|
|
Newyddion pwysig – tanysgrifio i Dysg!
Dros yr ychydig wythnosau nesaf, dylech dderbyn e-bost bydd yn gofyn i chi os ydych am barhau i dderbyn cylchlythyr addysg yng Nghymru, Dysg.
Fel rhan o’r cyfreithiau preifatrwydd newydd sy’n dod i rym ar 25 Mai 2018, bydd angen i chi gadarnhau eich tanysgrifiad.
|
|
|
Er mwyn parhau i wella'r llwyfan, ac o ganlyniad
i'r adborth parhaus gan athrawon, byddwn yn gwneud rhai newidiadau mawr dros y
misoedd nesaf.
|
Bydd yr adnodd cymorth diagnostig ar gyfer y
profion darllen a rhifedd cenedlaethol ar gael o’r 10 Mai. Bydd yr
adnodd hwn yn helpu athrawon i ddadansoddi canlyniadau profion rhifedd eu
disgyblion ac yn mapio’u perfformiad ar sail y Fframwaith Llythrennedd a
Rhifedd Cenedlaethol.
Casglu
Data Profion Cenedlaethol Cymru
Y dyddiad terfynol ar gyfer llwytho data ydi
6 Mehefin neu’r dyddiad a ddynodwyd gan eich Awdurdod
Lleol/Consortiwm.
Pan fydd prawf olaf y cylch profion wedi’i
weinyddu, rhaid i’r pennaeth cadarnhau bod pob canllaw wedi ei dilyn. Rhaid
llofnodi datganiad ar gyfer 2018 a’u cyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 15
Mehefin.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Plant
yng Nghymru i gasglu barn plant a phobl ifanc ar Brexit. Os ydych yn gweithio
gyda phobl ifanc dros 11 oed a ydych yn credu byddai'n hoffi trafod eu
safbwyntiau ar Brexit a mwynhau bod yn rhan o'r gweithdy, cysylltwch â ni.
Mae'r ddogfen hon yn rhoi cyngor i'ch helpu i ddeall sut i wneud y defnydd gorau o'ch buddsoddiad digidol, gan gynnwys band eang, seilwaith y rhwydwaith ardal leol a dyfeisiau cyfrifiadura, er mwyn hwyluso dysgu.
Er mwyn rhoi gwybod i Rwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Mathemateg am waith arweinyddiaeth fathemateg, rydym yn gofyn i bob arweinydd mathemateg lenwi holiadur byr. Mae’r holiadur ar gael tan 25 Mai 2018.
Gŵyl y Gelli yn ffrydio rhaglen
ysgolion
Mae Gŵyl y Gelli yn ffrydio rhaglen ysgolion ar gyfer CA2 a 3 ddydd Iau 24 Mai
a CA4 ar ddydd Gwener 25 Mai. Mae yna 12 digwyddiad i ddewis o bob dydd.
#EinCymunedEinCyngor
Mae dros 700
o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Maen nhw'n gyfrifol am nifer o bethau
lleol fel caeau chwarae, tai bach cyhoeddus a chodi goleuadau Nadolig.
Rydym yn awyddus i glywed barn pobl ifanc Cymru! Cyflwynwch
eich sylwadau drwy lenwi’r arolwg byr
hwn (dolen allanol)
Ar gyfer gweithwyr
proffesiynol ym maes busnes ysgol a phenaethiaid yng Nghymru - defnyddiwch y
cod CM7m6Opn i archebu eich lle AM DDIM yn Llandudno.
Y dyddiad terfynol i sicrhau bod israddedigion amser llawn yn cael eu harian mewn da bryd cyn dechrau ar eu cwrs yw 11 Mai 2018. Os bydd y cais yn cael ei gyflwyno’n hwyr mae’n bosib y bydd yr arian yn cyrraedd yn hwyr hefyd.
Mae helpu rhieni i fod yn economaidd weithgar yn rhan allweddol o Gynllun Cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru.
Bydd angen symud data o Hwb+ erbyn dydd Gwener 25 Mai 2018. Cysylltwch â hwb@gov.wales os oes angen cymorth arnoch chi.
Pecynnau Rhannu Data
Rydym wedi llunio adnodd newydd ar dempledi a Chytundebau Rhannu Data am geisio Cydsyniad a Defnydd Derbyniol o Hwb. Mae’n bwysig iawn bod ysgolion yn cytuno ar y ffurflen ar-lein cyn gosod offeryn newydd y Cleient Darparu ar gyfer cydamseru data (gweler yr erthygl newyddion am AWE IdP). Ni fydd ysgolion sydd heb lofnodi'r cytundeb newydd yn gallu cydamseru data a chreu neu gynnal cyfrifon defnyddwyr.
Criw BBC Bitesize Meddwl ar waith yn helpu gyda chyngor ar sut i oroesi
arholidau.
Cynadleddau UCAS ar gyfer athrawon a chynghorwyr yng Nghymru
Mae’n bleser gan Cymwysterau Cymru noddi dwy gynhadledd ar gyfer athrawon a chynghorwyr yng Nghymru, wedi’u trefnu gan UCAS.
Cynhelir y digwyddiadau, sy’n rhad ac am ddim, yng Nghaerdydd (17 Mai), a'u bwriad yw helpu i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt feddwl am eu dewisiadau a’u ceisiadau, a byddant yn rhoi sylw i faterion allweddol sy’n effeithio ar bobl sy’n symund ymlaen i addysg uwch.
Cyfle i ddweud eich dweud am arholiadau’r haf!
Mae Cymwysterau Cymru’n gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn arholiadau’r haf (gan gynnwys dysgwyr, athrawon a darlithwyr) i lenwi holiadur ar-lein byr, i rannu eu barn am arholiadau TGAU, Safon Uwch a Safon UG eleni. Dylid cymryd pum munud yn unig i’w lenwi, a bydd ar gael tan 6 Gorffennaf. I lenwi’r holiadur, cliciwch yma.
Mae Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru ar y cyd â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn cynnal dwy seiwn arall o Hafanau Diogel.
Cofrestru'n cau 1 Awst 2018
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gwahodd ysgolion uwchradd yng Nghymru i wneud cais i gael hwyluswyr gwirfoddol ddod i’r ysgol i addysgu achub bywyd drwy adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR).
Beth fyddai eich disgyblion yn wneud gyda pump punt mewn dim ond 4 wythnos?. Mae’r her Pump Punt yn fenter ledled y DU ar gyfer pob plentyn ysgol 5-11 oed. Yng Nghymru, mae’r her yn rhedeg 4-29 Mehefin.
23 Mai 2018 : 3pm – 5.30pm
Mae’r digwyddiad yma wedi’i anelu at athrawon ac addysgwyr a bydd yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu mwy y broses gynhyrchu a’r sgiliau sydd angen arnyn nhw fel cyflogwyr.
Gwelir bod hawliau yn rhan annatod o fywyd yr ysgol, yn creu lle diogel ac ysbrydoledig i weithio. Maent yn cael eu parchu yno, caiff eu talentau eu magu a'i hyder yn ogystal er mwyn llwyddo.
Mae myfyrwyr Cymraeg, 14-17 oed, yn cael eu hannog i fanteisio ar y cyfle i wella eu sgiliau seibr drwy fynychu cwrs preswyl 5 dydd cyntaf seiber a gynhelir dros yr haf ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
|