|
|
Mae'r offeryn hwn wedi'i ddatblygu gan
yr Ysgolion Arloesi Digidol. Mae'n caniatáu ichi groesgyfeirio elfennau o'r
Fframwaith â gwaith addysgu cyfredol mewn pynciau ac ar gyfer gwahanol
flynyddoedd. Wrth ichi ychwanegu eich gwybodaeth, mae'r offeryn yn dangos eich
lefelau o ran maint o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol sydd wedi'i gynnwys, sy'n
eich helpu i gynllunio i gynnwys yr ystod lawn o sgiliau ar gyfer pob elfen dros
y flwyddyn. Bydd hefyd yn eich helpu i gynllunio i rannu'r gwaith o gynnwys yr
elfennau mewn modd mwy cytbwys ar draws yr ysgol.
|
|
|
Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad ar gyfer safonau proffesiynol newydd
ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Darganfyddwch be fydd y safonau
newydd yn ei olygu i chi a phryd y byddant yn gymwys.
|
Heddiw,
cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg fod y rheolau newydd ar
gyfer y cyrsiau sy’n hyfforddi athrawon yng Nghymru yn rhan o’r ymgyrch i
ddenu’r talent gorau i’r proffesiwn.
Mae’r Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol
athrawon yng Nghymru: Addysgu Athrawon Yfory ar gael bellach.
Dyddiad cau: 31 Mawrth 2017
Rydym
yn chwilio am ymgeiswyr ymroddgar a medrus ar gyfer rôl y cadeirydd a dirprwy
gadeiryddion Pwyllgor Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg ("y
bwrdd").
Bydd cyfle i fyfyrwyr o’r 11 canolfan Seren ledled Cymru wneud cais i fynychu’r ysgol haf bedwar diwrnod o hyd.
Gŵyl y Gelli 2017
Llefyddi ddigwyddiadau'r Rhaglen Ysgolion Wyl y Gelli ar gael yn rhad-ac-am-ddim i bob ysgol yng Nghymru eleni! Archebwch eich lle drwy Aine@hayfestival.org.
Mae'n fideo ar gael i chi ei weld yma!
BIG
Bang Cymru
Mae Cynllun Addysg Peirianneg Cymru (EESW) yn trefnu dau ddigwyddiad Big Bang eto eleni. Mae’r dyddiau hyn sydd
yn gyffrous a llawn gweithgareddau yn cynnwys:
- sioeau theatr High-octane
- stondinau rhyngweithiol a gweithdai
- prosiectau gwyddoniaeth a pheirianneg sy’n ysbrydoli
- gwybodaeth am yrfaoedd, adnoddau a gweithgareddau
28 Mawrth Venue Cymru Llandudno
3 Ebrill yn Stadiwm Liberty Abertawe
Mae croeso i’r ysgolion i gyd fod yn bresennol. Os gwelwch yn dda a wnewch chi gofrestru ar www.stemcymru.org.uk
Mae ysgol newydd gwerth £40 miliwn wedi’i hagor heddiw yn swyddogol ym Mhort Talbot gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams (dydd Llun 13 Mawrth).
Nod y rhaglen hon yw cryfhau’r gallu i arwain ar lefel uchel yn y sector addysg bellach.
Rydym yn awyddus iawn i glywed barn disgyblion eich ysgol, gan eu bod yn mynd i fod y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn y dyfodol.
Canllawiau
ar y grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n dechrau ar gyrsiau addysg
gychwynnol TAR llawnamser i athrawon cyn iddynt ddechrau addysgu.
Ydy eich ysgol neu
goleg wedi cynnal rhai prosiectau digidol diddordol eleni? Beth am wneud cais
ar gyfer Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017. Y dyddiad cau ar gyfer
ceisiadau yw dydd Gwener 7 Ebrill am 4.00 pm.
Profiad fideo
deinamig – mae Office 365 Video ar gael nawr ar gyfer eich ysgol drwy Hwb!
Gallwch lanlwytho, rhannu a chwarae fideo yn ddiogel yn eich ysgol. Gall
athrawon fanteisio ar y datblygiad cyffrous hwn i ‘fflipio’ eu hystafell
ddosbarth a chaniatáu i ddysgwyr ffrydio nifer o fideos sydd wedi’u lanlwytho
gan athrawon ar unrhyw ddyfais sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd. Peidiwch ag
anghofio edrych ar sianeli fideo eich awdurdod lleol a’ch consortia – maen nhw
i gyd ar gael ar Hwb.
Cyfle olaf i archebu eich lle ar gyfer ein CwrddHwb Trefynwy!
Dewch i gael paned a sgwrs am y dechnoleg addysgol sydd ar gael am ddim i chi.
Mae’r
adnodd hwn ar gyfer CA2 yn ategu themâu trawsbynciol llythrennedd, rhifedd a
chymhwysedd digidol ar draws y chwe maes cwricwlwm drwy gyfres o heriau dysgu
llawn hwyl a chyffro. Bydd y gweithgareddau’n cael eu llunio’n seiliedig ar
Rowndiau Terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA fydd yn cael eu cynnal yng
Nghaerdydd fis Mehefin 2017.
Mae'r
adnodd hwn yn darparu gwers ar gyfer disgyblion yn CA3 a CA4 i ddysgu am y
trychineb pwll glo Gresffordd gan ddefnyddio lluniau, erthyglau papur newydd,
mapiau ac adroddiadau swyddogol
Mae'r Cyngor
Prydeinig yn cynnig taith ddysgu yn rhad ac am ddim i helpu athrawon ddatblygu
eu harfer trwy gydweithredu rhyngwladol. Mae’r athrawon sy'n cymryd rhan yn
Cysylltu Ystafelloedd Dosbarth yn elwa o gyrsiau hyfforddiant sgiliau craidd a
ariennir yn llawn, yn cael mynediad i rwydwaith ryngwladol o athrawon o'r un
anian a £3,000 o grantiau i ymweld ag ysgolion partner dramor.
Mae Gwobrau Addysg Prydeinig cyntaf a gynhaliwyd yn Llundain ar 30 Ionawr yn Llundain. Roedd pedwar categori lle mae dysgwyr y Gymraeg ar y rhestr fer - TGAU, Lefel A, Galwedigaethol a Gradd. I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Addysg Prydain a'r enillwyr, ewch i www.britisheducationawards.co.uk
|