|
|
A yw eich cyflenwyr yn barod ar gyfer Brexit?
Os ydych yn brynwr, anogwch eich cyflenwyr i fanteisio ar yr help sydd ar gael iddynt. Darllenwch fwy yma.
|
Y wybodaeth ddiweddaraf gan Sefydliad Masnach y Byd
Mae Sefydliad Masnach y Byd wedi cadarnhau y bydd busnesau o Brydain yn gallu parhau i gyflwyno cynigion ar gyfer contractau sector cyhoeddus ledled y byd ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Swyddfa'r Cabinet (Gwefan allanol – iaith Saesneg).
Cyflogi gweithwyr tymhorol yr UE ar ôl i'r DU adael yr UE
Mae gwybodaeth i helpu cyflogwyr i recriwtio dinasyddion yr UE ar gyfer gwaith tymhorol, mewn busnesau bwyd a ffermio ar ôl Brexit, wedi cael ei chyhoeddi gan Defra. Darllenwch fwy yma (Gwefan allanol – iaith Saesneg).
|
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd
Darllenwch fwy yma i gael y newyddion diweddaraf am y Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd (ESPD).
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar 18 Chwefror, gan ddod â'i ymchwiliad i faes caffael i ben. Gellir dod o hyd i gofnod o'r sesiwn rhoi tystiolaeth yma.
Rydym yn aros am adroddiad terfynol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a byddwn yn eich diweddaru ar y camau nesaf mewn cylchlythyrau yn y dyfodol.
Edrychwch ar ein calendr am rybudd ymlaen llaw o ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr caffael yng Nghymru.
Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am ddigwyddiadau’r GCC.
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Darllenwch ein newyddion cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am adroddiad canlyniadau deunydd ysgrifennu a phapur copïo.
Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru
|
|
Digidol, Data a TGCh
Darllenwch y newyddion cryno am y categorïau i gael gwybodaeth am y strategaeth gaffael ddigidol a'r wybodaeth ddiweddaraf am y cytundeb fframwaith systemau ceblau strwythuredig; fframwaith ADIRA; a'r fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG (ITPS).
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru
|
Fflyd a Thrafnidiaeth
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan; ein fframwaith llogi cerbydau ar gontract; newyddion pwysig am y fframwaith llogi cerbydau II; a'r wybodaeth ddiweddaraf am y fframweithiau gwirio trwyddedau gyrwyr; darnau sbâr cerbydau; a'r fframweithiau tanwyddau hylif; a thelemateg.
Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru
Bwyd a Diod
Hoffai BlasCymru / TasteWales eich gwahodd i'w gynhadledd masnach bwyd a diod ryngwladol o'r radd flaenaf. Peidiwch â cholli allan, ewch i'n gwefan i gael gwybod sut y gallwch gymryd rhan.
Cyswllt: NPSFood@llyw.cymru
|
|
|
Gwasanaethau Proffesiynol
Darllenwch ein newyddion cryno am y categorïau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y fframwaith ymgynghoriaeth adeiladu (eiddo); y fframwaith gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithwyr; ac i weld yr amserlen ar gyfer digwyddiadau hyfforddi a briffio cyfreithiol.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru
|