eCylchlythyr Dysg cyn-11 oed Llywodraeth Cymru – 20 Hydref 2016 (Rhifyn 155)

20 Hydref 2016 • Rhifyn 155

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

coins9090

Gwariant ar ddisgyblion ifanc difreintiedig yng Nghymru i ddyblu – Kirsty Williams

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw (Dydd Iau 20 Hydref) y byddai'r arian sy'n cael ei wario ar y disgyblion difreintiedig ieuengaf yn dyblu, a bydd hwb o £20 miliwn i wella safonau mewn ysgolion.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

blog130130

Blog newydd ar gyfer Cwricwlwm i Gymru nawr yn fyw

Diweddariadau mis Hydref

Credu mewn athrawon, meincnodi yn erbyn y gorau

Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC.

Y ddadl o blaid bod yn feiddgar wrth Ddiwygio’r Cwricwlwm

Yr Athro Graham Donaldson

dcf130130

Cwricwlwm i Gymru  lledaenu’r  neges

Negeseuon defnyddiol y gall ysgolion eu defnyddio i rannu gyda rhieni a gofalwyr.

Mae'r ddogfen yn esbonio'n fras pam y bydd y cwricwlwm yn newid a'r amserlen ar gyfer hynny. Mae croeso i chi eu defnyddio mewn cylchlythyrau neu lythyrau at rieni, Adroddiadau Blynyddol i rieni neu ar eich gwefannau.


Tests130130 10

System archebu profion darllen a rhifedd cenedlaethol

Gall ysgolion archebu papurau’r profion pan fydd y system archebu’n mynd yn fyw ar 31 Hydref 2016 hyd at 25 Tachwedd 2016. Dylai ysgolion nodi bod y cyfnod archebu’n fyrrach nag yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Gwybodaeth am ddyddiadau cynnal y profion yn 2017 a dyddiadau pwysig eraill.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Ymgynghoriad ar Strategaeth Ddrafft y Gymraeg

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, cyhoeddodd y Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ymgynghoriad ar eu cynigion ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fel rhan o’r ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wir eisiau clywed barn disgyblion mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru ar ein cynigion. Gallwch ddefnyddio’r adnoddau ar dudalen #Cymraeg2050 - Pobl Ifanc ar ein gwefan i helpu eich disgyblion i fod yn rhan o siapio dyfodol y Gymraeg.

Mae fersiwn lawn o’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan ymgynghoriad Strategaeth y Gymraeg.

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel - Cystadleuaeth dylunio logo diogelwch ar-lein

Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel yn cael ei gynnal ar 7 Chwefror 2017 ac mae gennym her newydd ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.

Dyma alw ar ddysgwyr i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth i greu logo newydd ynghylch diogelwch ar-lein yng Nghymru.

Ysgolion Creadigol Arweiniol – Ffenestr ceisiadau y rownd olaf ar agor!

Mae’r rownd olaf o geisiadau ar gyfer y rhaglen Ysgolion Creadigol Arweiniol ar agor. Mae ysgolion yn barod yn elwa o’r arfer creadigol sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o’r rhaglen, sydd hefyd yn rhan annatod o ddatblygiad y cwricwlwm newydd.

Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)

Portffolio ar-lein yw’r PDP sydd ar gael i gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg yn unig, gyda’r bwriad o’ch helpu i gofnodi a myfyrio ar eich datblygiad proffesiynol a chynllunio eich gyrfa ar gyfer y dyfodol.  Yr ymarferwr sy’n berchen ar ei Basbort ei hun a bydd i fyny i’r unigolion benderfynu gyda phwy a sut y dylai hi neu fe rannu’i Basbort.

Byddwch yn barod i gael Gofal Plant Di-Dreth

O 2017, bydd cynllun newydd, Gofal Plant Di-Dreth, yn dechrau cael ei gyflwyno gan lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu rhieni sy’n gweithio gyda’u costau gofal plant. Gall rhieni agor cyfrifon gofal plant ar-lein i dalu eu darparwyr yn uniongyrchol.

Dylai darparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymru (CSSIW), gan gynnwys y rheini sy’n darparu gwasanaethau ar safle ysgolion neu mewn partneriaeth ag ysgolion, fod wedi derbyn yn ddiweddar lythyr yn eu gwahodd i ymuno â’r cynllun a gallant gofrestru ar y cynllun ar-lein nawr.

Achredu Addysg Gychwynnol i Athrawon

Hoffem glywed eich barn am y meini prawf drafft ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yng Nghymru a’r cynigion i wella swyddogaethau a rôl Cyngor y Gweithlu Addysg.

Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon: hynt y rhaglen a'r wybodaeth ddiweddaraf, Kirsty Williams AC.

Digwyddiadau CwrddHwb: Tymor yr Hydref 2016

Ydych chi wedi archebu lle ar gyfer eich CwrddHwb? Peidiwch â cholli’r cyfle!

Rhannu’n allanol – Office 365

Mae defnyddwyr Hwb bellach yn gallu rhannu ffeiliau yn Office 365 gyda defnyddwyr y tu allan i Hwb. Cofiwch: dim ond ffeiliau unigol y mae defnyddwyr yn gallu eu rhannu. Nid yw’n bosibl rhannu ffolderi ond gyda defnyddwyr eraill sydd â chyfrif Hwb.

Agoriad swyddogol estyniad i feithrinfa ysgol yng Nghasnewydd gan Kirsty Williams

Mae cyfleusterau newydd mewn meithrinfa yn Ysgol Gynradd Mount Pleasant a gafodd eu hariannu gan Lywodraeth Cymru wedi’u hagor yn swyddogol gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw.

Adnoddau a Chystadlaethau

Cyfle i gynllunio gerdyn Nadolig swyddogol y Prif Weinidog eleni

Dyddiad cau 11 Tachwedd

Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru yn gwahodd disgyblion  Blwyddyn 3 a 4 mewn ysgolion cynradd i gynllunio ei gerdyn Nadolig swyddogol eleni.

Caiff yr enillydd ei wahodd i’r Senedd ym Mae Caerdydd i gwrdd â’r Prif Weinidog a bydd hefyd yn derbyn copi o’r cynllun buddugol wedi ei arwyddo a’i fframio.

Cylchgrawn Addysg Cymru

Caiff y cylchgrawn ei gyhoeddi’n flynyddol er mwyn  cyhoeddi deunydd sy’n dyfnhau dealltwriaeth o ymarfer gorau ar draws sectorau addysg Cymru.

Adnoddau Cyfrifiadureg Barefoot Computing

Mae samplau amrywiol o adnoddau cyfrifiadureg Barefoot Computing nawr ar gael ar Hwb (mewn gofnodwch). Mae’r casgliad yn cynnwys adnoddau i gefnogi’r fframwaith cymhwysedd digidol, a deunyddiau ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a dysgwyr AAA. 

newyddion addysg Arall

Gwyddoniaeth Archfarchnad

Cwrs rhagorol i athrawon sy’n cysylltu Gwyddoniaeth a'r Archfarchnad. 

Cynhadledd Cymdeithas Addysg Gwyddoniaeth Cymru (ASE) 2016

19 Tachwedd, Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd

Darlithoedd a gweithdai ysbrydoledig ar gyfer athrawon ysgolion Cynradd ac Uwchradd sydd â’r bwriad o gyfeirio at gwricwlwm newydd ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg. Archebwch eich lle rhad ac am ddim ac eich dewisiadau gweithdy (gwefan Saesneg yn unig).

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch, cerianangharad@ase.org.uk (07870 351212).

Achlysur Cyflwyno Ffilmiau Byrion a Straeon Digidol Prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru

29 Tachwedd 2016 - Y Pierhead, Bae Caerdydd 11:45–14.00pm

O dan nawdd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Taith IPLC Cymhwysedd Digidol i Hong Kong 2017

Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yw’r elfen gyntaf o’r cwricwlwm newydd i Gymru i fod ar gael. Wrth ystyried hyn, pwrpas trosfwaol IPLC 2017 i Hong Kong yw ysbrydoli ymagweddau newydd i wella cymhwysedd digidol ar draws ardaloedd y cwricwlwm bydd yn trawsnewid gweithred o fewn ysgolion Cymraeg.

E-bostiwch am fwy o wybodaeth ac am ffurflen gais

E-bwletin Llywodraethwyr Cymru – Medi 2016

Rydym yn gobeithio y bydd yr e-fwletin diweddaraf yma o ddiddordeb i chi ac yn addysgiadol. Os oes gennych unrhyw sylwadau am y cynnwys, neu unrhyw syniadau am ddefnydd yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â ni. Rydym yn croesawu eich barn. Mae yna tua 21,500 o lywodraethwyr yng Nghymru, fe fyddai’n dda o beth meddwl bod pob llywodraethwr ar ein rhestr bostio, felly lledaenwch y neges ymysg eich cydweithwyr os gwelwch chi'n dda.

Prosiect Gallu Ariannol – Siarad, Dysgu, Gwneud: Rhieni, Plant ac Arian

Os yw’ch corff chi’n darparu rhaglenni rhianta fel Rhaglen Cysylltiadau Teuluol: Magu Plant neu'r Blynyddoedd Rhyfeddol a'n hoffi rhoi’r sgiliau a’r hyder i rieni allu addysgu eu plant am arian, darllenwch ymlaen.

Llysgenhadon Gwych Comisiynydd Plant Cymru

Gall pob ysgol gynradd ymwneud â gwaith y Comisiynydd i hybu hawliau plant yng Nghymru trwy’r cynllun Llysgenhadon Gwych. Mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd difyr i ddysgu am hawliau plant a rhoi gwybod i’r Comisiynydd beth yw eu barn. 

Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Comisiynydd Plant Cymru

Gwasanaeth cyngor a chymorth cyfrinachol, di-dâl i blant a phobl ifanc, neu’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw, os byddan nhw’n teimlo bod plentyn yn cael triniaeth annheg.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant cyn-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym