Newyddion Caffael gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru

06 Mawrth 2019 • Rhifyn 012

 
 

Newyddion

money

A yw eich cyflenwyr yn barod ar gyfer Brexit?

Os ydych yn brynwr, anogwch eich cyflenwyr i fanteisio ar yr help sydd ar gael iddynt. Darllenwch fwy yma.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan Sefydliad Masnach y Byd

Mae Sefydliad Masnach y Byd wedi cadarnhau y bydd busnesau o Brydain yn gallu parhau i gyflwyno cynigion ar gyfer contractau sector cyhoeddus ledled y byd ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Swyddfa'r Cabinet  (Gwefan allanol – iaith Saesneg).

Cyflogi gweithwyr tymhorol yr UE ar ôl i'r DU adael yr UE

Mae gwybodaeth i helpu cyflogwyr i recriwtio dinasyddion yr UE ar gyfer gwaith tymhorol, mewn busnesau bwyd a ffermio ar ôl Brexit, wedi cael ei chyhoeddi gan Defra. Darllenwch fwy yma  (Gwefan allanol – iaith Saesneg).

pic

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd

Darllenwch fwy yma i gael y newyddion diweddaraf am y Ddogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd (ESPD).

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar 18 Chwefror, gan ddod â'i ymchwiliad i faes caffael i ben. Gellir dod o hyd i gofnod o'r sesiwn rhoi tystiolaeth yma.

Rydym yn aros am adroddiad terfynol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a byddwn yn eich diweddaru ar y camau nesaf mewn cylchlythyrau yn y dyfodol.

Calendr Digwyddiadau

Edrychwch ar ein calendr am rybudd ymlaen llaw o ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr caffael yng Nghymru. 

Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am ddigwyddiadau’r GCC.

Diweddariadau yn ôl categori


Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau a Chyfleustodau

 

Mae angen eich help arnom i adolygu cwmpas a manyleb y fframwaith deunyddiau glanhau newydd. Darllenwch ein newyddion cryno am y categorïau i gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan.

 

Cyswllt: NPSConstructionFM@llyw.cymru
Cyswllt: NPSUtilities@llyw.cymru

Adeiladu

Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes

Darllenwch ein newyddion cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am adroddiad canlyniadau deunydd ysgrifennu a phapur copïo.

Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru

ict

Digidol, Data a TGCh
 

Darllenwch y newyddion cryno am y categorïau i gael gwybodaeth am y strategaeth gaffael ddigidol a'r wybodaeth ddiweddaraf am y cytundeb fframwaith systemau ceblau strwythuredig; fframwaith ADIRA; a'r fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG (ITPS).

 

Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru

Fflyd a Thrafnidiaeth

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan; ein fframwaith llogi cerbydau ar gontract; newyddion pwysig am y fframwaith llogi cerbydau II; a'r wybodaeth ddiweddaraf am y fframweithiau gwirio trwyddedau gyrwyr; darnau sbâr cerbydau; a'r fframweithiau tanwyddau hylif; a thelemateg.

Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru

Bwyd a Diod

Hoffai BlasCymru / TasteWales eich gwahodd i'w gynhadledd masnach bwyd a diod ryngwladol o'r radd flaenaf. Peidiwch â cholli allan, ewch i'n gwefan i gael gwybod sut y gallwch gymryd rhan.

 

Cyswllt: NPSFood@llyw.cymru

Categori Bwyd NPS
Gwasanaethau Pobl

Gwasanaethau Pobl 

Darllenwch ein newyddion cryno am y categori i gael gwybod am y newidiadau i'r taliadau pensiwn am Grŵp Ffocws Categori newydd ar gyfer iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cysylltiedig a buddiannau i gyflogeion.

 

Cyswllt: NPSPeopleServicesutilities@llyw.cymru

 

Gwasanaethau Proffesiynol

Darllenwch ein newyddion cryno am y categorïau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y fframwaith ymgynghoriaeth adeiladu (eiddo); y fframwaith gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithwyr; ac i weld yr amserlen ar gyfer digwyddiadau hyfforddi a briffio cyfreithiol.

Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Nod y cylchlythyr hwn yw dwyn ynghyd newyddion gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac is-adran Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru ac unrhyw wybodaeth bwysig arall a ddaw i law sy'n ymwneud â maes caffael.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gcc.llyw.cymru/

llyw.cymru/gwerthcymru

Dilyn ar-lein:

twitter link