 |
|
Arloeswraig o Gymru yn cael ei chydnabod yng Ngwobrau Menywod sy'n Arloesi 2019
Mae arloeswragedd wedi cael eu cydnabod fel rhan o Wobrau Menywod sy'n Arloesi 2019. Mae'r arloeswraig o Gymru, Jessica Bruce, wedi cael plac am ei gwaith ar ddadansoddi cerddediad 3D i helpu oedolion hŷn, a phobl sy'n gwella ar ôl llawdriniaeth, i gerdded heb boen.
Cyhoeddwyd y Gwobrau ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac maent wedi chwilio am arloeswragedd sy'n mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r gymdeithas. Cliciwch yma
|
Llwyddiant ar gyfer dyfeiswyr ifanc o Gymru Mae dau ddyfeisiwr ifanc a gafodd sylw yn argraffiad diwethaf y cylchlythyr wedi mynd yn eu blaenau i fwynhau llwyddiant cenedlaethol yn Ffair Big Bang. Llwyddodd Seren Hopkins o Ysgol Uwchradd Pontypridd i ennill gwobr am ei phrosiect Cysgodfeydd Draenogod, a gafodd ei ysbrydoli gan Hobitiaid. Ac mae Jack Davies o Ysgol Uwchradd Aberteifi yn mynd yn ei flaen i gynrychioli'r DU yn y Ffair Gwyddoniaeth a Pheirianneg fwyaf yn yr Unol Daleithiau.
Darllenwchy fwy yma
|
|
 |
 |
|
Eisiau sicrhau bod eich busnes yn fwy cynhyrchiol?
Mae ein cymorth ar gael yn rhad ac am ddim ac mae'n darparu dull ymarferol a hyblyg i'ch helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol ac yn sicrhau'r prosesau gorau ar gyfer y dyfodol. Bydd arbenigwyr yn gweithio gyda chi i gynllunio gwelliannau o ran cynhyrchiant a dylunio, a byddant hefyd yn eich helpu i wneud y newidiadau angenrheidiol.
Darllenwch am gymorth SMART Productivity sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru yma
|
Gwarant y Trysorlys Horizon 2020 - y canllawiau diweddaraf
Mae cwmniau sy'n cael arian Horizon 2020 yn cael eu gwahodd i ddarparu data am eu prosiectau ar borthol sy'n cael ei reoli gan UKRI (Ymchwil ac Arloesedd y DU). Nod y porthole yw sicrhau bod UKRI yn meddu ar wybodaeth am brosiectau a chyfranogwyr er mwyn tanysgrifennu taliadau gwarant os oes angen. Darganfyddwch fwy yma
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Dewi Sant!
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru. Mae 9 o gategorïau gan gynnwys un ar gyfer Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi heno. Cliciwch yma i wybod mwy
Yn galw ar entrepreneuriaid
Mae Pitch@Palace 11.0 yn cynnig platform ar gyfer tynnu sylw at eich busnes a helpu i sbarduno twf. Mae croeso i fusnesau ac entrepreneuriaid ym maes technoleg ymgeisio.
Brysiwch gan fod yn rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 29 Mawrth. I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio cliciwch yma
Innovate UK - Digwyddiad Briffio ar Electroneg, Synwyryddion a Ffotoneg mewn Amgylcheddau Eithafol
26 Mawrth 2019 - Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd
Ydych chi'n gweithredu mewn amodau sy'n heriol yn amgylcheddol ac yn gorfforol, lle mae'n rhy beryglus i fodau dynol weithredu? Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £2 filiwn i ddatblygu dyfeisiadau, cydrannau a/neu is-systemau electroneg, synwyryddion a ffotoneg ar gyfer roboteg a gweithrediadau deallusrwydd artiffisial (deallusrwydd artiffisial gwirioneddol). Y nod yw annog buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu, yn y DU, yng ngalluoedd roboteg sy'n cael ei alluogi gan ESP. Beth am ddod draw i'r digwyddiad yng Nghaerdydd i glywed gan siaradwyr o'r diwydiant, a fydd yn cyflwyno persbectif y defnyddiwr ar yr heriau sy'n ein hwynebu.
Cyd-Fuddsodi mewn Ymchwil a Datblygu ym myd Busnes ar gyfer Twf Cynaliadwy
8 Mai - Parkway Hotel, Cwmbran
Darganfyddwch sut gall SMARTCymru gefnogi eich busnes chi ymhob cam o'r daith arloesi. Rydym yn derbyn ceisiadau am arian drwy gydol y flwyddyn. Byddwn ni'n cynnal digwyddiad yng Nghasnewydd yn fuan, mynnwch ragor o wybodaeth.
|