|
|
Cymru yn dysgu gwersi oddi wrth ranbarth Rühr
Bu partneriaid o Gymru a phob rhan o Ewrop yn ymweld â'r Almaen o dan y prosiect COHES3ION. Cawsant gyfle i weld sut y mae colli diwydiannau traddodiadol ym maes glo a dur wedi arwain at ddatblygiadau newydd yn y rhanbarth, gan ddefnyddio marchnadoedd fel gofal iechyd a seiberddiogelwch.
Darganfyddwch fwy yma
|
Advances Wales - rhifyn 91 ar gael nawr
Ymhlith y mentrau arloesol sy'n cael sylw yn y rhifyn hwn y mae HUG ar gyfer pobl sydd â dementia, a phlatfform arloesol ym maes monitro aer am ficrobau.
Mae erthygl yn y rhifyn hwn hefyd am drawsnewid y ffordd yr eir ati i ganfod canser y coluddyn.
Gallwch weld y rhifyn diweddaraf o Advances Wales yma
|
|
|
|
|
Ysbrydoli gwyddonwyr ifanc
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal Diwrnod Gwyddoniaeth yn ystod wythnos Gwyddoniaeth Prydain. Bydd y gynulleidfa ifanc a gaiff ei gwahodd i'r digwyddiad yn cael y cyfle i wrando ar anerchiadau a fydd yn eu hysbrydoli, i gyfarfod â gwyddonwyr ac i ddysgu oddi wrth bobl fel Thomas Jenkins, sydd wedi ennill Gwobr Arloesi Myfyrwyr.
Darganfyddwch fwy yma
|
Cyllid ar gael ar gyfer eich syniadau arloesol am ddatgarboneiddio
Gall busnesau cymwys wneud cais am hyd at £50,000 o gymorth ariannol o dan raglen SMART Cymru, sy'n cael ei hariannu gan yr UE, i edrych ar ba mor ymarferol yw syniadau am ddatgarboneiddio. Os yw'ch busnes chi am ymchwilio i weld a oes modd trawsnewid syniadau arloesol am ddatgarboneiddio yn gynhyrchion, yn brosesau neu'n wasanaethau newydd, gallwch wneud cais am grant (na fydd angen ei ad-dalu) a fydd yn talu hyd at 70% o gostau'r gwaith asesu dichonoldeb.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cyhoeddiad teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant
Gwobrau cenedlaethol Cymru yw Gwobrau Dewi Sant, sy'n dathlu'r pethau anhygoel y mae pobl Cymru yn eu cyflawni.
Y 3 theilyngwr yn y categori Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yw Aber Instruments Ltd, GAMA Healthcare a Phrifysgol Caerdydd, a'r Athro David Worsley.
Darllenwch fwy yma
Ehangu gallu rheoli a thrawsnewid perfformiad eich busnes
Mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Reoli (mKTP) yn rhaglen newydd sydd â'r nod o ddod ag arbenigedd reoli i'ch busnes drwy bartneriaethau arloesol gydag Ysgolion Busnes y DU, sydd ymhlith y goreuon yn y byd. Mae rhagor o wybodaeth am y fenter hon gan Innovate UK i'w gweld yma.
Darganfyddwch fwy am y fenter Innovate UK yma
Cyfleoedd drwy Drydaneiddio Cerbydau
17 Mawrth – Ysgol Beirianneg Caerdydd, Caerdydd
Oes diddordeb gennych mewn chwilio am gyfleoedd newydd drwy drydaneiddio?
Mae UKRI (Ymchwil ac Arloesi'r DU) wedi sefydlu Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol – Sbarduno'r Chwyldro Trydan er mwyn helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi sy'n gysylltiedig â thrydaneiddio cerbydau.
Mae cyllid ar gael i helpu busnesau sy'n awyddus i fod yn rhan o brosiectau arloesi a chydweithio.
Gallwch gofrestru yma
Cynhadledd Ranbarthol Menter Vanguard
25 Mawrth 2020 - Castell Caerdydd
26 Mawrth 2020 - Stadiwm y Principality, Caerdydd
Mae'r gynhadledd hon yn cael ei threfnu ar y cyd â rhanbarth Randstad (yr Iseldiroedd), a bydd y cynrychiolwyr yn cael cyfle i:
-
Glywed sut mae aelod-ranbarthau'n mynd i'r afael â heriau sydd ganddynt yn gyffredin drwy gydweithio.
-
Ymweld â Ffowndri Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
-
Cyfarfod â chynrychiolwyr o bob rhan o Ewrop sydd â diddordeb mewn Arbenigo Craff
Cliciwch yma i ddysgu mwy ac i gofrestru
Iechyd Yfory 2020
25 - 26 Mawrth 2020 - Venue Cymru, Llandudno
Iechyd Yfory yw digwyddiad gofal iechyd diweddaraf Cymru. Mae’n dod â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal, busnesau a’r byd academaidd ynghyd i ddylanwadu ar ddyfodol iechyd yng Nghymru.
Cliciwch yma i ddysgu mwy ac i gofrestru
Beth am gofrestru ar gyfer ein Cymhorthfa Cyllid Arloesi Ar-lein i helpu'ch cwmni i gael gafael ar gyllid ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu, i gynnal prosiectau ymchwil a datblygu mwy effeithiol, ac i fasnacheiddio'r canlyniadau.
Cliciwch yma i gofrestru
Beth am ddod i un o'n gweithdai Gwerthu drwy Farchnata Digidol i ddysgu sut i wneud y gorau o'ch gwefan, eich platfformau ar y cyfryngau cymdeithasol a marchnata drwy'r e-bost?
Cliciwch yma i ddod o hyd i ddyddiad a lleoliad addas ichi
Maniffesto Gweithgynhyrchu − Taith tuag at Weithgynhyrchu Uchel ei Werth yng Nghymru
2 Ebrill 2020 - Venue Cymru, Llandudno
Mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Maniffesto Gweithgynhyrchu. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Quentin Willson gyda siaradwyr o fyd diwydiant, ynghyd â Ken Skates, AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
Archebwch eich lle yma
|