Newyddion Caffael gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru

07 Medi 2018 • Rhifyn 007

 
 

Newyddion

Gwobrau GO - galwad olaf am geisiadau

Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i'r Gwobrau GO yn agosáu. Darllenwch fwy i gael gwybod sut i gyflwyno eich cais.

go awards
MD

Diweddaru'r Adolygiad Caffael

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cwblhau'r Adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru ac wedi cyhoeddi gwaith newydd i ddatblygu caffael cyhoeddus.


Mae'r datganiad ysgrifenedig ar gael yma

pic

Procurex Cymru 2018

Sicrhewch eich bod yn cofrestru ar gyfer digwyddiad pwysicaf y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.

Dywedwch wrthym yr hyn y mae angen i chi ei wybod am Brexit

Rydym am i chi ddweud wrthym pa gwestiynau yr hoffech iddynt gael eu hateb yn Procurex, darllenwch fwy.

Pobl yn trafod

Y wybodaeth ddiweddaraf am Adnoddau eGaffael

I gael y newyddion diweddaraf pwysig am adnoddau eGaffael, darllenwch fwy yma

Hysbysiad o Ddyfarniad - Fframwaith Ymgynghoriaeth TAW a Gwasanaethau Ariannol

Mae'r Fframwaith Ymgynghoriaeth TAW a Gwasanaethau Ariannol bellach yn fyw. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan

wrap

Sector Cyhoeddus Cymru a’r Her Plastigion

A oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio a gwaredu plastig ym mhob agwedd ar gymdeithas fodern? A hoffech wybod sut mae'r sector cyhoeddus yn chwarae rôl allweddol wrth ymdrin â'r materion a nodi heriau ac atebion i'r problemau mewn perthynas â chaffael a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?

Os felly, mae WRAP Cymru yn cynnal gweithdy hanner diwrnod am ddim, a gynlluniwyd ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol am benderfyniadau caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. darllenwch fwy yma

Porth TGCh

Mae Dun & Bradstreet newydd lansio Porth Dysgu Cwsmeriaid newydd. Darllenwch fwy i fod ymhlith y cyntaf i roi cynnig ar y porth newydd hwn

Procurex Cymru - cywiriad i'r cylchlythyr blaenorol.

Nodwyd y dyddiad anghywir yn y cylchlythyr blaenorol; gwnewch yn siŵr mai 8 Tachwedd sydd gennych yn eich dyddiaduron! Ewch i'n gwefan i ddarllen mwy am Procurex 2018

Calendr Digwyddiadau

Edrychwch ar ein calendr am rybudd ymlaen llaw o ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr caffael yng Nghymru. 

Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am ddigwyddiadau’r GCC.

Diweddariadau yn ôl categori


Adeiladu, Rheoli Cyfleusterau a Chyfleustodau

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael gwybod: sut y gallwch helpu i ddatblygu fframwaith deunyddiau adeiladu newydd; am estyniad i'r fframwaith Trydanol, Gwresogi a Phlymio; ac am estyniad i'r fframwaith Deunyddiau Glanhau a Phorthorol

Cyswllt: NPSConstructionFM@llyw.cymru
Cyswllt: NPSUtilities@llyw.cymru

Adeiladu

Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes

Darllenwch y newyddion cryno am y categori: i roi adborth ar y fframwaith Cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol (CDP) Llachar, Lifreion, Gwisg Gwaith a Gwisg Hamdden; i gymryd rhan yn y gwaith o adolygu ein fframweithiau Cyfryngau Integredig a Chysylltiadau Cyhoeddus; ac i gael gwybod sut i fynd i Grŵp Fforwm Categori mis Hydref ar gyfer Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo.

Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru

ict

Digidol, Data a TGCh

Darllenwch y newyddion cryno am y categorïau i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol: negeseuon atgoffa a'r wybodaeth ddiweddaraf am y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data mewn perthynas ag adnoddau eGaffael; Fframwaith Gwasanaethau Sicrhau Gwybodaeth (IAS) y GCC; Fframwaith Gwasanaethau Ceblau Strwythuredig y GCC; a Chytundeb Adnoddau Digidol a TGCh Ystwyth


Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru

Fflyd a Thrafnidiaeth

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael rhagor o wybodaeth am y Grŵp Fforwm Categori cyntaf ar gyfer Prynu a gwaredu cerbydau; i gael y newyddion diweddaraf am y cyfarfod Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan; i gael Gwybodaeth am y newidiadau mewn prisiau ar gyfer Llogi Cerbydau II – Days Rental; i gael gwybod y dyddiadau cau ar gyfer Gwirio Trwyddedau Gyrwyr; i gael cofnodion y cyfarfod Cardiau Tanwydd a sut i gymryd rhan yn y gwaith cwmpasu ar gyfer ail-dendro'r fframwaith Tanwyddau Hylif.

Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru

Bwyd a Diod


Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y newyddion diweddaraf am Eitemau tafladwy ym maes arlwyo; i rannu eich barn am y fframwaith llenwadau brechdanau, brechdanau wedi'u paratoi a phrydau ar blât wedi'u rhewi; y newyddion diweddaraf am sut rydym yn paratoi ar gyfer Brexit; ein tendr alcohol newydd a chyflwyniad i'n tîm newydd.

 

Cyswllt: NPSFood@llyw.cymru

Categori Bwyd NPS
Gwasanaethau Pobl

Gwasanaethau Pobl 

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i wybod sut y gallwch gymryd rhan yn y Grŵp Fforwm Categori buddiannau i gyflogeion; i gael gwybod pryd y byddwn yn cyflwyno manylebau diwygiedig ar gyfer iechyd galwedigaethol; ac i gael y newyddion diweddaraf am y fframwaith technolegau cynorthwyol a gwasanaethau cysylltiedig.

 

Cyswllt: NPSPeopleServicesutilities@llyw.cymru

Gwasanaethau Proffesiynol

 

Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael manylion am y fframwaith ymgynghoriaeth TAW a gwasanaethau ariannol ac i gael gwybod am y gwahoddiad i dendro ar gyfer ymgynghoriaeth eiddo sydd i ddod.

Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru

Y newyddion diweddaraf i randdeiliaid

Mae ein rheolwr ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi mynychu nifer o gyfarfodydd gyda'n cwsmeriaid. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy.

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

Nod y cylchlythyr hwn yw dwyn ynghyd newyddion gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac is-adran Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru ac unrhyw wybodaeth bwysig arall a ddaw i law sy'n ymwneud â maes caffael.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gcc.llyw.cymru/

llyw.cymru/gwerthcymru

Dilyn ar-lein:

twitter link