Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, wedi cyhoeddi newidiadau i’r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion a fydd yn dod i rym ar unwaith.
Danfonir llythyr i bob ysgol gyda rhagor o wybodaeth am y newidiadau.
Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu - Astudiaeth Genedlaethol
Lansir trydydd arolwg gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bydd yr arolwg yn cefnogi trosglwyddiad i'r cwricwlwm newydd. Os gwahoddwyd eich ysgol i gwblhau'r arolwg byr drwy e-bost yr wythnos hyn, byddem yn croesawu eich cyfranogiad ac adborth agored ac onest.
1 Rhagfyr - Gwesty'r Metropole, Llandrindod
Cyfle gwych i glywed gan siaradwyr allweddol, gan gynnwys
Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynghylch y gwelliannau
sy'n cael eu gwneud i EOTAS. Gwahoddir cynrychiolwyr i gyfrannu at y
trafodaethau mewn dewis o weithdai.
Mae Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd yn eich gwahodd i glywed am y datblygiadau diweddaraf yng nghenhadaeth ddinesig addysg uwch oddi wrth siaradwyr blaenllaw fel yr Athro Ellen Hazelkorn a’r Athro John Goddard ynghyd a safbwyntiau Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC/AM.
Gyda dros 65,000 o blant mewn
ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru, pam mae
rhieni yn ystyried y Gymraeg yn bwysig i’w plant? Lawrlwytha'r ganllaw am fwy o
wybodaeth.
Motorpoint Arena, Caerdydd: 11/12 Hydref 2017
Cyfle olaf i gadw lle i’ch myfyrwyr yn nigwyddiad SgiliauCymru 2017, a hynny yn rhad ac am ddim. Dyma’r digwyddiad gyrfaoedd, sgiliau a phrentisiaethau mwyaf yng Nghymru.
Gwyliwch a rhannwch ein canllaw i ddysgwyr am ein cynigion i ddiwygio’r PCET:
Helpwch
eich dysgwyr i gyfrannu at yr ymgynghoriad trwy ddod i’n digwyddiad Llais y
Dysgwyr hynod ryngweithiol:
- 12 Hydref 2017 –
Motorpoint Arena, Caerdydd
Cyfle olaf i archebu lle ar gyfer eich grŵp neu i gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost.
Gwener, 20 Hydref 2017 yn y Celtic Manor
Yn dathlu llwyddiannau eithriadol yr unigolion a’r sefydliadau sydd wedi cyfrannu at y rhaglenni hynny. Mae deg ar hugain o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu ar y rhestr fer.
Yn cau 23 Hydref 2017. #dysguôl16cymru
Mae cystadleuaeth 2018 yn gyfle i bobl ifanc ddweud wrthon ni sut mae’r rhyngrwyd yn gwneud iddyn nhw deimlo drwy eiriau, ffilm, cerddoriaeth neu gelf.
Er mwyn datblygu’r cynllun gweithredu cenedlaethol i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein, mae arnom angen clywed barn plant a phobl ifanc.
Mae pum Rhestr Chwarae ar gael bellach i gefnogi plant, pobl ifanc, ymarferwyr addysg, rhieni a gofalwyr a llywodraethwyr, er mwyn iddynt fod yn ddiogel ar-lein.
Mae’r canllaw hwn yn edrych ar y manteision o ddefnyddio 360 degree safe Cymru, teclyn dwyieithog i hunan asesu diogelwch ar-lein.
Rydym yn falch o gyhoeddi bod adnoddau Casgliad
y Werin Cymru nawr ar gael drwy Hwb.
Mae Llywodraeth
Cymru yn rhoi cyllid i’r Consortia Addysg Rhanbarthol ledled Cymru i’w galluogi
i gynnig digwyddiadau cysylltiedig â Hwb a fydd wedi’u teilwra’n lleol yn unol
ag anghenion eu hysgolion.
Chwilio am ffyrdd gwahanol o ddysgu cymhwysedd
digidol eleni? Edrychwch ar adnoddau hyn a grëwyd gan ymarferwyr ar gyfer elfen
rhyngweithio a chydweithio Fframwaith.
A oes angen cymorth arnoch i ddarparu addysg ariannol yn eich ysgol? Mae’r adnoddau hyn yn adnabod ac yn amlygu cyfleoedd yn y cwricwlwm i ddatblygu profiadau dysgwyr.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi datblygu cyfres o fframweithiau canlyniadau ac offerynnau mesur i helpu i ddarparu ffordd safonol o fesur effaith addysg ariannol. Mae hyn yn cynnwys Fframwaith Canlyniadau Athrawon, sy’n adnabod y canlyniadau a’r dangosyddion allweddol a fydd yn helpu i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon i sicrhau eu bod yn addysgu addysg ariannol effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.
Ar gael nawr fersiwn Cymraeg gwerslyfr Seicoleg Safon Uwch adnodd gwerthfawr i ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr o’r pwnc ac i gynorthwyo wrth astudio tuag at arholiadau CBAC.
Enillydd Prosiect Addysg Gorau yng
Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2017 #Cymraeg2050
Darllenwch yr astudiaethau achos o arfer orau yn ein hadroddiad
diweddaraf ar hanes a daearyddiaeth yng nghyfnodau allweddol 2, 3 a 4.
Mae ein hadroddiad newydd yn bwrw golwg ar y safonau, y ddarpariaeth a’r arweinyddiaeth mewn gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4. Mae’n ystyried amrywiaeth o ffactorau sy’n cyfrannu at wella safonau.
Mae CGA yn cynnal sesiwn friffio polisi ar brifathrawon ac arweinyddiaeth yng Nghymru.
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer pob rhanddeiliad sydd â diddordeb mewn materion sy'n ymwneud â phenaethiaid/uwch arweinwyr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy ebostio neu drwy ffonio 029 2046 0099
Menter sydd wedi codi o lawr gwlad yw Wythnos Codio Ewrop gyda’r bwriad o gyflwyno codio a llythrennedd digidol i bawb mewn ffordd sy’n hwyl ac yn apelgar. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ewch i wefan Wythnos Codio Ewrop.
16 ac 17 Tachwedd Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor
Mae disgwyl i dros 2000 o fyfyrwyr, athrawon a busnesau
fynychu gwobrau Arloesi 2017 a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a Bangor
fis nesaf. Darganfyddwch fwy.
|