|
|
Mae datganoli pwerau i bennu cyflog ac amodau athrawon ysgol yn gyfle i ni godi statws y proffesiwn yng Nghymru, yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.
|
|
|
Mae ein cymhelliant hyfforddiant addysgu yn gallu
gwneud gwahaniaeth mawr i’ch costau bob dydd, sy’n golygu y gallwch chi
ganolbwyntio ar wireddu eich nod #DarganfodAddysgu heddiw
|
Gwirfoddolwch eich Ysgol ar gyfer Treialu’r
Asesiadau Personol Ar-lein
Rydyn ni’n chwilio am ysgolion i
gymryd rhan mewn treialon addasol o’r asesiadau personol newydd ym maes rhifedd
gweithdrefnol, a fydd yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion o’r flwyddyn academaidd
nesaf ymlaen. Os hoffai eich ysgol chi wirfoddoli, e-bostiwch trials@nationaltests.cymru
Unwaith eto yn 2018 bydd Gwasanaeth Cefnogi Marcio ar gyfer Profion Rhifedd Rhesymu Blynyddoedd 7 i 9.
Mae ysgolion ar fin derbyn £14 miliwn ar gyfer mân
atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan
yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams
Ymgynghoriad yn cau 2 Ebrill 2018
Er mwyn cael eich adborth
chi ar yr hyn sy’n digwydd o ran y cynnig deddfwriaethol, mae Llywodraeth Cymru
wedi trefnu cyfres o weithdai rhanbarthol.
Mae Llywodraeth Cymru a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi cynhyrchu pedwar canllaw byr i derminoleg briodol, dyletswyddau cydraddoldeb, ac adnabod ac adrodd am ddigwyddiad hiliol.
Peidiwch ag anghofio cyflwyno eich
cais am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018 erbyn 23 Mawrth 2018 am 17.00
O
hyn hyd at ddiwedd Mai, bydd Beaufort yn cysylltu â nifer o ysgolion cynradd ac
uwchradd, Canolfannau Addysg Gychwynnol Athrawon, prifysgolion a rhanddeiliaid
yng Nghymru i ofyn am eu mewnbwn i’r prosiect. Os bydd Beaufort yn cysylltu â
chi, rydym wir yn gobeithio y byddwch yn gallu cymryd y cyfle i gymryd rhan yn
yr astudiaeth bwysig hon.
Mae cyfnod ymgeisio
2018 wedi dechrau
Mae’r Gwobrau’n gyfle i unigolion a
sefydliadau gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u
llwyddiant yn rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd a
Brentisiaethau. Rhowch eich cais i mewn nawr.
Mae’r canllawiau hyn gan staff
Ysgol y Model, Caerfyrddin, yn rhoi awgrymiadau ymarferol sydd wedi’u seilio ar
eu profiadau nhw.
Mae’r canllaw hwn yn
pwysleisio peryglon gor-rannu cofnodion digidol eich plant. Mae llawer o rieni
a gofalwyr yn rhannu lluniau o’u plant ar-lein. Ond rhaid cofio y gall yr hyn y
byddwch yn ei rannu effeithio ar eich plentyn, gyda materion fel preifatrwydd.
Mae’r erthygl hon yn archwilio hyn ac yn cynnig syniadau ymarferol a chefnogol.
Os ydych chi'n defnyddio'r
llwyfan dysgu Hwb+ ar gyfer gweithgareddau heblaw am reoli defnyddwyr (enwau
defnyddwyr a chyfrineiriau), rhaid symud neu archifo eich data i offer arall o
fewn Hwb erbyn dydd Gwener 25 Mai 2018. Rydyn ni’n cynnal gweithdai rhanbarthol
i gynnig cymorth ymarferol i ysgolion sydd â llawer o ddata i’w hallforio o
Hwb+.
Mae llawer o Rwydweithiau’n
brysur iawn ac yn cynnwys nifer fawr o ffeiliau; rydyn ni’n ei gwneud yn haws
eu rheoli! Rydyn ni wedi ystyried eich adborth ac rydyn ni’n falch iawn o
gyhoeddi ein bod wedi gwella’r modd mae ffeiliau’n cael eu rheoli yn
Rhwydweithiau Hwb.
Eleni bydd Wythnos Wyddoniaeth Prydain yn digwydd ar 9-18
Mawrth. Dyma ddetholiad o’r adnoddau gwyddoniaeth sydd ar Hwb i'ch helpu i
gymryd rhan yn y digwyddiad hwn.
Mae angen eich help chi ar Cymwysterau Cymru er mwyn nodi p'un a
yw'r cymwysterau TGCh presennol ar gyfer dysgwyr rhwng 16 a 19 oed yng Nghymru,
yn addas at y diben – ac ar ba ffurf y dylai'r cymwysterau hyn fod yn y
dyfodol. Gwahoddir athrawon a thiwtoriaid y cymwysterau hyn i gymryd rhan mewn
gweithdy a gynhelir yn Y Drenewydd,
Powys ar 17 Ebrill 2018 rhwng 11am a 3pm.
Fel rhan o waith Cymwysterau Cymru i ddatblygu meini prawf
cymeradwyo newydd ar gyfer cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal
Plant yng Nghymru, a mae'n ymgysylltu ag ymarferwyr,
cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, athrawon a darlithwyr yn y sector mewn
cyfres o ddigwyddiadau, i ofyn iddynt am eu hadborth ar ein cynigion.
Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben am 18:00 ar 13 Ebrill 2018.
Mae’r arolwg yn cau ar ddydd Sul 25 Mawrth 2018.
Hoffai’r NSPCC eich gwahodd chi i lenwi ei harolwg ar brofiadau gweithwyr
proffesiynol o wrando ar blant a derbyn datgeliadau o gamdriniaeth ac
esgeulustod. www.nspcc.org.uk
Mae RhDB-Cymru yn
cynorthwyo athrawon i ddatblygu eu dysgwyr fel dinasyddion egwyddorol a
gwybodus yng Nghymru a’r byd. Mae Cylchlythyr y gwanwyn yn cynnwys dolenni i
adnoddau newydd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Mis Hanes Menywod sy’n
|