 |
|
Cymorth arloesi ar gyfer Swallow Yachts
Mae Swallow Yachts o Aberteifi yn dylunio ac adeiladu cychod hwylio o ansawdd uchel ac mae'r cwmni newydd lansio cwch hwylio sy'n hollol wahanol o'r enw'r Coast 250. Cawson nhw buddsoddiad gan raglen SMART R&D Llywodraeth Cymru i ddatblygu cysyniad gwahanol ac arloesol.
Darllenwch fwy yma
|
Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn helpu Qioptiq
Mae Qioptiq Ltd yn arbenigo mewn dylunio a gweithgynhyrchu cynhyrchion ac atebion optegol a ffotoneg. Yn 2016, dechreuon nhw KTP dwy flynedd gydag Ysgol Fusnes Caerdydd i helpu i leihau costau gweithredu a sicrhau lefelau stoc optimaidd ar gyfer contractau gwasanaeth. Mae'r Bartneriaeth wedi galluogi'r cwmni i adeiladu cyfleuster cynhyrchu pwrpasol a chynyddu ei weithlu.
Darganfyddwch sut yr ydym wedi helpu
|
|
 |
 |
|
Advances Wales - Rhifyn 86
Mae'r Advances diweddaraf yn rhoi sylw i waith gwyddonwyr sydd wedi darganfod fod nanoronynnau o ddail te yn gallu rhwystro twf celloedd canser yr ysgyfaint. Mae'r rhifyn hefyd yn cynnwys cydweithio rhwng diwydiant a'r byd academaidd a arweiniodd at ddatblygu system arloesol i ganfod difrod mewn arfwisg filwrol.
Darllenwch y rhifyn diweddaraf o Advances Wales yma
|
Diweddaru Cymru'n Llwyddo
Rydym wrthi'n diweddaru ein cyhoeddiad Cymru'n Llwyddo sy'n tynnu sylw at gyfraniad Cymru ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg a Pheirianneg. Cliciwch yma i weld y cyhoeddiad. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw awgrymiadau o ran pethau newydd i'w cynnwys.
Darllenwch fwy am gyflwyno cynnwys yma
|
|
 |
 |
|
Arbenigedd Cymru - Heriau a chyfleoedd cydweithio
Gall Arbenigedd Cymru eich cynorthwyo i nodi a hyrwyddo cyfleoedd cydweithio a dysgu mwy am y mathau gwahanol o gymorth sydd ar gael i gynorthwyo'ch prosiectau arloesedd. Mae heriau a chyfleoedd cydweithio gan ddiwydiant a'r byd academaidd yn cael eu hyrwyddo ar y wefan, gyda chyfleoedd newydd yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd.
Cliciwch yma i ddarllen am yr heriau
|
Digwyddiad Symudedd Carbon Isel
29 Tachwedd 2018 - Gwesty'r Vale, Hensol, Caerdydd
Mae Llywodraeth Cymru a Fforwm Moduro Cymru, ar y cyd â’r sector moduro, yn trefnu cynhadledd ar Symudedd Deallus Carbon Isel yng Ngwesty'r Vale ar 29 Tachwedd 2018. Bydd y digwyddiad yn cael ei lywio gan Quentin Wilson a bydd yn rhoi trosolwg o sut gall cerbydau trydan a chefnogi polisïau gyda chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu gyfrannu at leihau carbon.
Archebwch eich lle nawr
Cynhadledd Deallusrwydd Artiffisial ym maes y Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd 2018
4 a 5 Rhagfyr - Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT), Boston
Mae cyfle i nifer bach o fusensau Cymreig i gyfarfod ag arweinwyr blaenllaw o ar draws y byd ym maes gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg yn y gynhadledd hon. Cewch gyfle i rwydweithio gyda busnesau byd eang, cyfnewid syniadau a chydweithio.
Gallwch gael mwy o wybodaeth a chyflwyno cais yma
Gŵyl Tech Datblygol
13 Rhagfyr 2018 - Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam
Diwrnod llawn sgyrsiau, sesiynau rhyngweithiol, trafodaethau, arddangosiadau a chipolygon ar sut mae technolegau newydd eisoes yn effeithio ar fusnesau yn y sectorau ynni, peirianneg, gweithgynhyrchu a thechnoleg. Mynnwch gyngor ar sut bydd technoleg newydd yn effeithio arnoch chi a'ch busnes yn y dyfodol.
Cofrestrwch yma
|