Newyddion Arloesi - Rhifyn 24

Mehefin 2018

 

English

 
 
 
 
 
 
dacey

Ehangu cwmni orthotig o Gymru yn dilyn cyllid Arloesi

Mae'r cwmni o Dde Cymru, Dacey Limited wedi cael safle newydd, wedi treblu ei allu i weithgynhyrchu ac wedi creu 10 o swyddi newydd wedi iddynt derbyn cymorth gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru.

Darllenwch ragor am y llwyddiannau a ddaw yn sgil cyllid arloesi

Ydych chi am weld cynhyrchiant gwell drwy well prosesau a chynnyrch?

Mae Cynhyrchiant SMART yn cynnig cymorth ymgynghori am ddim i fusnesau cymwys ledled Cymru sy'n ceisio bod yn fwy cystadleuol. 

Mae’r Arbenigwyr rydym wedi’u penodi yn cynnig cymorth ymarferol â chynllunio a gweithredu cynhyrchiant a gwelliannau o safbwynt cynllunio ar gyfer eich busnes. 

Er mwyn trafod eich anghenion a chyfleoedd  busnes a pha mor addas yw Cynhyrchiant SMART cysylltwch â Busnes Cymru ar 03000 603000 neu ewch i

office
advances

Advances Wales – Rhifyn 84

Yn rhifyn diweddaraf Advance Wales cewch ddarllen am y gwaith arloesol a wnaed ym maes bwyd yn ddiweddar i wella iechyd plant, ac am y technolegau newydd sydd o fudd i’r amgylchedd. Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys erthyglau am y dechnoleg ddigidol yng Nghymru sy’n cael ei defnyddio i gynllunio taith i’r blaned Mawrth.

Cliciwch yma i weld rhifyn diweddaraf Advances Wales.

button

Llwyddiant Arloesi Agored

Mae tri sefydliad wedi derbyn cyllid SMARTCymru i helpu iddynt ddatblygu a mabwysiadu Arloesi Agored. Bydd cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu Nidec Industrial Automation, United Purpose a Costain i ddatblygu eu dulliau o gydweithio yng Nghymru, gan gynnig cyfleoedd i randdeiliaid eraill gydweithio â hwy ar brosiectau arloesi yn y dyfodol.

Mae cyllid Ymarferoldeb Arloesi Agored ar gyfer busnesau sydd eisiau cynnig cyfleoedd niferus a pharhaus ar gyfer cydweithio. Mae hyd at £30,000 ar gael i gefnogi 50% o'r costau cymwys.

Am ragor o wybodaeth am y prosiectau a'r cymorth ar gyfer gweithgareddau arloesi agored glicio yma.

button 2

Gŵyl Arloesedd Cymru

16 - 30 Mehefin 2018

Bydd yr ŵyl eleni yn arddangos arloesi yng Nghymru drwy nifer o ddigwyddiadau gan gwmnïau a'r byd academaidd. Mae'n gyfle i arloeswyr arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau wrth rwydweithio gydag arbenigwyr y diwydiant.

Os oes gennych ddiddordeb bod yn rhan o unrhyw un o'r digwyddiadau hyn ewch i'r wefan yma.

Digwyddiad Cerbydau Cysylltiedig ac Awtonomaidd

27 Mehefin 2018, Caerdydd

Diddordeb mewn Cerbydau Awtonomaidd a Chysylltiedig a'r cyfleoedd trawsnewidiol posibl a ddaw yn eu sgil? Bydd y digwyddiad briffio ymchwil a datblygu hwn yn edrych ar rai o'r meysydd eraill nad ydym wedi edrych arnynt, yn rhoi cyfleoedd ar gyfer cyflwyno eich syniadau, cyfarfodydd unigol a chyfle i drafod eich prosiectau ymchwil a datblygu gyda chynrychiolwyr Innovate UK, KTN a'r Ganolfan Cerbydau Cysylltiedig ac Awtonomaidd.

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad nawr

button 3
 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: