Newyddion Arloesi: Rhifyn 23

Mawrth 2018

English

 
 
 
 
 
 
man

Cynlluniau ehangu uchelgeisiol  gan gwmni yn y De

Bydd gan Laser Wire Solutions ym Mhontypridd drosiant o £4 miliwn yn 2017 diolch yn rhannol i gymorth arloesi gan Lywodraeth Cymru.

 chymorth grant SMART Cymru, bu’r cwmni, sy’n dylunio a gweithgynhyrchu peiriannau laser  sy’n tynnu arhaenau oddi ar geblau a gwifrau, yn gallu dylunio a chreu ei gynnyrch cyntaf.

Bellach, mae’r cwmni yn o’r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru.

Darllenwch ragor am y llwyddiannau y mae cyllid arloesi yn gallu eu sicrhau.

Partneriaeth arloesol yn rhoi hwb i economi gylchol Cymru

Mae'r cwmni datblygu eiddo, Wates Residential, yn cydweithio â Chyngor Dinas Caerdydd, yn ogystal â dwy fenter gymdeithasol, Sefydliad Merthyr Tudful a Paint 360, i ddefnyddio paent sydd wedi’i ailgylchu. 

Cafodd y bartneriaeth ei broceru gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru fel rhan o brosiect i helpu awdurdodau lleol i ailgylchu tuniau paent a oedd wedi cael eu hagor a'u gadael yn eu canolfannau gwastraff cartref. 

Rhagor o fanylion

paint 360
smart

Byddwch SMART

Bwrwch olwg i weld yr hyn y gall  ein cyfres o raglenni cymorth, SMART, ei gynnig.

Mae SMART wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae ar gael p’un a oes angen arnoch gydweithredwyr neu gymorth academaidd, arbenigwyr allanol neu ddyluniad newydd, cyngor ar Eiddo Deallusol neu arian i brynu cyfarpar newydd. 

Dysgwch sut y gall eich busnes elwa ar SMART

MANUMIX: Interreg Ewrop

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid yn Ewrop ar fenter i sicrhau bod polisïau arloesi’n gweithio’n fwy effeithlon ym maes gweithgynhyrchu uwch ar lefel ranbarthol.

Darllenwch fwy am MANUMIX

manumix
visit expertise wales

Partneriaethau SMART

Mae Partneriaethau SMART yn cynnig cymorth ariannol i brosiectau cydweithredol ac arloesol er mwyn helpu busnesau i dyfu, bod yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy cystadleuol.

Y nod yw cynnal prosiectau cydweithredol, gyda phwyslais clir ar gynyddu capasiti a gallu busnesau Cymru i ddatblygu gweithgareddau ymchwil a datblygu. Gwneir hyn drwy eu cysylltu â chyrff ymchwil, ac â chynorthwyydd, at ddiben gweithio ar brosiect penodol sy’n datblygu gwasanaethau, cynhyrchion a phrosesau newydd.

Am ragor o wybodaeth

advances

Horizon 2020, Digwyddiad Blynyddol - 15 Mawrth - Gwesty'r Mercure Caerdydd 

Peidiwch colli cyfle i gofrestru eich lle yn nigwyddiad H2020 eleni; y thema fydd llunio partneriaethau a gyrru llwyddiant.  Bydd y diwrnod yn edrych ar sut y bydd yr ymrwymiad parhaus i gydweithio gyda Ewrop a gweddill y byd yn helpu i sbarduno twf yng Nghymru.

Bydd cyfle hefyd ichi siarad ag arbenigwyr arloesi yn y gweithdy prynhawn. Rhwydweithio am Gyfleoedd.

Cofrestru

Digwyddiad Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) - 22 Mawrth 2018 - OpTIC, Llanelwy

Mae hwn yn gyfle delfrydol i ddysgu am yr hyn y gall KTP ei wneud i chi ac i glywed gan gwmnïau sydd wedi elwa o'r rhaglen. Bydd y digwyddiad yn cynnwys

  • Cyflwyniad i KTP
  • Sut mae KTP yn gweithio a beth yw'r manteision i chi
  • Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth o safbwynt Prifysgol
  • Partneriaethau KTP yn rhannu eu profiadau o KTP

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, bwciwch eich lle yma.

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: