Cylchlythyr Gwyddorau Bywyd – Rhagfyr 2016 – Rhifyn 13

Rhagfyr 2016 • Rhifyn 13

English

 
 
 
 
 
 
Science Park

 

Torri tywarchen ym Mharc Gwyddoniaeth Ynys Môn

 

Ymwelodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, ag Ynys Môn i dorri tywarchen ym Mharc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru.

 

Mae Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) yn ddatblygiad gwerth £20miliwn a mwy o fewn Ardal Fenter Ynys Môn a fydd yn agor ei ddrysau yn 2018. 

 

Mwy

Magstim

 

Dadlennu estyniad Madstim

Ym mis Tachwedd, dadlennodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, bencadlys estynedig Magstim sydd wedi ei leoli yn Sir Gaerfyrddin.

 

Cafodd y cyfleusterau gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf eu huwchraddio fel rhan o brosiect tair blynedd sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi creu mwy na 27 o swyddi, wedi diogelu 7 swydd, a bydd 21 o swyddi ychwanegol yn cael eu creu erbyn mis Awst 2017.

 

Mwy

Higher App

Prentisiaeth Uwch Newydd mewn Gwyddor Bywyd

 

Ymwelodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr – y darparwr hyfforddiant cyntaf yng Nghymru i gynnig y Brentisiaeth Uwch newydd mewn Gwyddor Bywyd a Diwydiannau Gwyddonol Cysylltiedig.

 

 

Bydd y Brentisiaeth Uwch yn cael ei hanelu at bobl sy’n gweithio yn sector Gwyddor Bywyd.

Mwy

Oxford

Swyddfa Oxford PharmaGenesis yn agor yng Nghaerdydd

 

Dathlodd Oxford PharmaGenesis agoriad swyddogol ei swyddfa yng Nghaerdydd.

 

Darparodd Llywodraeth Cymru £220,000 o gymorth i agor swyddfa newydd PharmaGenesis. Bydd yn darparu 20 o swyddi cyffrous newydd ar gyfer gwyddonwyr medrus iawn yng Nghymru a fydd yn gweithio â’r gymuned busnes gwyddorau bywyd lleol i ddarparu’r meddyginiaethau a’r technolegau gofal iechyd newydd i gleifion yn y meysydd hynny lle nad yw’r angen yn cael ei ddiwallu ar hyn o bryd.

 

Mwy

Llwyddiant Medica

 

Arweiniodd y tîm Gwyddorau Bywyd y nifer fwyaf erioed o gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru i Medica, sef ffair fasnach fwyaf blaenllaw’r byd ar gyfer technoleg feddygol, electrofeddygaeth, offer labordy, diagnosteg a chyffuriau.

Ym mis Tachwedd, lansiodd Rocialle, sef busnes o Gymru sy’n cyflogi 350 o bobl ar ei safle yn Aberpennar, ei SepsisBox cyntaf yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn Düsseldorf, yr Almaen.

Mwy

digwyddiadau

Presenoldeb da yn Arab Health

Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd 15 cwmni a mwy na 30 o gynrychiolwyr i Arab Health, sef yr arddangosfa gofal iechyd a’r gyngres feddygol fwyaf yn y Dwyrain Canol a’r ail fwyaf yn y byd.

Mae disgwyl i fusnes gofal iechyd y Dwyrain Canol fod yn werth $60 biliwn erbyn 2025 wrth i’r angen am fuddsoddiadau mewn gwasanaethau a chyfleusterau gynyddu. Mae Arab Health yn rhoi llwyfan i gwmnïau ddatblygu busnes ar draws yr ardal honno.

 

Mwy

 

Mae digwyddiad BioCymru yn dychwelyd...

Mae BioCymru, sef digwyddiad Gwyddorau Bywyd mwyaf blaenllaw Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd – ac mae sawl siaradwr gwadd uchel eu proffil eisoes wedi cadarnhau eu bod yn gallu dod.

 

Yn dilyn llwyddiant eleni, bydd y digwyddiad deuddydd sy’n dwyn y thema Iechyd a Chyfoeth yn cael ei gynnal unwaith eto yng Nghanolfan y Mileniwm ar 7-8 Mawrth 2017. Bydd yn canolbwyntio’n benodol ar y datblygiadau diweddaraf mewn therapi celloedd, meddyginiaeth atgynhyrchiol a thechnolegau meddygol – meysydd y mae gan Gymru arbenigedd penodol ynddynt.

 

Mwy

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru

Dilyn ar-lein: