|
|
Ar ddydd Llun 12 Rhagfyr cyhoeddodd y
Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg Ddatganiad Gweinidogol
Ysgrifenedig yn cyhoeddi cyflwyniad cyfraith uchelgeisiol i greu dull newydd
beiddgar i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Dyddiad i'ch dyddiadur: Digwyddiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Caerfyrddin - 28 Chwefror 2017
- Casnewydd - 2 Mawrth 2017
- Llandudno -7 Mawrth 2017
- Caerdydd - 9 Mawrth 2017
|
E-byst diogel –
Amgryptio Negeseuon Hwb
Amgryptio Negeseuon Hwb (HME) yw un o’r tri
rheolydd ar lefel uwch sydd wedi’u hamlinellu yn ein dogfen canllawiau ar ddiogelwch gwybodaeth all gael eu defnyddio i ychwanegu haen arall o ddiogelwch i e-byst. Dim
ond e-byst sy’n cael eu hanfon o gyfrif Hwbmail i gyfrif e-bost allanol sy’n
cael eu diogelu gan HME. I gael rhagor o wybodaeth bydd angen mewngofnodi i Hwb
i ddarllen y Canllawiau ar ddiogelu HwbMail.
Mae nifer y disgyblion sy'n dysgu Mandarin wedi mwy na dyblu yn ôl adroddiad newydd ar ymdrechion i gynyddu'r defnydd o ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru.
Cyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar 14 Rhagfyr. Mae'n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â sefydliadau sy'n bartneriaid - yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig - i symud tuag at gymdeithas sy'n fwy cynhwysol yn ariannol yng Nghymru. Strategaeth Cynhwysiant Ariannol i Gymru 2016
Rydym
eisiau eich sylwadau ynghylch y dyddiadau tymhorau arfaethedig ar gyfer 2018/19
a chyfarwyddyd drafft gan y Gweinidog.
Mae'r blaenoriaethau wedi'u gosod yng nghyd-destun yr Agenda Sgiliau, sef swyddi a thwf, cynaliadwyedd ariannol, cydraddoldeb a thegwch a meincnodi sgiliau rhyngwladol. Bydd cadarnhau'r themâu a bennwyd yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu strategaethau a chynlluniau gweithredol at y dyfodol.
Mae'r cyflwyniadau hefyd ar gael ar Dysgu Cymru.
Mae’r
adroddiad hwn yn archwilio’r nodweddion sydd gan ysgolion sy’n rhoi llais cryf
i’w disgyblion ac mae’n cynnwys astudiaethau achos i helpu pob ysgol i wella
cyfranogiad ei disgyblion.
Mae’r
adroddiad hwn, sy’n berthnasol i’r rhai sy’n gweithio ym maes dysgu oedolion yn
y gymuned, yn cynnig trosolwg o safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth yn y
sector yng Nghymru.
Archebwch eich lle nawr!
Rydym yn dymuno recriwtio dau aelod i Fwrdd Cymwysterau Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Ionawr 2017.
Bydd yr adnodd hwn yn helpu athrawon a disgyblion
i archwilio effaith ddynol y gwrthdaro yn Syria a realiti bywyd ar gyfer
miliynau o bobl fel ffoaduriaid. (CA3-4)
Dyddiad
cau y gystadleuaeth yw 15 Mawrth 2017
Mae
cystadleuaeth flynyddol Raspberry Pi yn rhoi cant o becynnau datblygu sy’n
cynnwys y cyfrifiadur un bwrdd, maint cerdyn credyd, i ysgolion ledled Prydain.
Mae’r gystadleuaeth yn herio timau o blant a phobl ifanc i ddyfeisio rhaglenni
arloesol i wneud y byd yn lle gwell.
Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yw’r rhwydwaith cenedlaethol mwyaf o’i fath yn y byd. Mae’n dod ag ysgolion uwchradd, ymchwilwyr, llunwyr polisi, ac ymarferwyr o feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol at ei gilydd i wella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru. I ddarganfod mwy neu i fynegi'ch diddordeb i ymuno, cliciwch yma
Mae arbenigwyr data addysg FFT Education yn cynnal cyfres o sioeau teithiol dwy awr ganmoliaethus ledled Cymru i ddod â thimau arwain ysgolion a chyrff llywodraethu i fyny yn gyflym gyda'r data diweddaraf Cyfnod Allweddol 4 Fischer Family Trust ar gafael yn FFT Aspire.
Mae grantiau'r CDA ar gael i ysgolion a cholegau yng Ngogledd Cymru ac mae'r cynnig yn agored i 11-18. Cysylltwch â Gabrielle Ashton ar 01654 705984 am ragor o wybodaeth.
|