Cyfle newydd i gwmni argraffu o Dde Cymru
Mae DecTek, arbenigwr technoleg resin ac argraffu o Gymru, wedi llwyddo yn eu cais am gyllid i gefnogi eu strategaeth uchelgeisiol ar gyfer twf. Mae'r cyllid ar gyfer peiriant torri newydd ac adolygiad diagnostig wedi arwain at gyfleoedd ychwanegol i'r busnes.
Mae sylfaenydd DecTek yn disgrifio cyllid Arloesi fel "proses gyflym ac effeithlon" sy'n dod â sawl mantais.
Darllenwch ragor am sut y gall Llywodraeth Cymru ddod â rhagor o gyfleoedd i fyd busnes.
|
|
 |
 |
|
Mapio Arloesedd yng Nghymru
Mae'r Arloesiadur yn blatfform newydd ar y we ar gyfer mapio arloesedd yng Nghymru. Mae'r fenter hon ar y cyd rhwng Nesta a Llywodraeth Cymru yn rhoi cipolwg o'r diwydiant arloesi yng Nghymru, rhwydweithiau ymchwil a thechnegol a bydd yn helpu i ddatblygu polisïau i gryfhau arloesedd yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth.
|
Rhifyn 83 o Advances Wales ar gael nawr
Mae'r rhifyn diweddaraf yn rhoi sylw i waith meddygol arloesol sy'n cael ei ddatblygu yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hefyd yn dangos cerbyd di-yrrwr, a reolir gan ddeallusrwydd artiffisial, a ddyluniwyd i ddosbarthu ein pecynnau, ac yn trafod yr ymchwil newydd ar effeithiau newid hinsawdd.
Gallwch weld y rhifyn diweddaraf o Advances Wales yma.
|
|
 |
Rhaglen Defnyddio Technoleg National Aerospace
Mae'r Rhaglen Defnyddio Technoleg National Aerospace yn raglen ar gyfer y DU yn gyfan. Mae wedi'i hanelu'n bennaf at fusnesau bach a chanolig i helpu iddynt ddatblygu eu technolegau arloesol eu hunain a'u gwneud yn fwy tebygol o ennill busnes newydd gyda chwmnïau haen uwch unrhyw le yn y byd. Ceir rhagor o wybodaeth yma.
ICE 200 - Dathlu 200 mlynedd o lwyddiant ym maes peirianneg sifil.
Trwy gydol 2018 cynhelir cyfres o weithgareddau i dynnu sylw at yr effaith a gaiff peirianneg sifil ar ein bywydau pob dydd. I wybod mwy.
Darllenwch ragor am Lwyddiannau yng Nghymru ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg a Pheirianneg.
Modelu, efelychu, gwybodaeth artiffisial a realiti estynedig mewn cerbydau wedi’u cysylltu ac annibynnol
18 Ionawr 2016 - Caerdydd
Mae Llywodraeth Cymru a'r KTN yn eich gwahodd i'r digwyddiad hwn, ble y gallwch ddysgu mwy am y cyfleoedd yn y maes hwn, cydweithredu, trafod datblygiadau yn y maes yn y dyfodol yn ogystal â dod i wybod sut y gellid cynnwys syniadau a thechnolegau o feysydd eraill.
Archebwch yma i fynd i'r digwyddiad.
CoInnovate – 24 Ionawr 2018
Mae CoInnovate yn ddigwyddiad sy'n cael ei gynorthwyo gan Lywodraeth Cymru sy'n dod â phrif arloeswyr y byd at ei gilydd er mwyn cydweithio. Mae'r digwyddiad yn gyfle i fuddsoddwyr, academyddion, BBaChau a'r gymuned ddiwydiannol i ddod at ei gilydd ac edrych ar gyfleoedd sy'n cael eu harwain gan y farchnad.
Cofrestrwch nawr ar gyfer CoInnovate 2018.
Bio Cymru - 6 & 7 Mawrth 2018
Cadwch y dyddiad yn rhydd ar gyfer BioCymru, un o gynadleddau Gwyddorau Bywyd mwyaf y DU sydd bellach yn ei 16eg blwyddyn.
Ewch i'r wefan i gofrestru eich diddordeb.
Allwch chi ddatrys heriau a arweinir gan ddiwydiant?
Mae Dŵr Cymru yn chwilio am dechnolegau arloesol i sicrhau dŵr yfed o'r safon uchaf i'w cwsmeriaid.
Mae'r heriau'n cynnwys:
- Strategaethau trin i gadw sgil-gynhyrchion diheintyddion mor isel â phosibl - Technoleg glanhau y prif gyflenwad dŵr - Larymau rhagfynegol i ganfod cyfraddau newid, diagnosteg a dadansoddi systemau -Systemau monitro newydd
Rhagor o wybodaeth yma.
|