eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 20 Tachwedd 2019 (Rhifyn 222)

20 Tachwedd 2019 • Rhifyn 222

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

blog 90 x 90

Podlediad newydd! Athrawon yn trafod defnyddio’r adborth i fireinio’r cwricwlwm

Ynghanol y gwaith o fireinio’r cwricwlwm ar sail adborth “defnyddiol iawn”, mae’r athrawon Nia Williams a Gareth Evans yn cael eu cyfweld gan Yvonne Evans.

PTAC nominate now

Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2020

Mae gennych tan ddydd Gwener 22 Tachwedd i enwebu ar gyfer categoriau gan gynnwys, athrawon eithriadol, rheolwyr busnes ysgolion a defnydd ysbrydoledig o'r Gymraeg. Enwebwch nawr   

Siarter iaith siarter gwaith

Siarter Iaith – Iaith Gwaith

Pecyn addysgol newydd i ysgolion cynradd Cymraeg sy’n annog plant i chwilio, gweld a chlywed y Gymraeg yn eu hardal nhw. Mae’n dilyn nodau’r Siarter Iaith, ac yn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol.

ASESIADAU PERSONOL/PROFION DARLLEN A RHIFEDD

System archebu profion darllen a rhifedd (rhesymu) cenedlaethol

Gall ysgolion archebu papurau’r Profion Rhifedd (Rhesymu) pan fydd y system archebu’n fyw hyd at 22 Tachwedd 2019. Mae ysgolion yn archebu profion ar gyfer eu dysgwyr drwy System Archebu Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol (dolen allanol).

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – Llawlyfr gweinyddu Profion

Mae’r llawlyfr diwygiedig yn nodi’r trefniadau ar gyfer y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol a’r asesiadau personol ar-lein sydd i’w gwneud gan bob dysgwr ym Mlwyddyn 2 i 9 ym mlwyddyn academaidd 2019 i 2020.

Asesiadau Personol – cytundeb data

Dyma atgoffa penaethiaid mae angen i chi derbyn y cytundeb data ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019/20 ac adolygu swyddogaethau staff ar y wefan asesu cyn i’ch ysgol chi gallu trefnu unrhyw asesiadau.

Holiadur ar hyfforddiant staff 

Mae CBAC yn gweithio fel rhan o gonsortiwm, dan arweiniad AlphaPlus Consultancy Ltd ac wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, i ddatblygu'r asesiadau personol.

 

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae CBAC yn darparu hyfforddiant i ysgolion ar weinyddu a defnyddio'r asesiadau personol. Er mwyn teilwra'r hyfforddiant yn ôl anghenion eich staff, a fyddech cystal â llenwi'r holiadur fydd ar gael ar-lein tan ddiwedd tymor yr hydref 6 Rhagfyr. 

 

Byddai'n fuddiol pe byddai unigolyn sy’n ymwybodol o anghenion a dewisiadau hyfforddi eich ysgol yn ei gwblhau, os nad ydyn nhw wedi gwneud yn barod.

Asesiadau Personol - canllaw i ysgolion

Gallwch ddod o hyd i'r canllaw drwy fewngofnodi i Hwb, yn Adran Gymorth y wefan asesu. 

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

CCUHP: 30 blynedd o hawliau plant

Ymunwch yn nathliadau hawliau plant. Cefnogwch eich disgyblion i ddysgu beth yw eu hawliau a deall sut i sicrhau eu bod nhw yn cael eu clywed. 

Cynnig rheoliadau ar gyfer trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid

Ymghynghoriad yn cau: 21 Tachwedd 2019

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020

Ymghynghoriad yn cau: 25 Tachwedd 2019

Sicrhau mynediad i’r cwricwlwm llawn

Ymgynghoriad yn cau: 28 Tachwedd 2019

Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru

Ymghynghoriad yn cau: 9 Rhagfyr 2019 

HWB AC ADNODDAU ERAILL

Mae Microsoft 365 bellach yn rhad ac AM DDIM i ddysgwyr ac athrawon yng Nghymru

Arbedwch arian y Nadolig hwn! Yn syml, mewngofnodwch i Hwb a lawrlwythwch Office 365 (gwerth hyd at £69) ar hyd at 15 o'ch dyfeisiau personol. Gallwch hefyd gael mynediad at Minecraft Education Edition am ddim!  

Gwnewch gais nawr – cystadleuaeth SID yn cau ar 6 Rhagfyr

Neges i bob gwneuthurwr ffilmiau brwd: mae gennych chi amser i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel drwy greu ffilm fer am ddiogelwch ar-lein. Thema’r gystadleuaeth yw “Rhyngrwyd gwell: Sut i ofalu amdanoch chi eich hun ac eraill’.

Pecynnau addysg Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel ar gael yn awr

Mae pecynnau addysg dwyieithog newydd i ysgolion a sefydliadau plant i ddathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar gael yn awr.

Bwlio ar-lein – canllaw a ffilm newydd i deuluoedd

Dyma drydedd rhan o gyfres newydd o ffilmiau a chanllawiau ‘Dechrau’r sgwrs’ yn benodol i deuluoedd, sy’n ymwneud â materion diogelwch ar-lein pwysig. Mae’r drydedd rhan yn edrych ar yr heriau i deuluoedd wrth wynebu materion bwlio ar-lein. 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl

Blog Cwricwlwm i Gymru

Diwygio’r cwricwlwm

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru