 |
|
Sicrhau llwyddiant gydag Arloesedd SMART
Dylai busnesau yng Nghymru sydd â syniad ar gyfer cynnyrch, proses neu wasanaeth newydd gysylltu ag Arloesedd SMART. Mae'r rhaglen eisoes wedi helpu cannoedd o fusnesau yng Nghymru, ar draws amrywiol sectorau, i ffynnu.
Wedi'i ddarparu gan dîm o Arbenigwyr Arloesi - yn cynnwys peirianwyr profiadol, gwyddonwyr, arbenigwyr gweithgynhyrchu ac arbenigwyr Eiddo Deallusol - caiff busnesau eu cynorthwyo i ddechrau ar syniadau newydd.
Darganfyddwch fwy am Arloesedd SMART
|
Diogelu'ch Busnes at y Dyfodol
Wedi'i ysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae busnesau, y sector cyhoeddus a phobl ledled Cymru yn cymryd camau i wneud y wlad yn lle gwell i fyw a gweithio ynddi. Cewch ymuno yn y daith i ddiogelu'ch busnes at y dyfodol er mwyn ei wneud yn fwy cynaliadwy a llewyrchus. Cewch ragor o wybodaeth a defnyddio'r pecyn cymorth yma
|
|
 |
 |
|
Cymru’n Llwyddo
Ar lwyfan y byd mae Cymru yn wlad fechan, ond yn wlad SMART. O'r gorffennol hyd heddiw mae rhestr sylweddol o lwyddiannau ym myd gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg i'w gweld yn y rhifyn diweddaraf Cymru’n Llwyddo. Darllenwch fwy
|
Ydych chi yn chwilio am gyfleoedd busnes newydd ar gyfer eich technoleg?
Mae'r heriau sydd angen atebion arloesol yn cynnwys:
-
lleihau allyriadau o offer codi trwm sy'n cael eu defnyddio mewn porthladdoedd
-
dewis amgen i symudwyr pyrotechnegol ar gyfer dyfeisiadau diogelwch hanfodol dulliau nad ydynt yn weledol ar gyfer archwilio gosodiadau y tu allan i adeiladau
-
dulliau nad ydynt yn weledol ar gyfer archwilio gosodiadau y tu allan i adeiladau
Gweler ein cydweithrediadau a'n harbenigedd eraill yma
Creu dyfodol cynaliadwy. Yr economi gylchol: bod yn gydnerth, achub ar gyfleoedd
25 Medi 2019 – Malpas Court, Casnewydd
26 Medi 2019 – Holiday Inn Express Dwyrain Abertawe, Castell-nedd
A ydych chi yn llunio penderfyniadau busnes o fewn BBaCh gweithgynhyrchu?
Pa na ddewch a:
- Nodi meysydd yn eich busnes lle y gallwch greu sicrwydd, edrych ar gyfleoedd a chefnogi llesiant cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.
- Clywed am wasanaethau Llywodraeth Cymru sy'n gallu eich cynorthwyo gyda'ch camau nesaf.
Archebwch eich lle yma
Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru
26 Medi 2019 - Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt
Ewch i Stondin Arloesi Llywodraeth Cymru ble y bydd Arbenigwyr Arloesi croesawgar a phrofiadol iawn y tîm yn barod i'ch helpu i arloesi o fewn eich busnes. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gwobrau Arloesi Myfyrwyr 2019
30 Medi - 1 Hydref - Clwb Criced Morgannwg, Caerdydd
14 & 15 Hydref - Canolfan Pontio, Bangor Mae'r Gwobrau Arloesi yn gystadleuaeth uchel ei pharch ac yn arddangosfa ryngweithiol ar gyfer y gwaith prosiect mwyaf arloesol ar lefel TGAU a lefel A Dylunio a Thechnoleg. Mae disgwyl i dros 2000 o fyfyrwyr, athrawon a busnesau fod yn y digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a Bangor fis nesaf. Dewch draw a gweld arloeswyr eleni
|