|
|
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw (Dydd Iau
20 Hydref) y byddai'r arian sy'n cael ei wario ar y disgyblion difreintiedig
ieuengaf yn dyblu, a bydd hwb o £20 miliwn i wella safonau mewn ysgolion.
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
|
|
|
Negeseuon defnyddiol y
gall ysgolion eu defnyddio i rannu gyda rhieni a gofalwyr.
Mae'r ddogfen yn esbonio'n fras pam y bydd y
cwricwlwm yn newid a'r amserlen ar gyfer hynny. Mae croeso i chi eu defnyddio
mewn cylchlythyrau neu lythyrau at rieni, Adroddiadau Blynyddol i rieni neu ar
eich gwefannau.
|
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, cyhoeddodd y Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ymgynghoriad ar eu cynigion ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fel rhan o’r ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wir eisiau clywed barn disgyblion mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru ar ein cynigion. Gallwch ddefnyddio’r adnoddau ar dudalen #Cymraeg2050 - Pobl Ifanc ar ein gwefan i helpu eich disgyblion i fod yn rhan o siapio dyfodol y Gymraeg.
Mae fersiwn lawn o’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan ymgynghoriad Strategaeth y Gymraeg.
Bydd Diwrnod
Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel yn cael ei gynnal ar 7 Chwefror 2017
ac mae gennym her newydd ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.
Dyma alw ar ddysgwyr i
gymryd rhan yn ein cystadleuaeth i greu logo newydd ynghylch diogelwch ar-lein
yng Nghymru.
Mae’r rownd olaf o geisiadau ar gyfer y rhaglen
Ysgolion Creadigol Arweiniol ar agor. Mae ysgolion yn barod yn elwa o’r arfer
creadigol sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o’r rhaglen, sydd hefyd yn rhan
annatod o ddatblygiad y cwricwlwm newydd.
Portffolio ar-lein yw’r PDP sydd ar gael i
gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg yn unig, gyda’r bwriad o’ch helpu i
gofnodi a myfyrio ar eich datblygiad proffesiynol a chynllunio eich gyrfa ar
gyfer y dyfodol. Yr ymarferwr sy’n
berchen ar ei Basbort ei hun a bydd i fyny i’r unigolion benderfynu gyda phwy a
sut y dylai hi neu fe rannu’i Basbort.
O 2017, bydd cynllun
newydd, Gofal Plant Di-Dreth, yn dechrau cael ei gyflwyno gan lywodraeth y
Deyrnas Unedig i helpu rhieni sy’n gweithio gyda’u costau gofal plant. Gall
rhieni agor cyfrifon gofal plant ar-lein i dalu eu darparwyr yn uniongyrchol.
Dylai darparwyr gofal
plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymru (CSSIW),
gan gynnwys y rheini sy’n darparu gwasanaethau ar safle ysgolion neu mewn
partneriaeth ag ysgolion, fod wedi derbyn yn ddiweddar lythyr yn eu gwahodd i
ymuno â’r cynllun a gallant gofrestru ar y cynllun ar-lein
nawr.
Hoffem glywed eich barn
am y meini
prawf drafft ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yng
Nghymru a’r cynigion i wella swyddogaethau a rôl Cyngor y Gweithlu
Addysg.
Ddatganiad
Llafar yn y Siambr ar: Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon: hynt y
rhaglen a'r wybodaeth ddiweddaraf, Kirsty Williams AC.
Ydych chi wedi archebu lle ar gyfer eich CwrddHwb? Peidiwch â cholli’r
cyfle!
Mae defnyddwyr Hwb
bellach yn gallu rhannu ffeiliau yn Office 365 gyda defnyddwyr y tu allan i
Hwb. Cofiwch: dim ond ffeiliau unigol y mae defnyddwyr yn gallu eu rhannu. Nid
yw’n bosibl rhannu ffolderi ond gyda defnyddwyr eraill sydd â chyfrif Hwb.
Mae cyfleusterau newydd mewn meithrinfa yn Ysgol
Gynradd Mount Pleasant a gafodd eu hariannu gan Lywodraeth Cymru wedi’u hagor
yn swyddogol gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw.
Dyddiad cau 11
Tachwedd
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru yn gwahodd
disgyblion Blwyddyn 3 a 4 mewn ysgolion
cynradd i gynllunio ei gerdyn Nadolig swyddogol eleni.
Caiff yr enillydd ei wahodd i’r Senedd ym Mae Caerdydd i
gwrdd â’r Prif Weinidog a bydd hefyd yn derbyn copi o’r cynllun buddugol wedi
ei arwyddo a’i fframio.
Caiff y cylchgrawn ei gyhoeddi’n flynyddol er
mwyn cyhoeddi deunydd sy’n dyfnhau dealltwriaeth o ymarfer gorau ar draws
sectorau addysg Cymru.
Mae samplau amrywiol o
adnoddau cyfrifiadureg Barefoot Computing nawr ar gael ar Hwb (mewn gofnodwch).
Mae’r casgliad yn cynnwys adnoddau i gefnogi’r fframwaith cymhwysedd digidol, a
deunyddiau ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a dysgwyr AAA.
Cwrs rhagorol i
athrawon sy’n cysylltu Gwyddoniaeth a'r Archfarchnad.
19 Tachwedd, Amgueddfa
Genedlaethol, Caerdydd
Darlithoedd a gweithdai
ysbrydoledig ar gyfer athrawon ysgolion Cynradd ac Uwchradd sydd â’r bwriad o
gyfeirio at gwricwlwm newydd ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg. Archebwch eich
lle rhad ac am ddim ac eich dewisiadau gweithdy (gwefan
Saesneg yn unig).
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch, cerianangharad@ase.org.uk
(07870 351212).
29 Tachwedd 2016
- Y Pierhead, Bae Caerdydd 11:45–14.00pm
O dan nawdd Kirsty
Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Taith IPLC Cymhwysedd
Digidol i Hong Kong 2017
Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yw’r elfen gyntaf o’r cwricwlwm newydd i
Gymru i fod ar gael. Wrth ystyried hyn, pwrpas trosfwaol IPLC 2017 i Hong Kong
yw ysbrydoli ymagweddau newydd i wella cymhwysedd digidol ar draws ardaloedd y
cwricwlwm bydd yn trawsnewid gweithred o fewn ysgolion Cymraeg.
E-bostiwch am fwy o
wybodaeth ac am ffurflen gais.
Rydym yn gobeithio y bydd yr e-fwletin
diweddaraf yma o ddiddordeb i chi ac yn addysgiadol. Os oes gennych unrhyw
sylwadau am y cynnwys, neu unrhyw syniadau am ddefnydd yn y dyfodol, mae croeso
i chi gysylltu â ni. Rydym yn croesawu eich barn. Mae yna tua 21,500 o
lywodraethwyr yng Nghymru, fe fyddai’n dda o beth meddwl bod pob llywodraethwr
ar ein rhestr bostio, felly lledaenwch y neges ymysg eich cydweithwyr os
gwelwch chi'n dda.
Os yw’ch corff chi’n darparu rhaglenni rhianta fel Rhaglen Cysylltiadau
Teuluol: Magu Plant neu'r Blynyddoedd Rhyfeddol a'n hoffi rhoi’r sgiliau a’r
hyder i rieni allu addysgu eu plant am arian, darllenwch ymlaen.
Gall pob ysgol gynradd ymwneud â gwaith y Comisiynydd i hybu
hawliau plant yng Nghymru trwy’r cynllun Llysgenhadon Gwych. Mae’r disgyblion
yn cael cyfleoedd difyr i ddysgu am hawliau plant a rhoi gwybod i’r Comisiynydd
beth yw eu barn.
Gwasanaeth cyngor a
chymorth cyfrinachol, di-dâl i blant a phobl ifanc, neu’r rhai sy’n gofalu
amdanyn nhw, os byddan nhw’n teimlo bod plentyn yn cael triniaeth annheg.
|