 |
|
Ynghanol y gwaith o fireinio’r cwricwlwm ar sail adborth “defnyddiol iawn”, mae’r athrawon Nia Williams a Gareth Evans yn cael eu cyfweld gan Yvonne Evans.
|
 |
|
Mae gennych tan ddydd Gwener 22 Tachwedd i enwebu ar gyfer categoriau gan gynnwys, athrawon eithriadol, rheolwyr busnes ysgolion a defnydd ysbrydoledig o'r Gymraeg. Enwebwch nawr
|
 |
|
Pecyn addysgol newydd i ysgolion cynradd Cymraeg sy’n annog plant i chwilio, gweld a chlywed y Gymraeg yn eu hardal nhw. Mae’n dilyn nodau’r Siarter Iaith, ac yn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol.
|
System archebu profion darllen a rhifedd (rhesymu) cenedlaethol
Gall ysgolion archebu papurau’r Profion Rhifedd (Rhesymu) pan fydd y system archebu’n fyw hyd at 22 Tachwedd 2019. Mae ysgolion yn archebu profion ar gyfer eu dysgwyr drwy System Archebu Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol (dolen allanol).
Mae’r llawlyfr diwygiedig yn nodi’r trefniadau ar gyfer y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol a’r asesiadau personol ar-lein sydd i’w gwneud gan bob dysgwr ym Mlwyddyn 2 i 9 ym mlwyddyn academaidd 2019 i 2020.
Asesiadau Personol – cytundeb data
Dyma atgoffa penaethiaid mae angen i chi derbyn y cytundeb data ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019/20 ac adolygu swyddogaethau staff ar y wefan asesu cyn i’ch ysgol chi gallu trefnu unrhyw asesiadau.
Mae CBAC yn gweithio fel rhan o gonsortiwm, dan arweiniad AlphaPlus Consultancy Ltd ac wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, i ddatblygu'r asesiadau personol.
Fel rhan o'r gwaith hwn, mae CBAC yn darparu hyfforddiant i ysgolion ar weinyddu a defnyddio'r asesiadau personol. Er mwyn teilwra'r hyfforddiant yn ôl anghenion eich staff, a fyddech cystal â llenwi'r holiadur fydd ar gael ar-lein tan ddiwedd tymor yr hydref 6 Rhagfyr.
Byddai'n fuddiol pe byddai unigolyn sy’n ymwybodol o anghenion a dewisiadau hyfforddi eich ysgol yn ei gwblhau, os nad ydyn nhw wedi gwneud yn barod.
Asesiadau Personol - canllaw i ysgolion
Gallwch ddod o hyd i'r canllaw drwy fewngofnodi i Hwb, yn Adran Gymorth y wefan asesu.
Ymunwch yn nathliadau hawliau plant. Cefnogwch eich disgyblion i ddysgu beth yw eu hawliau a deall sut i sicrhau eu bod nhw yn cael eu clywed.
Ymghynghoriad yn cau: 21 Tachwedd 2019
Ymghynghoriad yn cau: 25 Tachwedd 2019
Ymgynghoriad yn cau: 28 Tachwedd 2019
Ymghynghoriad yn cau: 9 Rhagfyr 2019
Arbedwch arian y Nadolig hwn! Yn syml, mewngofnodwch i Hwb a lawrlwythwch Office 365 (gwerth hyd at £69) ar hyd at 15 o'ch dyfeisiau personol. Gallwch hefyd gael mynediad at Minecraft Education Edition am ddim!
Neges i bob gwneuthurwr ffilmiau brwd: mae gennych chi amser i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel drwy greu ffilm fer am ddiogelwch ar-lein. Thema’r gystadleuaeth yw “Rhyngrwyd gwell: Sut i ofalu amdanoch chi eich hun ac eraill’.
Mae pecynnau addysg dwyieithog newydd i ysgolion a sefydliadau plant i ddathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar gael yn awr.
Dyma drydedd rhan o gyfres newydd o ffilmiau a chanllawiau ‘Dechrau’r sgwrs’ yn benodol i deuluoedd, sy’n ymwneud â materion diogelwch ar-lein pwysig. Mae’r drydedd rhan yn edrych ar yr heriau i deuluoedd wrth wynebu materion bwlio ar-lein.
|