eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 22 Awst 2019: Rhifyn Arbennig yr Haf: TGAU

22 Awst 2019 • Rhifyn Arbennig: TGAU

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Dechrau eich stori

Canlyniadau Arholiadau 2019 – “Dechrau dy stori”

Helpwch bobl ifanc i ddechrau ei stori ar ôl eu canlyniadau TGAU. Mae cael canlyniadau arholiadau yn gyfnod cyffrous, llawn nerfau. Mae Cymru’n Gweithio yma i helpu myfyrwyr a rhieni drwy roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth ymarferol sy’n ymdrin â’r holl opsiynau, waeth beth fo’r canlyniadau. Am ragor o wybodaeth ar yr ymgyrch “Dechrau Dy Stori”, ewch i’r wefan   

Meic130x130

Canlyniadau arholiad? Gall Meic rhoi cymorth i ddisgyblion

Os yw pethau wedi mynd yn wahanol i'r disgwyl, gwell neu'n waeth, gall disgyblion edrych ar gyngor am beth i'w wneud nesaf gan Meic.

Money monster 90 x 90

Ydych chi'n gymwys am yr Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)?

Mae LCA ar gyfer y rheiny sy’n 16 i 18 mlwydd oed, yn byw yng Nghymru, ac sydd am barhau gyda’u haddysg wedi iddynt adael oedran gadael yr ysgol. Os yr ydych yn gymwys, fe allech dderbyn £30 yr wythnos, a thelir bob pythefnos.

Canllawiau ar y Trefniadau Dros Dro ar gyfer Perfformiad Ysgolion yng Nghyfnod Allweddol 4

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am fesurau perfformiad dros dro Cyfnod Allweddol 4 a sut y cânt eu cyfrifo, ein disgwyliadau ynghylch sut y dylid defnyddio gwybodaeth am gyrhaeddiad, a'r hyn y mae angen i ysgolion ei ystyried wrth wneud penderfyniadau am y cwricwlwm y maent am ei gynnig. Dylid anfon unrhyw gwestiynau ims@llyw.cymru

#AddysguCymru

Am fwy o wybodaeth am Addysgu yng Nghymru ewch i'r wefan 

https://www.darganfodaddysgu.cymru/

Os oes dysgwyr gennych sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn addysgu, beth am wylio trafodaeth #AddysguCymru gydag arbenigwyr yn y maes ar https://teledu.gyrfacymru.llyw.cymru/dysgu.html

Cymwysterau Cymru 

Yma fe welwch wybodaeth ystadegol am gymwysterau yng Nghymru.   

CBAC - Diwrnod Canlyniadau 2019

Yma fe welwch bopeth sydd angen i chi ei wybod ynglŷn â'ch canlyniadau, er mwyn sicrhau'r broses esmwythach i chi ar y diwrnod mawr.  

SkillsCymru 2019

Mae SkillsCymru yn ei gwneud yn bosib i filoedd o bobl ifanc ddychmygu llwybr dyfodol eu gyrfa gyda gweithgareddau cwbl ryngweithiol. Helpu i sicrhau bod eich myfyrwyr yn cael cwrdd â chyflogwyr, darparwyr addysg bellach ac uwch a darparwyr hyfforddiant mewn modd ystyrlon i gyd dan un to. Rydym yn argymell bod ysgolion, colegau a chweched dosbarthiadau yn dod â myfyrwyr Blynyddoedd 10,11,12 a 13. Am fwy o wybodaeth. 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales/educationmissionwales

Blog Cwricwlwm i Gymru

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

HWB

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru