad data Profion Cenedlaethol Cymru (PCC) 2020 (gan nad yw’r profion yn cymryd lle bellach).

Rydym wedi penderfynu canslo’r casgliadau uchod er mwyn lleddfu unrhyw straen a phwysau di-angen ar ysgolion ac awdurdodau lleol yn ymwneud â rhain ac i ganolbwyntio ar faterion llawer mwy pwysig ar hyn o bryd, megis cynorthwyo disgyblion sy’n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol yn ystod yr amgylchiadau eithriadol yma.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â’r uchod, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni ar IMS@llyw.cymru.

Hwb ac adnoddau eraill

Gwasanaethau Ychwanegol Hwb i BOB dysgwr

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i sicrhau bod pob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn cael mynediad llawn at Hwb fel y gall ysgolion ddefnyddio’r offer dysgu o bell sydd ar gael, megis Microsoft 365, G Suite for Education, Just2easy a Minecraft: EE.

Barod am Ddysgu o Bell yn Ddiofyn drwy Teams

Paratoi ar gyfer dysgu o bell gan ddefnyddio Microsoft Teams drwy Hwb fel rhith amgylchedd dysgu.

Rhywun ar dy ochr di: Llinell gymorth Meic Cymru yn parhau i helpu

Mae llinell gymorth ar-lein ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod yr argyfwng COVID-19.

Dysgu o Bell drwy Hwb

Mae modd dysgu o bell gan ddefnyddio amrywiol adnoddau Hwb, sydd ar gael i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Bydd hyn yn caniatáu i athrawon a dysgwyr sydd â dyfeisiau addas wedi'u cysylltu â'r rhyngrwyd barhau â gweithgareddau ystafell ddosbarth y tu allan i'r ysgol, yn ôl y gofyn.

Gwybodaeth a cymorth Hwb

Am unrhyw ymholiadau yn ymwneud â Hwb

E-bost: hwb@llyw.cymru 

Ffôn: 03000 252525

Canolfan gymorth: https://hwb.llyw.cymru/canolfan-cymorth  

 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl

Blog Cwricwlwm i Gymru

Diwygio’r cwricwlwm

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru