Gwobrau GO
- galwad olaf am geisiadau
Mae'r dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno ceisiadau i'r Gwobrau GO yn agosáu. Darllenwch fwy i gael gwybod
sut i gyflwyno eich cais.
|
|
|
|
|
Diweddaru'r
Adolygiad Caffael
Mae
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cwblhau'r Adolygiad o'r Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru ac wedi cyhoeddi gwaith newydd i ddatblygu
caffael cyhoeddus.
Mae'r datganiad ysgrifenedig ar gael yma
|
Procurex Cymru 2018
Sicrhewch eich bod yn cofrestru ar gyfer digwyddiad pwysicaf y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.
Dywedwch wrthym yr hyn y mae angen i chi ei wybod am Brexit
Rydym am i chi ddweud wrthym pa gwestiynau yr hoffech iddynt gael eu hateb yn Procurex, darllenwch fwy.
Y wybodaeth ddiweddaraf am Adnoddau eGaffael
I gael y newyddion diweddaraf pwysig am adnoddau eGaffael, darllenwch
fwy yma
Hysbysiad
o Ddyfarniad - Fframwaith Ymgynghoriaeth TAW a Gwasanaethau Ariannol
Mae'r Fframwaith
Ymgynghoriaeth TAW a Gwasanaethau Ariannol bellach yn fyw. I gael rhagor o
wybodaeth, ewch i'n gwefan
Sector Cyhoeddus Cymru a’r Her Plastigion
A oes gennych
ddiddordeb mewn defnyddio a gwaredu plastig ym mhob agwedd ar gymdeithas
fodern? A hoffech wybod sut mae'r sector cyhoeddus yn chwarae rôl allweddol
wrth ymdrin â'r materion a nodi heriau ac atebion i'r problemau mewn perthynas
â chaffael a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
Os felly, mae
WRAP Cymru yn cynnal gweithdy hanner diwrnod am ddim, a gynlluniwyd ar gyfer
unrhyw un sy'n gyfrifol am benderfyniadau caffael yn y sector cyhoeddus yng
Nghymru. darllenwch fwy yma
Porth TGCh
Mae Dun & Bradstreet
newydd lansio Porth Dysgu Cwsmeriaid newydd. Darllenwch fwy i fod ymhlith y
cyntaf i roi cynnig ar y porth newydd hwn
Procurex Cymru - cywiriad i'r cylchlythyr blaenorol.
Nodwyd y dyddiad
anghywir yn y cylchlythyr blaenorol; gwnewch yn siŵr mai 8 Tachwedd sydd
gennych yn eich dyddiaduron! Ewch i'n gwefan i ddarllen mwy am Procurex 2018
Edrychwch
ar ein calendr am rybudd ymlaen llaw o
ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr caffael yng
Nghymru.
Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a
gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am
ddigwyddiadau’r GCC.
Gwasanaethau
Corfforaethol a Chymorth Busnes
Darllenwch y newyddion
cryno am y categori: i roi adborth ar y fframwaith Cyflenwi Cyfarpar
Diogelu Personol (CDP) Llachar, Lifreion, Gwisg Gwaith a Gwisg Hamdden; i
gymryd rhan yn y gwaith o adolygu ein fframweithiau Cyfryngau Integredig a
Chysylltiadau Cyhoeddus; ac i gael gwybod sut i fynd i Grŵp Fforwm Categori mis
Hydref ar gyfer Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo.
Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru
|
|
Digidol, Data a TGCh
Darllenwch y newyddion cryno am y
categorïau i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol: negeseuon atgoffa a'r wybodaeth ddiweddaraf
am y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data mewn perthynas ag adnoddau eGaffael;
Fframwaith Gwasanaethau Sicrhau Gwybodaeth (IAS) y GCC; Fframwaith Gwasanaethau
Ceblau Strwythuredig y GCC; a Chytundeb Adnoddau Digidol a TGCh Ystwyth
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru
|
Fflyd a Thrafnidiaeth
Darllenwch y newyddion
cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am y Grŵp Fforwm Categori
cyntaf ar gyfer Prynu a gwaredu cerbydau; i gael y newyddion diweddaraf am y
cyfarfod Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan; i gael Gwybodaeth am y
newidiadau mewn prisiau ar gyfer Llogi Cerbydau II – Days Rental; i gael gwybod
y dyddiadau cau ar gyfer Gwirio Trwyddedau Gyrwyr; i gael cofnodion y cyfarfod
Cardiau Tanwydd a sut i gymryd rhan yn y gwaith cwmpasu ar gyfer ail-dendro'r
fframwaith Tanwyddau Hylif.
Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru
Bwyd a Diod
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y
newyddion diweddaraf am Eitemau tafladwy ym maes
arlwyo; i rannu eich barn am y fframwaith llenwadau brechdanau, brechdanau
wedi'u paratoi a phrydau ar blât wedi'u rhewi; y newyddion diweddaraf am sut
rydym yn paratoi ar gyfer Brexit; ein tendr alcohol newydd a chyflwyniad i'n
tîm newydd.
Cyswllt: NPSFood@llyw.cymru
|
|
|
Gwasanaethau
Proffesiynol
Darllenwch y newyddion cryno am y
categori i gael manylion am y fframwaith ymgynghoriaeth TAW a gwasanaethau ariannol ac
i gael gwybod am y gwahoddiad i dendro ar gyfer ymgynghoriaeth eiddo sydd i
ddod.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru
Y newyddion diweddaraf i randdeiliaid
Mae ein rheolwr ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi mynychu nifer o
gyfarfodydd gyda'n cwsmeriaid. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy.
|