Procurex Cymru 2018
Cynhelir Procurex Cymru ar ddydd Iau 8 Tachwedd, yn yr Arena Motorpoint yng Nghaerdydd. A fyddwch chi'n mynychu prif ddigwyddiad caffael Cymru? Cewch wybod beth i'w ddisgwyl yma.
|
Diogelu eich busnes
Ydych chi am sicrhau bod eich busnes mor ddiogel â phosibl? Ewch i'n gwefan i ddysgu sut i wneud hynny.
Y diweddaraf ar adnoddau eGaffael
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau eGaffael a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) mewn perthynas ag adnoddau eGaffael, ewch i'n gwefan.
|
|
|
Cytundeb Fframwaith Gwasanaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn Gymraeg
Mae'r Fframwaith Gwasanaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn Gymraeg bellach yn fyw. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.
Edrychwch ar ein calendr am rybudd ymlaen llaw o ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr caffael yng Nghymru.
Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am ddigwyddiadau’r GCC.
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Darllenwch y newyddion cryno am y categori ar gyfer diweddariad ar ein fframwaith cyflenwi cyfarpar diogelu personol (CDP) llachar, lifreion, gwisg gwaith a gwisg hamdden.
Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru
Fflyd a Thrafnidiaeth
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am ein fframwaith prynu, prydlesu a gwaredu cerbydau; gwirio trwyddedau gyrwyr; tanwyddau hylif; teiars a gwasanaethau cysylltiedig; a fframweithiau cardiau tanwydd.
Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru
Gwasanaethau Proffesiynol
Darllenwch y newyddion cryno am y category i gael rhagor o wybodaeth am ein fframweithiau ymgynghoriaeth eiddo; gwasanaethau casglu arian parod; a gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithwyr.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru
Swydd wag Digidol, Data a TGCh
Mae tîm Masnachol a Chaffael - Digidol, Data a TGCh Llywodraeth Cymru yn chwilio am Arweinydd Masnachol newydd ym maes Rheoli Contractau. Mae'r swydd ar lefel Band Gweithredol 2 gydag ystod cyflog o £48,650 - £58,185. I gael rhagor o fanylion ac i wybod sut y gallwch wneud cais, ewch i'r wefan.
|