|
|
Hoffem
gael eich barn
|
Gall holl ysgolion cynradd cyfrannu at waith y Comisiynydd
o hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru trwy ymuno am ddim â’n cynllun
Llysgenhadon Gwych. Gall disgyblion ymuno â thasg arbennig y tymor hwn i
hyrwyddo hawliau yn eu ysgolion #EinHawliau
Gwobrau Dysgu Digidol
Cenedlaethol 2017
O
hyn hyd pan agorir y broses ymgeisio ar gyfer 2017 ym mis Chwefror, byddwn yn
rhannu adnoddau arfer da gan yr ysgolion hynny enillodd wobrau neu glod uchel y
llynedd ar Hwb. Mae’r adnoddau engreifftiol cyntaf ar gael
- enillydd gwobr e-ddiogelwch 2016 ac enghraifft clod uchel
- enillydd Gwobr
Disgyblion 2016
Mae
Rhaglen Ysgolion Creadigol Arweiniol yn cefnogi ysgolion i ddatblygu dulliau
creadigol o addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm.
Ewch i’r Parth Dysgu Creadigol i weld prosiectau ysgolion
creadigol arweiniol yn cael eu gweithredu.
Bydd yr holiadur byr hwn ynghylch y cymorth a roddir i
ddysgwyr yn profi sut mae’r safle’n cael ei drefnu. Bydd eich cyfraniad yn ein
helpu ni i’w gwneud hi’n haws i chi ddod o hyd i’n dogfennau
Gwybodaeth
ar rôl y seicolegwyr addysg a'u cyfraniad i addysg yng Nghymru. Mae'r canllaw hwn wedi'i anelu at weithwyr
proffesiynol addysg a rhieni/gofalwyr.
Rhestr
Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 - Enwebiadau Ar Agor!
Mae’r
Grŵp
Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr
Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018. Os
ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sectorau Addysg,
Llywodraeth Lleol, Cymunedau, Trechu Tlodi, Tai ac Adfywio sydd wedi dangos
llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad erbyn 01/03/2017.
Ymunwch â Connecting Classrooms y Cyngor Brydeinig am gefnogaeth gyda’ch Sgiliau Ehangach a Fframwaith Cymhwysedd Digidol am ddim. Unwaith i chi ymuno, byddem yn eich cefnogi gyda phartneriaeth broffesiynol tramor, gyda grant o £3,000 ar gael am daith ryngwladol.
Dydd Iau 16 Chwefror 2017, Venue Cymru, Llandudno
Am ragor o wybodaeth
ac i gofrestru
Dydd
Mawrth, 7 Chwefror 2017, Y Senedd, Bae Caerdydd
Mae’r digwyddiad dros cinio hon yn nodi lansiad swyddogol Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb. Archebwch le heddiw.
Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017 - Pecynnau Addysg
Mae Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU wedi creu pecynnau addysg i gefnogi ysgolion sy'n bwriadu cymryd rhan a chynnal gweithgareddau ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017.
Mae
Barnardo's Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal yr ail gyfres o
ddigwyddiadau hyfforddi rhanbarthol ar Gamfanteisio Rhywiol ar yr adnodd addysg
ar-lein 'Cudd'. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch heddiw.
Bydd
#DyddMiwsigCymru yn digwydd am yr ail dro ar 10 Chwefror, 2017. Gall
unrhyw un gymryd rhan yn y dathlu, felly os hoffech eich ysgtol chi gymryd
rhan, cliciwch ar y dolen uchod!
Dewch i glywed sut
gall Hwb gefnogi eich dysgu eleni. Archebwch eich lle nawr!
Os ydych chi’n
bwriadu mynd i sioe BETT yn ExCel Llundain, dewch i’n gweld ni ar stondin H310. Gwnewch yn siŵr eich bod
yn cofrestru ar gyfer eich tocyn rhad ac am ddim. Byddwn ni yno yn
hyrwyddo’r rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol sy’n cynnig offer digidol am ddim
i’r holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Yn
dilyn adborth gan rieni/gofalwyr, un thema sy'n codi dro ar ôl tro yw eu bod yn
pryderu am eu sgiliau mathemateg a'u gallu i gefnogi eu plant gartref. Felly,
mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag arbenigwyr rhifedd yng Nghymru i
gynhyrchu detholiad o adnoddau mathemateg ar gyfer plant 3 i 16 oed i annog
rhieni/gofalwyr i ymgysylltu â'u plant a'u helpu gyda'u gwaith cartref
mathemateg.
Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB), gyda phartneriaid, wedi comisiynu datblygu adnoddau dosbarth CA2 newydd ac am ddim, ynghyd â ffilm fer, i ychwanegu gwerth at ddeunyddiau cwricwlwm cenedlaethol.
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 10 Mawrth 2017
Y gystadleuaeth celfyddydau creadigol blaenllaw ar gyfer pobol ifanc yng Nghymru.
Diwrnod Crefyddau’r Byd yw 22 Ionawr. Edrychwch
ar yr adnoddau am grefyddau ar Hwb!
27 Ionawr 2017 yw Diwrnod
Cofio’r Holocost, sy’n nodi diwrnod rhyddhau Auschiwitz-Birkenau yn 1945. Mae Rhaglen Dysgu Byd-Eang Cymru wedi
rhoi rhestr o adnoddau at ei gilydd er mwyn helpu ysgolion i nodi’r diwrnod
pwysig hwn.
Cafodd
yr adnoddau ar gyfer tymor y gwanwyn eu cyflenwi i’ch ysgol ar ddechrau mis
Ionawr. Yn y bocs, mae:
-
Pecyn Bagiau Llyfrau Bwmerang ar gyfer eich
dosbarth!
-
Cardiau
rhifedd Ble Mae’r Ddafad?
Adnodd sy'n dathlu'r ystod each o ffilmiau wedi
eu creu yng Nghymru neu'n cynnwys talent o Gymru.
Cyfres o ddogfennau, yn dilyn y broses o’r
cyfnod cyn-cynhyrchu i’r cyfnod ôl-gynhyrchu.
|