Newyddion Caffael gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru

 07 Tachwedd 2018 • Rhifyn 009

 
 

Newyddion

Procurex Cymru

Procurex Cymru 2018

 

Cynhelir Procurex Cymru ar ddydd Iau 8 Tachwedd, yn yr Arena Motorpoint yng Nghaerdydd. A fyddwch chi'n mynychu prif ddigwyddiad caffael Cymru? Cewch wybod beth i'w ddisgwyl yma.

Diogelu eich busnes

Ydych chi am sicrhau bod eich busnes mor ddiogel â phosibl? Ewch i'n gwefan i ddysgu sut i wneud hynny.

 

Y diweddaraf ar adnoddau eGaffael

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau eGaffael a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) mewn perthynas ag adnoddau eGaffael, ewch i'n gwefan.

image 1

Cytundeb Fframwaith Gwasanaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn Gymraeg

Mae'r Fframwaith Gwasanaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn Gymraeg bellach yn fyw. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.

Calendr Digwyddiadau

Edrychwch ar ein calendr am rybudd ymlaen llaw o ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr caffael yng Nghymru. 

Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am ddigwyddiadau’r GCC.

Diweddariadau yn ôl categori


Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau a Chyfleustodau


Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am ein grŵp ffocws categori deunyddiau adeiladu, ein fframwaith halen craig a'n fframwaith dodrefn.

 

Cyswllt: NPSConstructionFM@llyw.cymru
Cyswllt: NPSUtilities@llyw.cymru

Adeiladu

Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes

Darllenwch y newyddion cryno am y categori ar gyfer diweddariad ar ein fframwaith cyflenwi cyfarpar diogelu personol (CDP) llachar, lifreion, gwisg gwaith a gwisg hamdden.

Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru

ict

Digidol, Data a TGCh
 

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cytundeb adnoddau digidol a TGCh ystwyth (ADIRA); cytundeb fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG (ITPS) y GCC; fframwaith system rheoli llyfrgelloedd (LMS) y GCC; a chyflenwyr TGCh sy'n mynd i Procurex.

 

Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru

Fflyd a Thrafnidiaeth

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am ein fframwaith prynu, prydlesu a gwaredu cerbydau; gwirio trwyddedau gyrwyr; tanwyddau hylif; teiars a gwasanaethau cysylltiedig; a fframweithiau cardiau tanwydd.

Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru

Bwyd a Diod

 

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i wybod sut y gallwch ein helpu i lunio'r dyfodol ac i ddarganfod mwy am ein hadnodd dangosydd cynaliadwyedd.

 

Cyswllt: NPSFood@llyw.cymru

Categori Bwyd NPS
Gwasanaethau Pobl

Gwasanaethau Pobl 

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am ymestyn ein fframwaith buddiannau i gyflogeion.

 

Cyswllt: NPSPeopleServicesutilities@llyw.cymru

 

Gwasanaethau Proffesiynol

Darllenwch y newyddion cryno am y category i gael rhagor o wybodaeth am ein fframweithiau ymgynghoriaeth eiddo; gwasanaethau casglu arian parod; a gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithwyr.

Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru

Swydd wag Digidol, Data a TGCh

Mae tîm Masnachol a Chaffael - Digidol, Data a TGCh Llywodraeth Cymru yn chwilio am Arweinydd Masnachol newydd ym maes Rheoli Contractau. Mae'r swydd ar lefel Band Gweithredol 2 gydag ystod cyflog o £48,650 - £58,185. I gael rhagor o fanylion ac i wybod sut y gallwch wneud cais, ewch i'r wefan.

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Nod y cylchlythyr hwn yw dwyn ynghyd newyddion gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac is-adran Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru ac unrhyw wybodaeth bwysig arall a ddaw i law sy'n ymwneud â maes caffael.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gcc.llyw.cymru/

llyw.cymru/gwerthcymru

Dilyn ar-lein:

twitter link