Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi llongyfarch myfyrwyr TGAU ar eu canlyniadau, wrth i berfformiad cyffredinol canlyniadau ledled Cymru wella.
Helpwch bobl ifanc i ddechrau ei stori ar ôl eu canlyniadau TGAU. Mae cael canlyniadau arholiadau yn gyfnod cyffrous, llawn nerfau. Mae Cymru’n Gweithio yma i helpu myfyrwyr a rhieni drwy roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth ymarferol sy’n ymdrin â’r holl opsiynau, waeth beth fo’r canlyniadau. Am ragor o wybodaeth ar yr ymgyrch “Dechrau Dy Stori”, ewch i’r wefan
Mae LCA ar gyfer y rheiny sy’n 16 i 18 mlwydd oed, yn byw yng Nghymru, ac sydd am barhau gyda’u haddysg wedi iddynt adael oedran gadael yr ysgol. Os yr ydych yn gymwys, fe allech dderbyn £30 yr wythnos, a thelir bob pythefnos.
Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am fesurau perfformiad dros dro Cyfnod Allweddol 4 a sut y cânt eu cyfrifo, ein disgwyliadau ynghylch sut y dylid defnyddio gwybodaeth am gyrhaeddiad, a'r hyn y mae angen i ysgolion ei ystyried wrth wneud penderfyniadau am y cwricwlwm y maent am ei gynnig. Dylid anfon unrhyw gwestiynau ims@llyw.cymru
Mae SkillsCymru yn ei gwneud yn bosib i filoedd o bobl ifanc ddychmygu llwybr dyfodol eu gyrfa gyda gweithgareddau cwbl ryngweithiol. Helpu i sicrhau bod eich myfyrwyr yn cael cwrdd â chyflogwyr, darparwyr addysg bellach ac uwch a darparwyr hyfforddiant mewn modd ystyrlon i gyd dan un to. Rydym yn argymell bod ysgolion, colegau a chweched dosbarthiadau yn dod â myfyrwyr Blynyddoedd 10,11,12 a 13. Am fwy o wybodaeth.
YNGHYLCH DYSG
Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru. Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.