 |
|
Menter
gymdeithasol yn buddsoddi er mwyn tyfu yn y dyfodol
Mae'r cwmni
creu fflagiau Red Dragon Manufacturing yn barod i dyfu yn y dyfodol yn sgil
cymorth gan raglen Cynhyrchiant SMART Llywodraeth Cymru. Mae'r cymorth yn
cyllido tri diwrnod o wasanaeth ymgynghori gan arbenigwr arloesi allanol a fydd
yn pennu gwelliannau posibl i gynhyrchiant fel peiriannau, technoleg neu
feddalwedd newydd. Gall busnesau hefyd fanteisio ar bum diwrnod ychwanegol o
wasanaeth ymgynghori er mwyn rhoi'r newidiadau ar waith.
Rhagor o
fanylion
|
Cronfeydd
SMARTCymru yn cyllido peiriant pecynnu newydd
Mae'r RM Group ar y blaen ym maes uwch dechnoleg yn y Canolbarth ac
mae'n arbenigo mewn awtomeiddio wedi'i deilwra o fewn y diwydiant pecynnu.
Maent bellach yn arwain o fewn eu marchnad yn sgil cymorth gan y tîm arloesi.
Gwyliwch sut y mae'r cymorth hwn wedi
helpu ei fusnes i ehangu.
|
|
 |
Rhifyn
85 Advances Wales
Mae'r rhifyn diweddaraf yn tynnu sylw at waith arloesi diweddar ym maes
bwyd er mwyn gwella iechyd plant a hefyd at dechnolegau newydd sy'n llesol i'r
amgylchedd. Ceir ynddo hefyd wybodaeth am y modd y mae pobl a robotiaid yn
cydweithio yng Nghymru.
Gallwch weld y rhifyn diweddaraf o Advances Wales yma
|
|
 |
Gwobrau Dewi Sant 2019
Mae'n amser i enwebu pobl ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2019. Dyma wobrau
sy'n cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau eithriadol pobl Cymru. Caiff naw o
wobrau eu rhoi, ac mae un ohonynt ar gyfer maes Arloesi, Gwyddoniaeth a
Thechnoleg. IQE a
enillodd y wobr hon y llynedd, sef cwmni sy'n arwain ar draws y byd ym maes
dylunio a gweithgynhyrchu uwch haenellau led-ddargludo.
Cewch wybod mwy am Wobrau Dewi
Sant 2019 a sut i enwebu yma
Helpwch Lywodraeth Cymru i
helpu eich busnes
Mae Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau dylanwadol Cynulliad Cymru yn gofyn am eich barn ar sut i sianelu
ei gymorth ar gyfer arloesi yn y dyfodol. A ddylai’r cymorth anelu at ddatrys yr heriau
penodol a gwirioneddol y mae Cymru’n eu hwynebu, neu a ddylai anelu at gyflawni
gwaith ymchwil academaidd mwy hirdymor a blaengar? Mynegwch eich barn.. gallai
effeithio ar eich busnes am flynyddoedd lawer. Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 12 Hydref 2018. Cliciwch yma
IDP15: Cystadleuaeth Ymchwil a Datblygu ar gyfer Cerbydau Carbon Isel a
Chyfleoedd Faraday - 25 Medi - Marriott Caerdydd
Mae Innovate UK, KTN a Sefydliad Faraday yn cydweithio â Llywodraeth
Cymru er mwyn dod â'r sesiynau briffio a'r gweithdai hyn i Gymru.
- Cystadleuaeth IDP15: Cerbydau Carbon Isel sy'n sbarduno ymchwil a arweinir gan y diwydiant i dechnolegau sy'n cyflymu'r broses o drosglwyddo i gerbydau heb allyriadau.
- Cystadleuaeth Her Batri Faraday
- Bydd gweithdy Sefydliad Faraday yn gwahodd gwahanol safbwyntiau ynghylch blaenoriaethau'r DU ar gyfer Ymchwil a Seilwaith
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru yma
Gwobrau Arloesedd Myfyrwyr 2018
1 a 2 Hydref - Clwb Criced Morgannwg, Caerdydd
22 a 23 Hydref - Canolfan Pontio, Bangor
Mae'r
Gwobrau Arloesi yn gystadleuaeth uchel ei bri sy'n cynnig cyfle i bobl ifanc
arddangos eu gwaith prosiect arloesol mewn Dylunio a Thechnoleg ar gyfer y
cymhwyster TGAU a Safon Uwch. Mae disgwyl i dros 2000 o fyfyrwyr, athrawon
a busnesau fynychu'r digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a
Bangor fis nesaf.
Darllenwch
sut mae CBAC a Llywodraeth Cymru yn cydweithio er mwyn annog pobl ifanc yng
Nghymru i arloesi ym maes technoleg.
Menywod sy'n Arloesi: Adeiladu Llwyddiant 5 Tachwedd - Canolfan Mileniwm Cymru
Fel rhan o ail raglen Menywod sy'n Arloesi
Innovate UK bydd KTN yn cynnal digwyddiad Adeiladu Llwyddiant. Bydd gwahanol weithdai rhyngweithiol ac ymarferol a fydd yn cynnwys
dosbarth meistr ar ysgrifennu ceisiadau am grantiau a sesiwn parodrwydd
buddsoddwyr, a fydd yn eich helpu i sicrhau bod eich busnes yn cyrraedd y lefel
nesaf. Caiff menywod sydd wedi sefydlu busnesau a menywod ym maes arloesi ymhob
diwydiant eu hannog i fynychu'r digwyddiad, gan fanteisio ar y cyfle i
rwydweithio â menywod sy'n rhannu'r un uchelgeisiau, dysgu gan arbenigwyr a gwrando
ar entrepreneuriaid benywaidd llwyddiannus.
Archebwch eich lle nawr
|