|
|
Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl - 12 peth y mae angen i chi eu
gwybod.
|
|
|
#CenhadaethAddysgCymru
|
|
|
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, wedi cyhoeddi newidiadau i’r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion a fydd yn dod i rym ar unwaith.
Danfonir llythyr i bob ysgol gyda rhagor o wybodaeth am y newidiadau.
|
Safonau Proffesiynol
Mae'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth bellach ar gael. Defnyddiwch yr animeiddiad ar-lein a'r PDF rhyngweithiol i'ch helpu chi i archwilio a manteisio i'r eithaf ar y safonau newydd. Animeiddiad i'ch helpu i ddarganfod mwy am Safonau Addysgu Proffesiynol
Dull
Cymreig o fynd i’r afael â’r System Addysg a Hyfforddiant ôl-orfodol (PCET)
A gaiff llwybrau galwedigaethol a llwybrau academaidd eu parchu
yn yr un modd? Pa mor bwysig yw’r Gymraeg o fewn addysg a hyfforddiant? Sut y
gallwn amddiffyn buddiannau dysgwyr? Cofiwch annog eich myfyrwyr i fynegi eu
barn yn un o’n Digwyddiadau ar Ddiwygio’r System Addysg a Hyfforddiant ôl-orfodol:
Llais y Dysgwr:
-
4 Hydref 2017 – The Quay Hotel
& Spa, Deganwy
-
12 Hydref 2017 – Motorpoint
Arena, Caerdydd
I archebu lle ar gyfer eich grŵp neu i gael rhagor o wybodaeth
anfonwch e-bost at DiwygioPCET@wales.gsi.gov.uk
Cofrestrwch nawr ar gyfer sesiynau hyfforddiant diogelwch ar-lein hanner diwrnod ar gyfer unigolion dynodedig sydd â chyfrifoldeb uwch dros ddiogelu plant, a fydd yn cael eu cynnal mewn chwe lleoliad yng Nghymru yn ystod Medi a Hydref.
Cofrestrwch nawr ar gyfer digwyddiadau
hyfforddi hanner diwrnod mewn 6
lleoliad ledled Cymru.
Bydd y sesiynau'n canolbwyntio
ar sut i greu strategaethau effeithiol i fynd i'r afael â bwlio ar-lein ac ar
eich helpu i ddeall beth i'w wneud os ydych yn amau bod plentyn yn cael ei
fwlio ar-lein.
Mae’r ‘DQ Institute’ yn gwahodd ysgolion yng Nghymru sydd
â dysgwyr 8-12 oed i gymryd rhan mewn rhyngwladol drwy gofrestru, yn rhad ac am
ddim, ar gyfer rhaglen dinasyddiaeth ddigidol ar-lein cyn diwedd mis Tachwedd
2017.
Mae 'Microsoft Teams' ar gael nawr drwy denantiaeth Hwb Office 365. Mae
Teams yn cynnig amgylchedd diogel a hwylus i athrawon a dysgwyr yn seiliedig ar
amgylchedd yr ystafell ddosbarth.
Chwilio am ffyrdd gwahanol
o ddysgu cymhwysedd digidol eleni? Edrych ar adnoddau hyn a grëwyd gan
ymarferwyr ar gyfer elfen data a meddwl cyfrifiadurol Fframwaith sy'n cwmpasu
pynciau fel ymddygiad ar-lein a hawlfraint
Mae disgwyl i dros 2000 o fyfyrwyr, athrawon a busnesau
fynychu gwobrau Arloesi 2017 a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a Bangor
fis nesaf. Mae'r gystadleuaeth flynyddol yn tynnu sylw at y gwaith mwyaf
arloesol a gaiff ei gynhyrchu gan fyfyrwyr Dylunio a Thechnoleg.
Mae CBAC a Llywodraeth Cymru'n cydweithio er mwyn annog
arloesedd ymysg pobl ifanc.
-
2 a 3
Hydref -Caerdydd, Stadiwm SWALEC
-
16 ac 17
Tachwedd Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor - 16 ac 17
Tachwedd
Cyfle penigamp i’ch ysgol chi cael hwyl a
rhannu syniadau yn Gymraeg.
Sut felly, gall eich ysgol gymryd rhan?
Gallech rannu digwyddiadau’ch ysgol chi drwy Twitter neu drwy Facebook ac os hoffech
ychydig o ysbrydoliaeth cyn y 15fed, cliciwch yma. #shwmaesumae
Rhifau ffôn newydd Cymwysterau Cymru
O 21 Medi, bydd rhifau ffôn Cymwysterau Cymru yn newid. I gysylltu â'r dderbynfa deialwch 01633 373 222.
Bydd tudalen newydd Estyn ar Facebook, Estyn AEM, yn
rhannu’r canfyddiadau a’r argymhellion diweddaraf i bawb sy’n gweithio ym maes
addysg a hyfforddiant.
Mae’r ymrwymiadau yn y
cod yn helpu i sicrhau bod y gweithwyr yn ein cadwyni cyflenwi yn cael eu
cyflogi’n deg ac yn ei gwneud yn ofynnol
i sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ddilyn
cyfres o gamau gweithredu sy’n mynd i’r afael ag arferion cyflogi
gwael. Mae’r Canllawiau sy’n cyd-fynd ag ef yn cynnwys adnoddau a chyngor
i helpu i weithredu’r ymrwymiadau.
Cofrestrwch nawr am ddim
Diwrnod o gyflwyniadau a gweithdai ar gyfer athrawon a
thechnegwyr. Cyfle gwych i athrawon a thechnegwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth
eang o weithgareddau DPP ffiseg. Diwrnod o weithdai am ddim yn agored i holl
athrawon, technegwyr, ac athrawon sydd newydd gymhwyso ac o dan hyfforddiant.
Mae diogelwch pobl ifanc ar ac o amgylch y rheilffordd yn flaenoriaeth. Felly dyma’r cyfle i chi gyflwyno gwersi
diogelwch rheilffyrdd yn eich ystafell ddosbarth a dod yn rhan o’r agenda i
leihau damweiniau rheilffordd a marwolaethau ymysg pobl ifanc.
|