|
|
Arbed mwy na
thraean ar ddarnau sbâr cerbydau
Dengys astudiaeth achos newydd gan y GCC sut y llwyddodd Cyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot i gyflawni arbedion o 35 y cant ar ddarnau sbâr
cerbydau drwy ddefnyddio fframwaith gwasanaeth a reolir newydd. Darllenwch
fwy
|
Caiff rheolwyr fflyd fargen dda, gan wneud arbedion a gwella effeithlonrwydd eu fflyd drwy ddefnyddio ein fframwaith telemateg newydd. Darllenwch fwy
Procurex Cymru – cofrestrwch nawr
Mae'r gwaith cynllunio wedi hen gychwyn ar gyfer Procurex Cymru 2018, sef y digwyddiad caffael mwyaf yng Nghymru lle y daw prynwyr a chyflenwyr at ei gilydd i rwydweithio a dysgu. Darllenwch fwy
Gwobrau GO Cymru yn derbyn ceisiadau
Gan ddathlu cyflawniadau timau caffael yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru, mae ceisiadau am y gwobrau bellach yn cael eu derbyn. Darllenwch fwy
|
|
|
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Adnoddau eGaffael
Rydym yn gweithio gyda'n cwsmeriaid i gaffael adnoddau eGaffael newydd. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, eFasnachuiYsgolion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ein grwpiau defnyddwyr eDendroCymru ac eFasnachuCymru darllenwch fwy.
|
Edrychwch
ar ein calendr am rybudd ymlaen llaw o
ddigwyddiadau'r GCC, Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr caffael yng
Nghymru.
Cofiwch gadw golwg ar dudalennau’r GCC ar Twitter a LinkedIn, a
gwefan GwerthwchiGymru i gael cyhoeddiadau am
ddigwyddiadau’r GCC.
Gwasanaethau
Corfforaethol a Chymorth Busnes
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn prisiau am
gynhyrchion papur yn y fframwaith deunydd ysgrifennu a phapur copïo.
Cyswllt: NPSCorporateServices@llyw.cymru
|
|
Digidol, Data a TGCh
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am opsiynau o ran ein gwasanaethau sicrhau gwybodaeth a'n fframweithiau dyfeisiau amlswyddogaeth pan ddônt i ben; am werthuso'r Cytundeb Adnoddau Digidol a TGCh Ystwyth (ADIRA); a'r newyddion diweddaraf ynglŷn â chydymffurfiaeth fframweithiau Digidol, Data a TGCh â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru
|
Fflyd a Thrafnidiaeth
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr estyniad i'r fframwaith tanwydd hylif a'r cyfleoedd i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Grwp Fforwm Categori sydd i'w cynnal; sut i gymryd rhan mewn mini-gystadlaethau o dan y fframwaith llogi cerbydau II; y fargen dda a gynigir gan ein fframwaith telemateg newydd; arfarniad o opsiynau ar gyfer ein fframwaith gwirio trwyddedau gyrwyr; yr adolygiad o brisiau teiars; y cytundeb yn ôl galw presennol ar gyfer cardiau tanwydd; cyfleoedd i gymryd rhan yng nghyfarfodydd Grwpiau Fforwm Categori sydd i'w cynnal ar brydlesu cerbydau (llogi ar gontract), cytundebau prynu a gwaredu cerbydau; a chael gwybod sut y gallwch wneud arbedion ar y fframwaith darnau sbâr cerbydau.
Cyswllt: NPSFleet@llyw.cymru
Bwyd a Diod
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch bwyd; sut i gymryd rhan mewn fframwaith eitemau tafladwy ym maes arlwyo newydd; y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran y cytundeb cyflenwi a dosbarthu diodydd alcoholig; cyfleoedd o ran mini-gystadlaethau; a'r gwaith o ddatblygu mesurau i gefnogi llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Cyswllt: NPSFood@llyw.cymru
|
|
|
|
|
Gwasanaethau Pobl
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr estyniad i'r fframweithiau bagiau gwaredu gwastraff a bagiau gwastraff clinigol; a gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn y fframwaith gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi newydd; a chanlyniadau o’r gwaith sy'n cael ei wneud gyda chwsmeriaid i
ddatblygu fframwaith gwasanaethau iechyd galwedigaethol a gwasanaethau
cysylltiedig newydd.
Cyswllt: NPSPeopleServicesutilities@llyw.cymru
|
Gwasanaethau
Proffesiynol
Darllenwch y newyddion cryno am y categori i gael manylion y fframwaith TAW a gwasanaethau ariannol; amserlenni
newydd ar gyfer cyfleoedd hyfforddi ym maes gwasanaethau cyfreithiol; manylion
y fframwaith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn Gymraeg; manylion am y ffordd y caiff cynllun tlodi tanwydd Cymru
gyfan seiliedig ar ardaloedd (Arbed 3) ei reoli a'i gyflawni; a gwybodaeth am y
broses o adnewyddu'r fframwaith ymgynghoriaeth adeiladu eiddo.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@llyw.cymru
|