Cylchlythyr Arloesi - Rhifyn 27

Ionawr 2019 • Rhifyn 27

English

 
 
 
 
 
 
lextox

Lextox yn derbyn cymorth SMART Productivity Llywodraeth Cymru

Mae cwmni o Gaerdydd sy'n profi cyffuriau, alcohol a DNA wedi gweld cynnydd yn ei allbwn ers rhoi newidiadau allweddol a cynnigwyd gan cynllun SMART Productivity ar waith.

Cliciwch yma.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn elwa ar SBRI

Yn sgil cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, llwyddodd CNC ddod o hyd i ffordd newydd o fynd i'r afael â llygredd yn y cwrs dŵr drwy gystadleuaeth ar ffurf her o'r enw Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI).

Gwyliwch y fideo yma

nrw
MN

Cefnogaeth arloesedd i Mon Naturals

Mae partneriaeth SMART gyda Phrifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru wedi helpu Mon Naturals i lansio eli traddodiadol newydd.

Dysgwch fwy yma.

Success stories

Advances Wales Rhifyn 87

Mae'r cylchgrawn Advances diwethaf yn dwyn sylw at ymchwil newydd a allai helpu i achub rhinoseros gwyn y gogledd rhag difodiant ac at offeryn digidol i nodi datganiadau ffug i'r heddlu.

Hefyd mae'r rhifyn yn dangos ymchwil i'r effaith y mae disgyrchiant gostyngedig yn ei chael ar iechyd dynol.

Gweler y rhifyn diweddaraf yma.

Cover
advances

Lansio'r Rhwydwaith Profi Dŵr (WTN)

Bydd y prosiect yn sefydlu rhwydwaith trawswladol o gyfleusterau profi ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) yng Ngogledd-Orllewin Ewrop eu defnyddio i brofi, arddangos a datblygu cynhyrchion newydd ar gyfer y sector dŵr. Bydd y Rhwydwaith yn cyhoeddi Heriau Arloesi a bydd cyfle i ddefnyddwyr rannu eu problemau dŵr i BBaChau arloesol geisio eu datrys.

Darllenwch fwy yma

Canolfan Newydd i hybu arloesedd iechyd yng Nghymru

Caiff Canolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Nod y Ganolfan yw gwella iechyd a llesiant drwy weithio ar y cyd er lles pawb yng Nghymru. Darllenwch fwy amdani.

Allwch chi ddatrys heriau a arweinir gan ddiwydiant?

Mae Arbenigedd Cymru yn hyrwyddo heriau a chyfleoedd cydweithredol o feysydd diwydiannol ac academaidd ar ei wefan. Caiff cyfleoedd newydd eu hychwanegu'n rheolaidd.

Mae'r heriau presennol yn cynnwys:

  • Datblygu ffyrdd i aildefnyddio, sefydlogi neu adfer metalau o'r broses trin sgil-gynhyrchion o ddŵr glofeydd halogedig.
  • Mentrau sy'n gallu helpu i newid cysyniad defnyddwyr ynghylch y defnydd o ganiau dur i becynnu bwyd.
Innovation zone

Innovate UK - Dadansoddi ar gyfer Arloeswyr - Digwyddiad Briffio Cystadleuaeth Ymchwil a Datblygu

5 Chwefror 2019 - Treforest (Canolfan QED)

Mae Cystadleuaeth 'Dadansoddi ar gyfer Arloeswyr' Innovate UK yn mynd i'r afael a chystadleuaeth a chynhyrchiant. Gallai hyn fod yn fater o gywirdeb manwl wrth fesur (e.e. ar linell gynhyrchu) nad yw wedi'i ddatrys trwy ddefnyddio'r technegau a thechnoleg safonol sydd ar gael. Cofrestrwch yma ar gyfer y digwyddiad briffio i ddysgu mwy.

events
 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: