eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 20 Ionawr 2017 (Rhifyn 160)

20 Ionawr 2017 • Rhifyn 160

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

blog

Blogiau newydd yr Cwricwlwm i Gymru

Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg

Bwrw ati ar unwaith i ddiwygio ym maes addysg; Kirsty Williams yn cyflwyno'r cefndir.

 

Yr Athro Graham Donaldson - Amdani!

Tra mae eraill yn disgwyl, mae Cymru'n gweithredu. Mae blog yr Athro Donaldson yn canmol diwygiad dewr i'r cwricwlwm.

consultation9090

Ymgynghoriad: Casglu data am y gweithlu ysgolion 

Hoffem gael eich barn

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Tasg Arbennig Comisiynydd Plant Cymru: Ein Hawliau

Gall holl ysgolion cynradd cyfrannu at waith y Comisiynydd o hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru trwy ymuno am ddim â’n cynllun Llysgenhadon Gwych. Gall disgyblion ymuno â thasg arbennig y tymor hwn i hyrwyddo hawliau yn eu ysgolion #EinHawliau

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

O hyn hyd pan agorir y broses ymgeisio ar gyfer 2017 ym mis Chwefror, byddwn yn rhannu adnoddau arfer da gan yr ysgolion hynny enillodd wobrau neu glod uchel y llynedd ar Hwb. Mae’r adnoddau engreifftiol cyntaf ar gael 

  1. enillydd gwobr e-ddiogelwch 2016 ac enghraifft clod uchel
  2. enillydd Gwobr Disgyblion 2016

Ysgolion Creadigol Arweiniol – Rownd derfynol yn cau 27 Ionawr

Mae Rhaglen Ysgolion Creadigol Arweiniol yn cefnogi ysgolion i ddatblygu dulliau creadigol o addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm.

Ewch i’r Parth Dysgu Creadigol i weld prosiectau ysgolion creadigol arweiniol yn cael eu gweithredu. 

Arolwg Dysgu Cymru

Bydd yr holiadur byr hwn ynghylch y cymorth a roddir i ddysgwyr yn profi sut mae’r safle’n cael ei drefnu. Bydd eich cyfraniad yn ein helpu ni i’w gwneud hi’n haws i chi ddod o hyd i’n dogfennau

Seicolegwyr Addysg yng Nghymru

Gwybodaeth ar rôl y seicolegwyr addysg a'u cyfraniad i addysg yng Nghymru. Mae'r canllaw hwn wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol addysg a rhieni/gofalwyr.

Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 - Enwebiadau Ar Agor!

Mae’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018.  Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sectorau Addysg, Llywodraeth Lleol, Cymunedau, Trechu Tlodi, Tai ac Adfywio sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad erbyn 01/03/2017.  

Cysylltu Dosbarthiadau'r Cyngor Brydeinig

Ymunwch â Connecting Classrooms y Cyngor Brydeinig am gefnogaeth gyda’ch Sgiliau Ehangach a Fframwaith Cymhwysedd Digidol am ddim. Unwaith i chi ymuno, byddem yn eich cefnogi gyda phartneriaeth broffesiynol tramor, gyda grant o £3,000 ar gael am daith ryngwladol.

Digwyddiadau

Cynhadledd Ranbarthol GwE: 'Dysgu ac Addysgu - Gwthio'r Ffiniau'

Dydd Iau 16 Chwefror 2017, Venue Cymru, Llandudno

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru

Digwyddiad Cadw Dysgwyr yn ddiogel ar-lein

Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2017, Y Senedd, Bae Caerdydd

Mae’r digwyddiad dros cinio hon yn nodi lansiad swyddogol Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb. Archebwch le heddiw.


Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017 - Pecynnau Addysg

Mae Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU wedi creu pecynnau addysg i gefnogi ysgolion sy'n bwriadu cymryd rhan a chynnal gweithgareddau ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017.

    'Cudd' hyfforddi ar Gamfanteisio Rhywiol gyda Barnardo's Cymru

    Mae Barnardo's Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal yr ail gyfres o ddigwyddiadau hyfforddi rhanbarthol ar Gamfanteisio Rhywiol ar yr adnodd addysg ar-lein 'Cudd'. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch heddiw.

    #DyddMiwsigCymru - Dathlu Cerddoriaeth Cymraeg 2017

    Bydd #DyddMiwsigCymru yn digwydd am yr ail dro ar 10 Chwefror, 2017. Gall unrhyw un gymryd rhan yn y dathlu, felly os hoffech eich ysgtol chi gymryd rhan, cliciwch ar y dolen uchod!

    CwrddHwb Penarth – 15 Chwefror 2017

    Dewch i glywed sut gall Hwb gefnogi eich dysgu eleni. Archebwch eich lle nawr!

    Sioe BETT 2017

    Os ydych chi’n bwriadu mynd i sioe BETT yn ExCel Llundain, dewch i’n gweld ni ar stondin H310. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer eich tocyn rhad ac am ddim. Byddwn ni yno yn hyrwyddo’r rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol sy’n cynnig offer digidol am ddim i’r holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

    ADNODDAU A CHYSTADLAETHAU

    Adnoddau mathemateg i rieni

    Yn dilyn adborth gan rieni/gofalwyr, un thema sy'n codi dro ar ôl tro yw eu bod yn pryderu am eu sgiliau mathemateg a'u gallu i gefnogi eu plant gartref. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag arbenigwyr rhifedd yng Nghymru i gynhyrchu detholiad o adnoddau mathemateg ar gyfer plant 3 i 16 oed i annog rhieni/gofalwyr i ymgysylltu â'u plant a'u helpu gyda'u gwaith cartref mathemateg.

    Adnoddau Dysgu ac Addysgu STEM newydd i Cyfnod Allweddol 2

    Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB), gyda phartneriaid, wedi comisiynu datblygu adnoddau dosbarth CA2 newydd ac am ddim, ynghyd â ffilm fer, i ychwanegu gwerth at ddeunyddiau cwricwlwm cenedlaethol. 

    Cystadleuaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru

    Dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 10 Mawrth 2017

    Y gystadleuaeth celfyddydau creadigol blaenllaw ar gyfer pobol ifanc yng Nghymru.

    Diwrnod Crefyddau’r Byd

    Diwrnod Crefyddau’r Byd yw 22 Ionawr. Edrychwch ar yr adnoddau am grefyddau ar Hwb!

    Coffáu Diwrnod Cofio'r Holocost

    27 Ionawr 2017 yw Diwrnod Cofio’r Holocost, sy’n nodi diwrnod rhyddhau Auschiwitz-Birkenau yn 1945. Mae Rhaglen Dysgu Byd-Eang Cymru wedi rhoi rhestr o adnoddau at ei gilydd er mwyn helpu ysgolion i nodi’r diwrnod pwysig hwn.

    Adnoddau Pori Drwy Stori am ddim ar gyfer plant oedran Derbyn ledled Cymru

    Cafodd yr adnoddau ar gyfer tymor y gwanwyn eu cyflenwi i’ch ysgol ar ddechrau mis Ionawr. Yn y bocs, mae:

    • Pecyn Bagiau Llyfrau Bwmerang ar gyfer eich dosbarth! 
    • Cardiau rhifedd Ble Mae’r Ddafad

    Cymru ar Ffilm - Cynradd

    Adnodd sy'n dathlu'r ystod each o ffilmiau wedi eu creu yng Nghymru neu'n cynnwys talent o Gymru.

    Canllawiau Cryno ar Greu Ffilmiau

    Cyfres o ddogfennau, yn dilyn y broses o’r cyfnod cyn-cynhyrchu i’r cyfnod ôl-gynhyrchu.

     
     

    YNGHYLCH DYSG

    Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant cyn-11 yng Nghymru.

    Rhagor o wybodaeth ar y we:

    dysgu.cymru.gov.uk

    hwb.wales.gov.uk

    llyw.cymru

    Dilynwch ni ar Twitter:

    @LlC_Addysg

    @LlywodraethCym